Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fe ddechreuaf drwy gyfeirio at Lanelwy yn fy rhanbarth. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â Llanelwy—dinas fach berffaith, enwog am ei heglwys gadeiriol a'i gŵyl gerddoriaeth. Ond cefais fy synnu'n fawr, mewn gwirionedd, yn 2014, pan ddatgelwyd mai Llanelwy oedd prifddinas carthffosydd wedi'u blocio yng Nghymru—ni welwch hynny ar yr arwydd ffordd wrth yrru, yn amlwg. [Chwerthin.] Ond y ffaith amdani oedd bod Dŵr Cymru wedi cael eu galw i ymdrin ag 134 achos o flocio yn y ddwy flynedd hyd at 2014 yn Llanelwy: cofnodwyd 71 achos o flocio yn 2013-14, i fyny o 63 achos yn 2012-13. Arweiniodd y digwyddiadau at saith achos o lifogydd ger cartrefi neu fusnesau, ac rydym eisoes wedi clywed pa mor annifyr y gall hynny fod. Ond wrth gwrs, un gymuned yn unig yw Llanelwy, ac mae gennym gannoedd, os nad miloedd, o gymunedau yng Nghymru. Felly, lluoswch hynny ac nid oes ryfedd bod cwmnïau megis Dŵr Cymru yn ymdrin ag oddeutu 2,000 achos o flocio bob mis.
Mewn ymateb i'r sefyllfa yn Llanelwy, lansiodd Dŵr Cymru ymgyrch fawr i leihau'r achosion o flocio carthffosydd. Mae'r ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc yn un y mae llawer ohonom yn gyfarwydd â hi bellach, rwy'n siŵr, a'i nod yw newid ymddygiad cwsmeriaid mewn perthynas â rhoi pethau i lawr y toiled, a chael gwared ar fraster, olew a saim hefyd, wrth gwrs , sy'n cyfrannu'n helaeth. Felly, roedd yr ymgyrch honno'n cynnwys gwersi rhyngweithiol gyda thîm addysg Dŵr Cymru; cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol hwyliog; cystadlaethau; hysbysebu; gosodwyd posteri'n egluro i drigolion beth na ddylech ei roi i lawr y toiled; ac ymwelodd y cwmni â chartrefi a busnesau'n uniongyrchol hyd yn oed i siarad â thrigolion ac i siarad â busnesau er mwyn egluro iddynt ac i rannu awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut y gellid atal y bloc.
Clywsom eisoes sut y mae pobl yn cael gwared ar eitemau bob dydd, fel hancesi gwlyb ar gyfer glanhau, tyweli misglwyf a ffyn cotwm, ynghyd â braster, olew a chrafion bwyd, ac wrth gwrs, mae hyn yn creu hafoc. Gweithiodd cyngor y ddinas yn Llanelwy yn ddiwyd hefyd i geisio egluro i bobl fod gan bawb ran i'w chwarae. Nawr, dyna neges glir y mae angen inni ei rhannu yn y ddadl hon—y gall pawb helpu a gwneud eu rhan, naill ai drwy leihau eu defnydd o eitemau untro fel hancesi gwlyb, neu eu bod yn oedi i feddwl cyn fflysio neu roi unrhyw beth i lawr y toiled neu i lawr y sinc, eu bod yn cael gwared ar hancesi gwlyb, ffyn cotwm, cewynnau mewn modd priodol, ac wrth gwrs, eu bod yn cael gwared ar fraster, olew a saim mewn ffordd ddiogel.
Ond wrth gwrs, nid trigolion lleol a dinasyddion yn unig sydd â rhan i'w chwarae. Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi clywed am yr angen i labelu cynhyrchion nad oes modd eu fflysio yn eglur, rhywbeth a fyddai o gymorth mawr, wrth gwrs, oherwydd mae angen inni sicrhau newid diwylliant sylweddol nid yn unig ymhlith dinasyddion, ond gan weithgynhyrchwyr yn ogystal, fel y gallwn wrthdroi'r diwylliant gwastraffus cynyddol sydd gennym yn ein cymdeithas ac sy'n achosi hyn a chynifer o broblemau amgylcheddol eraill yn ogystal. Yn sicr, gwelir deddfwriaeth mewn perthynas â phrofion i weld a ellir fflysio cynhyrchion a labelu cynnyrch fel rhan o'r ateb, fel y gwelsom gyda'r ardoll ar fagiau plastig a grybwyllwyd yn gynharach, a rhybuddion iechyd ar bacedi sigaréts hefyd y gwyddom eu bod yn newid agweddau pobl yn y cyd-destun penodol hwnnw, sy'n cael effaith gadarnhaol fawr o'i wneud yn dda.
Buaswn yn dweud bod yna ychydig o eironi yma fod UKIP yn cyflwyno'r cynnig hwn, ond wrth gwrs, fe wyddom fod Comisiwn yr UE yn argymell cyfarwyddeb ar ddeunydd untro sy'n cael ei drafftio ar hyn o bryd. Mae'n cynnwys y gofyniad i labelu hancesi gwlyb a chynhyrchion eraill a welwn yn ein carthffosydd yn glir ac yn amlwg fel deunydd na ddylid ei fflysio. Os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw—ac mae'n mynd yn fwy ac yn fwy o 'os' bob dydd, os gofynnwch i mi—yna, yn amlwg, dylem ni yng Nghymru geisio cyflwyno ein rheoliadau ein hunain i sicrhau bod pob cynnyrch o'r fath yn cael ei labelu'n briodol.
Fe siaradaf yn fyr am y gwelliannau. Rwyf ychydig yn siomedig gyda gwelliant y Llywodraeth ein bod yn nodi'r gwaith a wneir gan y Llywodraeth a chwmnïau eraill. Wrth gwrs, mae'r amser ar gyfer nodi wedi mynd heibio. Credaf ei bod hi'n bryd gweithredu'n bendant bellach. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn cyfeirio yn y lle cyntaf at yr angen am ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth, ond ymgyrchoedd ar raddfa sy'n adlewyrchu maint y broblem, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Ac mae ein hail welliant yn ein hannog i fynd ati'n rhagweithiol i ystyried ardoll i leihau'r defnydd o ddeunyddiau tafladwy. Rydym wedi'i weld yn gweithio mewn cyd-destunau eraill. Byddai'n lleihau gwastraff, yn lleihau achosion o flocio ac yn cynhyrchu refeniw yn ogystal i allu ymdrin â'r broblem yn uniongyrchol neu i dalu am ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth.
Rwy'n gobeithio nad y rhwystr mwyaf i ddatrys ein problemau carthffosiaeth yw amharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu.