8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Rhwystrau Carthffosydd

– Senedd Cymru ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:33, 12 Rhagfyr 2018

Daw hynny â ni at yr eitem nesaf, sef dadl UKIP ar rwystrau carthffosydd. Rwy'n galw ar Gareth Bennett i wneud y cynnig. Gareth Bennett. 

Cynnig NDM6898 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.

2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:33, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyflwyno cynnig UKIP heddiw. Fel y dywed ein cynnig, ceir tua 2,000 o achosion o flocio carthffosydd yng Nghymru bob mis, neu tua 24,000 achos y flwyddyn. Yn ddiweddar, rhoddwyd sylw yn y cyfryngau i domenni braster, lle mae braster, olew a saim yn cyfuno â chlytiau a deunyddiau eraill yn y garthffos gan dagu'r rhwydwaith. Cafwyd rhaglenni teledu a ddisgrifiai domenni braster maint bws Llundain. Yn wir, bydd yr Aelodau wedi sylwi ar y gwaith helaeth sy'n digwydd yng Nghei'r Forforwyn, ychydig yn nes i lawr y bae, lle mae Dŵr Cymru yn gorfod gosod carthffos newydd oherwydd yr union broblem hon.

Fodd bynnag, hancesi gwlyb sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o flocio carthffosydd. Eitemau megis hancesi gwlyb ar gyfer babanod a hancesi tynnu colur yw o leiaf ddwy ran o dair o'r achosion o flocio carthffosydd yn ôl Dŵr Cymru. Mewn gwirionedd, mae astudiaeth Water UK o'r achosion o flocio carthffosydd, a gynhaliwyd y llynedd, yn rhoi ffigur uwch hyd yn oed, sef tua 90 i 95 y cant.

Nid yw carthffosydd wedi'u blocio a'r llifogydd a ddaw yn sgil hynny yn ddymunol. Yn wir, pan fo carthion yn mynd i mewn i eiddo, megis cartref neu fusnes, mae'r canlyniadau ar y gorau yn peri gofid mawr ac ar y gwaethaf yn gwbl ddinistriol.

Serch hynny, mae mwyafrif helaeth yr achosion hyn yn rhai y gellir eu hosgoi'n gyfan gwbl. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o'r hancesi gwlyb hyn yn cynnwys deunydd plastig, fel ffibrau polypropylen neu bolyethylen. Nid ydynt yn dadelfennu wrth gael eu fflysio i lawr y toiled, a'r hancesi gwlyb hyn, fel y clywsom, sy'n achosi hyd at 95 y cant o'r achosion o flocio carthffosydd. Pe bai modd dileu'r achosion o flocio carthffosydd a achosir gan hancesi gwlyb, byddai hynny'n arwain at bron 23,000 yn llai o ddigwyddiadau bob blwyddyn.

Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw nad yw llawer o bobl yn gwybod na ddylai'r cynhyrchion hyn gael eu fflysio. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith a wnaed gan gwmnïau dŵr hyd yma i gynyddu ymwybyddiaeth, ond mae hon yn broblem nad yw'n mynd i ddiflannu hyd nes y dechreuwn weithredu'n fwy eang.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud rhywfaint o waith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Ym mis Mai, dywedodd y Gweinidog fod y gwaith hyd yma wedi cynnwys chwe math o ddeunydd pacio bwyd a diod, yn cynnwys poteli a chaniau diodydd a chwpanau coffi untro. Mae pwynt 3 ein cynnig yn gofyn i'r Llywodraeth ehangu'r gwaith i gynnwys cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. Credwn y dylai cwmnïau sy'n cynhyrchu'r eitemau hyn roi mwy o ystyriaeth i gylch oes cyfan eu cynhyrchion, gan gynnwys cael gwared arnynt ar ôl eu defnyddio.

Yn yr un modd, mae EDANA, y gymdeithas Ewropeaidd sy'n monitro deunydd untro a heb ei wehyddu, wedi datblygu prawf i weld a ellir fflysio deunydd a chod ymarfer ar gyfer gweithgynhyrchwyr. Mae hwn yn dweud y dylai hancesi gwlyb na ellir eu fflysio ddangos logo clir ar y deunydd pacio, yn rhybuddio defnyddwyr na ddylid fflysio'r cynnyrch i lawr y toiled. Wrth gwrs, nid yw'n rhwymol, felly mae pwynt 4 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd â hyn gam ymhellach a deddfu i'w wneud yn ofyniad.

Bu llawer o drafod yn y Siambr am ailgylchu, trethi ar blastig, cwpanau coffi untro ac yn y blaen. Dangosodd Cymru arweiniad ar godi tâl am fagiau siopa plastig. Efallai nad oedd yn boblogaidd gan bawb ar unwaith, ond daeth pobl i arfer yn fuan ac mae ailddefnyddio bagiau plastig yn ail natur i'r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn. Mae angen newid diwylliant yn sylweddol ymhlith gweithgynhyrchwyr a defnyddwyr er mwyn gwrthdroi'r diwylliant gwastraffus cynyddol yn ein cymdeithas sy'n peri i garthffosydd gael eu blocio, fel rydym yn sôn heddiw, gan achosi llawer o broblemau amgylcheddol eraill hefyd. Felly, gofynnwn i'r Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:37, 12 Rhagfyr 2018

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o defnyddiau traul.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:37, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Fe ddechreuaf drwy gyfeirio at Lanelwy yn fy rhanbarth. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â Llanelwy—dinas fach berffaith, enwog am ei heglwys gadeiriol a'i gŵyl gerddoriaeth. Ond cefais fy synnu'n fawr, mewn gwirionedd, yn 2014, pan ddatgelwyd mai Llanelwy oedd prifddinas carthffosydd wedi'u blocio yng Nghymru—ni welwch hynny ar yr arwydd ffordd wrth yrru, yn amlwg. [Chwerthin.] Ond y ffaith amdani oedd bod Dŵr Cymru wedi cael eu galw i ymdrin ag 134 achos o flocio yn y ddwy flynedd hyd at 2014 yn Llanelwy: cofnodwyd 71 achos o flocio yn 2013-14, i fyny o 63 achos yn 2012-13. Arweiniodd y digwyddiadau at saith achos o lifogydd ger cartrefi neu fusnesau, ac rydym eisoes wedi clywed pa mor annifyr y gall hynny fod. Ond wrth gwrs, un gymuned yn unig yw Llanelwy, ac mae gennym gannoedd, os nad miloedd, o gymunedau yng Nghymru. Felly, lluoswch hynny ac nid oes ryfedd bod cwmnïau megis Dŵr Cymru yn ymdrin ag oddeutu 2,000 achos o flocio bob mis.

Mewn ymateb i'r sefyllfa yn Llanelwy, lansiodd Dŵr Cymru ymgyrch fawr i leihau'r achosion o flocio carthffosydd. Mae'r ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc yn un y mae llawer ohonom yn gyfarwydd â hi bellach, rwy'n siŵr, a'i nod yw newid ymddygiad cwsmeriaid mewn perthynas â rhoi pethau i lawr y toiled, a chael gwared ar fraster, olew a saim hefyd, wrth gwrs , sy'n cyfrannu'n helaeth. Felly, roedd yr ymgyrch honno'n cynnwys gwersi rhyngweithiol gyda thîm addysg Dŵr Cymru; cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol hwyliog; cystadlaethau; hysbysebu; gosodwyd posteri'n egluro i drigolion beth na ddylech ei roi i lawr y toiled; ac ymwelodd y cwmni â chartrefi a busnesau'n uniongyrchol hyd yn oed i siarad â thrigolion ac i siarad â busnesau er mwyn egluro iddynt ac i rannu awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut y gellid atal y bloc.

Clywsom eisoes sut y mae pobl yn cael gwared ar eitemau bob dydd, fel hancesi gwlyb ar gyfer glanhau, tyweli misglwyf a ffyn cotwm, ynghyd â braster, olew a chrafion bwyd, ac wrth gwrs, mae hyn yn creu hafoc. Gweithiodd cyngor y ddinas yn Llanelwy yn ddiwyd hefyd i geisio egluro i bobl fod gan bawb ran i'w chwarae. Nawr, dyna neges glir y mae angen inni ei rhannu yn y ddadl hon—y gall pawb helpu a gwneud eu rhan, naill ai drwy leihau eu defnydd o eitemau untro fel hancesi gwlyb, neu eu bod yn oedi i feddwl cyn fflysio neu roi unrhyw beth i lawr y toiled neu i lawr y sinc, eu bod yn cael gwared ar hancesi gwlyb, ffyn cotwm, cewynnau mewn modd priodol, ac wrth gwrs, eu bod yn cael gwared ar fraster, olew a saim mewn ffordd ddiogel.

Ond wrth gwrs, nid trigolion lleol a dinasyddion yn unig sydd â rhan i'w chwarae. Mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi clywed am yr angen i labelu cynhyrchion nad oes modd eu fflysio yn eglur, rhywbeth a fyddai o gymorth mawr, wrth gwrs, oherwydd mae angen inni sicrhau newid diwylliant sylweddol nid yn unig ymhlith dinasyddion, ond gan weithgynhyrchwyr yn ogystal, fel y gallwn wrthdroi'r diwylliant gwastraffus cynyddol sydd gennym yn ein cymdeithas ac sy'n achosi hyn a chynifer o broblemau amgylcheddol eraill yn ogystal. Yn sicr, gwelir deddfwriaeth mewn perthynas â phrofion i weld a ellir fflysio cynhyrchion a labelu cynnyrch fel rhan o'r ateb, fel y gwelsom gyda'r ardoll ar fagiau plastig a grybwyllwyd yn gynharach, a rhybuddion iechyd ar bacedi sigaréts hefyd y gwyddom eu bod yn newid agweddau pobl yn y cyd-destun penodol hwnnw, sy'n cael effaith gadarnhaol fawr o'i wneud yn dda.

Buaswn yn dweud bod yna ychydig o eironi yma fod UKIP yn cyflwyno'r cynnig hwn, ond wrth gwrs, fe wyddom fod Comisiwn yr UE yn argymell cyfarwyddeb ar ddeunydd untro sy'n cael ei drafftio ar hyn o bryd. Mae'n cynnwys y gofyniad i labelu hancesi gwlyb a chynhyrchion eraill a welwn yn ein carthffosydd yn glir ac yn amlwg fel deunydd na ddylid ei fflysio. Os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw—ac mae'n mynd yn fwy ac yn fwy o 'os' bob dydd, os gofynnwch i mi—yna, yn amlwg, dylem ni yng Nghymru geisio cyflwyno ein rheoliadau ein hunain i sicrhau bod pob cynnyrch o'r fath yn cael ei labelu'n briodol.

Fe siaradaf yn fyr am y gwelliannau. Rwyf ychydig yn siomedig gyda gwelliant y Llywodraeth ein bod yn nodi'r gwaith a wneir gan y Llywodraeth a chwmnïau eraill. Wrth gwrs, mae'r amser ar gyfer nodi wedi mynd heibio. Credaf ei bod hi'n bryd gweithredu'n bendant bellach. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn cyfeirio yn y lle cyntaf at yr angen am ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth, ond ymgyrchoedd ar raddfa sy'n adlewyrchu maint y broblem, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Ac mae ein hail welliant yn ein hannog i fynd ati'n rhagweithiol i ystyried ardoll i leihau'r defnydd o ddeunyddiau tafladwy. Rydym wedi'i weld yn gweithio mewn cyd-destunau eraill. Byddai'n lleihau gwastraff, yn lleihau achosion o flocio ac yn cynhyrchu refeniw yn ogystal i allu ymdrin â'r broblem yn uniongyrchol neu i dalu am ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth.

Rwy'n gobeithio nad y rhwystr mwyaf i ddatrys ein problemau carthffosiaeth yw amharodrwydd Llywodraeth Cymru i weithredu.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:43, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Ym mhwyllgor yr amgylchedd, rydym wedi edrych ar y mater penodol hwn, gan gymryd tystiolaeth gan Dŵr Cymru a sefydliadau eraill ynglŷn â'r problemau peirianyddol y mae'r broblem wastraff hon yn eu hachosi, ond hefyd y problemau ariannol yn ogystal, ac ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae'n amlwg fod llawer o'r achosion hyn o flocio'n digwydd o dan ein traed yn y carthffosydd sy'n mynd yr holl ffordd drwy ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, ond wedyn y gwaith peirianyddol a welwn yn digwydd fydd y tro cyntaf yn aml iawn y byddwn yn sylweddoli bod yna broblem.

Ac mae llawer y gallwn ei wneud, a byddwn yn cefnogi cynnig UKIP y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth a gwelliant 2 Plaid Cymru, ond byddwn yn ymatal ar welliant 3 oherwydd ein bod weithiau'n rhy barod i droi at ysgogiadau trethiant. Rwy'n derbyn bod llawer o enghreifftiau da sy'n dangos bod trethiant a chosbi pobl yn gallu arwain at y newid sydd ei angen, ond credwn fod cryn dipyn yn rhagor o waith i'w wneud ar hynny o hyd. Unwaith eto, rwy'n derbyn mai 'archwilio' y mae'r gwelliant yn ei ddweud, ond ym maes pobl anabl yn arbennig, er enghraifft, ac achosion arbennig eraill, credaf fod angen deall mwy am eu gofynion a'u hanghenion pan fyddwn yn sôn am hancesi gwlyb, oherwydd os ewch yn ôl 10, 15 mlynedd, mae'n debyg nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn gweld hon yn broblem o gwbl, fel y cyfryw—roedd yn rhan o fywyd bob dydd.

Ond fel yr agenda ailgylchu a welsom ar draws y wlad—. Ymwelais â depo ailgylchu ddydd Llun, ac roedd hi'n ddiddorol iawn gweld y broses ailgylchu honno ar waith a sut nad oes bron ddim na ellir ei ailgylchu erbyn hyn. Mae defnydd terfynol iddo, boed yn fagiau bin du yn mynd tuag at ddefnydd ynni, neu'r bagiau bin glas, yn yr achos hwn—roedd y safle penodol hwn yn Sir Gaerfyrddin—ac roedd holl gynnwys y bag yn cael ei ddefnyddio fel nwydd y gellid ei ailgylchu gyda gwerth iddo. Pe baech wedi dweud wrth rywun 20 mlynedd yn ôl am yr agenda ailgylchu, byddent wedi edrych arnoch yn geg agored wrth ddeall y gallech newid y gwastraff yn werth ac mewn gwirionedd, y cyfan a wnawn yw taflu'r cyfan i'r bin a daw rhywun heibio unwaith yr wythnos i'w godi a'i gludo ymaith ac mae'n broblem i rywun arall. Yn wir, wrth ichi ddod i mewn—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod John yn gwylio'r pêl-droed, ydy? Pwy sy'n ennill, John? [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Rhowch y gefnogaeth. Mewn gwirionedd, nid yw'n bump o'r gloch eto, ac nid wyf yn meddwl bod unigolyn penodol ar eu traed yn Nhŷ'r Cyffredin eto. Fe fyddant cyn hir. [Chwerthin.]

Ond i ddychwelyd at yr eitem agenda rydym yn sôn amdani yma, mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud cynnydd oherwydd mae hwn yn fater pwysig tu hwnt o ran costau sy'n rhaid eu dargyfeirio i ailstrwythuro ein system garthion a dŵr budr pan ellid defnyddio'r adnodd gwerthfawr hwnnw mewn sawl ffordd fuddiol arall. Hyn a hyn y gallwch ei wario yn y system drin dŵr gwastraff, ac os aiff yr arian hwnnw tuag at rywbeth y gallwn ni fel defnyddwyr wneud gwahaniaeth yn ei gylch, yna does bosib nad yw hynny'n gwneud synnwyr perffaith.

Bagiau plastig—[Torri ar draws.] Gwn ei bod hi'n araith wych John, ond—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:46, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Y cyfan a ddywedaf yw tri chamgymeriad ac fe fyddwch chi allan. [Chwerthin.]

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Mae wedi'i ddiffodd, Lywydd.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Cofiaf yn dda pan oeddwn ar y Pwyllgor Deisebau cyntaf yn y sefydliad hwn, a chyflwynwyd y tâl am fagiau plastig bryd hynny. Ac mewn gwirionedd, pe baech yn mynd i archfarchnad 10 mlynedd yn ôl ac yn gofyn am fag plastig roeddech yn disgwyl ei gael, ac mewn gwirionedd roedd hi braidd yn rhyfedd os na chaech fag plastig. Heddiw, os byddwch yn sefyll wrth y cownter ac yn gofyn am fag plastig, maent yn edrych arnoch, ni fuaswn yn dweud gyda dirmyg, ond gyda chwilfrydedd oherwydd gwyddom am y niwed y mae bagiau plastig yn ei wneud, a mae'n destun balchder mawr fod pobl yn mynd â'u bagiau amldro i'r archfarchnad mewn gwirionedd. Ac felly, yn y ddadl hon, credaf fod angen inni newid diwylliant, y diwylliant gwastraffus sydd gennym ar hyn o bryd, a'i fod yn ymwneud ag ymwybyddiaeth y cyhoedd yn arbennig a gwybodaeth am y niwed y mae hancesi gwlyb a deunydd plastig yn enwedig yn ei achosi i'r hyn nad yw'n broblem weledol ond sydd, yn hytrach, yn broblem sy'n digwydd o dan ein traed gan ddifrodi ein seilwaith gwerthfawr.

Hoffwn dynnu sylw'r Siambr at weithredoedd Llywodraeth y DU ac ymrwymiad Llywodraeth y DU yn y maes penodol hwn. Mae ganddi ymrwymiad i ddileu'r holl wastraff plastig y gellir ei osgoi erbyn 2042. Lansiodd ymgynghoriad ar y maes hwn yn arbennig i weld pa gamau y gellir eu cymryd, ac yn enwedig mewn perthynas â labelu. Felly, nid yr Undeb Ewropeaidd yn unig sy'n gwneud hyn, fel y nododd Llyr; mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn rhoi camau breision ar waith yn y maes drwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Michael Gove.

Ac felly rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill ledled y DU, oherwydd mae angen inni weld y newid ar draws y DU gyfan, nid yn unig yng Nghymru. A lle y ceir arferion gorau, gallwn ddefnyddio'r arferion gorau hynny yma yng Nghymru. Felly, nid ydym yn petruso ar y meinciau hyn heddiw rhag cefnogi cynnig UKIP a gyflwynwyd yma a chefnogi gwelliannau 1 a 2 ond byddwn yn ymatal ar welliant 3.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Mae llygredd plastig a sbwriel o hancesi gwlyb sy'n cael eu fflysio ar gynnydd. Y llynedd, cofnododd y Gymdeithas Cadwraeth Forol fod dros 14 o hancesi gwlyb i'w gweld ar bob 100 metr o arfordir, cynnydd o 700 y cant dros y degawd diwethaf.

Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld neu wedi clywed am broblem enfawr y plastig sy'n llygru ein cefnforoedd, ac mae'n amlwg nad yw'r broblem wedi'i chyfyngu i ffyn cotwm a hancesi gwlyb, fel y clywsom yn y ddadl yn gynharach. Mae'r defnydd o hancesi gwlyb wedi cynyddu'n aruthrol, a bu cynnydd enfawr yn nifer y cynhyrchion hyn sy'n cael eu gwerthu, gydag ymgyrchoedd hysbysebu mawr gan weithgynhyrchwyr a'r diwydiant colur yn cynyddu'r galw ymhellach.

Gan droi at y gwelliannau, yn syml iawn mae gwelliant Llafur yn hunanfodlon, ac mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar symptomau yn hytrach nag achosion. Mae'r hancesi gwlyb hyn ac eitemau eraill yn y system garthion yn y lle cyntaf oherwydd bod pobl wedi'u rhoi yno. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i ffyrdd o gyfleu'r neges i'r cyhoedd y dylai'r eitemau hyn fynd i'r bin yn hytrach nag i lawr y toiled, mae'r broblem yn mynd i waethygu. Gall cwmnïau dŵr ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw maint y broblem, ond ni allant reoli beth y mae pobl yn ei roi i lawr y toiled, ac i mewn i garthffosydd cyhoeddus. I fod yn deg, ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ychwaith, ond maent mewn gwell sefyllfa o lawer na'r cwmnïau dŵr i addysgu'r cyhoedd. Am y rheswm hwnnw a'r ffaith y byddai'n dileu ein galwad am fwy o waith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ni allwn gefnogi gwelliant 1. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliant 2.

Gan droi at welliant 3, a gynigiwyd gan Blaid Cymru, ar archwilio trethi newydd i leihau'r defnydd o ddeunyddiau traul, credaf y gall pawb yn y Siambr hon gytuno â ni na ddylai'r gwastraff hwn a grëwyd gan bobl gyrraedd ein hamgylchedd yn y pen draw. Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r ateb priodol, a gallai hynny ddigwydd drwy gyfuniad o fesurau, ond rwy'n cwestiynu pa mor effeithiol y byddai trethi newydd yn lleihau'r defnydd o eitemau fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. Nid eitemau drud yw'r rhain, lle gallai treth uchel iawn hyd yn oed godi'r pris ddigon i leihau'r defnydd yn sylweddol. Mae'n wir y byddai rhai pobl yn methu fforddio prynu'r eitemau hyn, ond a ydych chi eisiau i'r bobl a allai fod fwyaf o'u hangen, pobl ar incwm isel, fethu eu fforddio? Nid ydym ni am wneud hynny, a dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 3.

Yn fy marn i, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r cwmnïau dŵr fabwysiadu ymagwedd ddeublyg. Ar yr un pryd ag addysgu'r cyhoedd am gostau a chanlyniadau fflysio eitemau y dylid eu rhoi yn y bin, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r cwmnïau dŵr weithio gyda gwneuthurwyr yr eitemau hyn i greu dewisiadau amgen na fyddant yn blocio carthffosydd ar y ffordd i'r gwaith trin carthion, hyd yn oed os ydynt yn cael eu fflysio i lawr y toiled. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:51, 12 Rhagfyr 2018

Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon ac i bawb sydd wedi cyfrannu? Nid oes dim yn well i ddynodi ei bod hi'n Nadolig na dadl ar flocio carthffosydd, ond o ddifrif, gwyddom fod cynnydd sylweddol yn y defnydd o hancesi gwlyb a chynhyrchion hylendid eraill yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gynnydd mewn eitemau o'r fath sy'n cael eu fflysio i lawr y toiled, lle maent yn mynd i mewn i'r rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus, gan arwain at y problemau a'r achosion o flocio a drafodwyd gennym yma y prynhawn yma.

Ni waeth beth y mae'n ddweud ar y deunydd pacio, mae'r rhan fwyaf o'n cynhyrchion gofal iechyd personol a'n cynhyrchion harddwch yn anaddas i'w fflysio i lawr y toiled. Hancesi gwlyb a chynhyrchion eraill 'untro' fel y'u gelwir yw prif achos blocio carthffosydd a galwadau brys i orsafoedd pwmpio carthion. Mae'r canlyniadau, fel y buom yn siarad amdanynt heddiw, yn aml yn gostus o ran cynnal a chadw, gwaith atgyweirio, llifogydd a llygredd amgylcheddol. Mae mwy na thri chwarter, 80 y cant, o lifogydd carthffosydd yng Nghymru a Lloegr yn deillio o achosion o garthffosydd wedi'u blocio, sy'n costio tua £7 miliwn i Dŵr Cymru bob flwyddyn. A soniodd Gareth Bennett am y domen fraster y mae Dŵr Cymru wedi bod yn ymdrin â hi rownd y gornel yng Nghei'r Forforwyn fel enghraifft o'r hyn a all ddigwydd. 

Er mwyn helpu i wella cydnerthedd y system garthffosiaeth, mae rhaglen ddraenio'r unfed ganrif ar hugain, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys dros 40 o sefydliadau, wedi datblygu fframwaith ar gyfer cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff. Bydd y cynlluniau hyn yn sail i gynlluniau cydweithredol ac integredig mwy hirdymor gan gwmnïau mewn perthynas â charthffosiaeth, draenio, llifogydd a diogelu'r amgylchedd. Mae ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth wedi cytuno i baratoi cynllun treialu ar gyfer draenio a rheoli dŵr gwastraff erbyn 2022, a byddwn yn eu hannog i gynnwys dulliau cadarn ar gyfer cynyddu gallu'r system garthffosiaeth i wrthsefyll blocio.

Ond fel y trafodwyd heddiw, rhan o'r her yw ymwybyddiaeth ac addysgu'r cyhoedd ynglŷn â beth i beidio â'i roi i lawr y toiled neu ddraeniau. Mae rhaglen ddraenio'r unfed ganrif ar hugain yn cydnabod bod angen newid ymddygiad er mwyn cyfyngu ar yr achosion o flocio a llygredd, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r mathau mwyaf ecogyfeillgar o gynhyrchion hylendid a sut i gael gwared arnynt yn y ffordd gywir. Mae'r cwmnïau dŵr eu hunain yn argymell na ddylid fflysio dim byd heblaw'r tair 'p'—papur, pi-pi a pw-pw—i lawr y toiled.

Ymgyrch ddiweddar i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac atal—rwy'n falch fod pobl wedi chwerthin. [Chwerthin.] Ymgyrch ddiweddar i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd oedd 'Stop Cyn Creu Bloc' gan Dŵr Cymru. Mae angen llawer o'r negeseuon hyn sydd wedi'u targedu os ydym am weld gwahaniaeth, a chefais brofiad o un o'r ymgyrchoedd hyn pan oeddwn—. Roeddent yn dangos uwchgynhadledd eco yn ystod y Ras Hwylio Volvo ac roedd wedi'i hanelu at fyfyrwyr ysgol uwchradd ac at eu haddysgu beth y gallwch ac na allwch ei roi i lawr y toiled, ac roeddent wedi'i wneud mewn ffordd a ddisgrifiai'r toiled fel y clwb nos roedd pawb am fynd iddo a'r bin fel y clwb nos llai dymunol. Ond nid wyf am fanylu ar beth oedd yn cael ei adael i mewn i'r ddau glwb nos ar y pwynt hwn, ond gallwch wylio ar-lein os ydych am weld.

Roedd astudiaeth Water UK ynghylch hancesi gwlyb a blocio carthffosydd yn argymell na ddylid cynnwys ffibrau polyethylen mewn unrhyw gynnyrch gyda label sy'n dweud y gellir ei fflysio, a dylai fod gofyniad i arddangos y logo sy'n dweud wrth y defnyddiwr am beidio â fflysio yn glir ar flaen pob pecyn o hancesi gwlyb na ellir eu fflysio. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith gyda'r diwydiant, megis prawf cydnabyddedig i benderfynu a yw cynnyrch yn addas i'w fflysio go iawn ai peidio.

Rwy'n cefnogi'r egwyddor o ddeddfu i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen yn y maes hwn os ydynt yn angenrheidiol, yn ymarferol ac yn briodol. Mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn ffordd o fynd i'r afael â hyn trwy sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo costau llawn net am reoli diwedd oes y cynnyrch a'i ddeunydd pacio. Gellir ei ddefnyddio i wella cyfraddau ailgylchu, hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau ailgylchadwy, ac i ryw raddau, i dalu am glirio sbwriel. Llyr Gruffydd, ynglŷn â'ch cyfraniad fod y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried cynnwys gofyniad i ymestyn rheoliadau trwyddedu amgylcheddol ar hyn o bryd ar gyfer hancesi gwlyb ynghyd ag amrywiaeth o eitemau eraill nad yw'n ddeunydd pacio, a'r gyfarwyddeb arfaethedig ar blastig untro—mae'n faes cymhleth a byddai'n gynamserol inni symud hyn ymlaen hyd nes y gwneir y gyfarwyddeb ar y cam hwn, ond yn amlwg, mae'n rhywbeth y gallwn ei ailystyried ac edrych arno yn y dyfodol.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y potensial ar gyfer treth ar blastig tafladwy fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu pwerau trethu newydd. Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ddadl yn y Cynulliad y llynedd i ddechrau sgwrs genedlaethol am y cyfleoedd y gallai trethi newydd eu sicrhau i Gymru a chyhoeddodd ei fwriad i brofi pwerau Deddf Cymru drwy gynnig treth ar dir gwag, ac ystyried opsiynau posibl mewn perthynas â threthi ar blastig tafladwy. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn asesu manylion dull Llywodraeth y DU o weithredu camau posibl i drethu deunydd plastig untro er mwyn ystyried y ffordd orau ymlaen i ni. Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan mewn prosesau ymgysylltu, datblygu polisi a gweithredu ar gyfer unrhyw fesurau trethiant yn y maes hwn. Byddai angen i unrhyw gynnig treth newydd fynd drwy'r un broses â'r cynnig treth ar dir gwag, lle mae angen caniatâd dau Dŷ'r Senedd a Llywodraeth y DU arnom. Wrth ofyn am ddatganoli'r pwerau angenrheidiol, o ran potensial treth o'r fath, byddai angen inni helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid trethi yw'r unig ateb ac nid yw'n ateb i bob problem; maent yn rhan o dirwedd ehangach o ddulliau rheoliadol a dulliau eraill sy'n cael eu hystyried ar gyfer newid ymddygiad, ac nid ydynt yn unig opsiwn ar gyfer gwneud gwelliannau mewn perthynas â'r problemau a grëwyd gan wastraff plastig.

Fel y mae'r gwelliant yn ei argymell, byddwn yn parhau i archwilio'r potensial ar gyfer trethi ar blastig tafladwy, ac yn bwysicaf oll, yn ganolog i'r ymagwedd a fabwysiadir yng Nghymru, bydd sicrhau y cymerir y camau cywir ar wella rôl Cymru yn arwain yr agenda gwastraff. Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu am y niwed amgylcheddol a achosir gan hancesi gwlyb a ffyn cotwm ac yn croesawu adroddiad Water UK. Mae angen gwneud gwaith mwy manwl ar archwilio'r opsiynau deddfwriaethol y gall y Cynulliad Cenedlaethol fwrw ymlaen â hwy i fynd i'r afael â'r broblem hon yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn y flwyddyn nesaf ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant dŵr ar ddatblygu opsiynau ymarferol.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol, addysgiadol a buddiol, ac mae UKIP wedi cyflwyno'r ddadl hon mewn ysbryd o gonsensws ar yr adeg hon o'r flwyddyn, pan ddylai ysbryd ewyllys da ymledu drwy bawb ohonom, ac ymddengys ei fod wedi gwneud hynny. Er na allwn dderbyn y gwelliannau i gyd, rydym o leiaf wedi llwyddo i osgoi'r 'dileu popeth', sydd fel arfer yn y rhagymadrodd i'r holl welliannau a gyflwynir i'n cynigion ni. Felly, gallaf groesawu hynny, o leiaf. Yn yr oes pan oeddwn yn tyfu fyny yn fachgen bach, nid oeddem yn taflu llawer o wastraff wrth gwrs; cefais dy nysgu bob amser i beidio â gadael unrhyw beth ar ôl ar fy mhlât, felly nid oeddem yn arllwys braster i lawr y sinc, na dim byd felly. Problemau bywyd modern ac economi sy'n datblygu yw'r rhain.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl, a diolch i Llyr Gruffydd am y wybodaeth mai Llanelwy yw prifddinas Cymru mewn perthynas â charthffosydd wedi blocio, ac roedd hynny'n sicr yn newydd i mi. Ond mae'n dangos maint y broblem, rwy'n credu—gall hyd yn oed lle bach fel Llanelwy gael problem fawr o'r math hwn. Rwy'n sicr o dynnu sylw Nick Ramsay at broblem rhoi hancesi gwlyb ar gyfer babanod i lawr y toiled ac ati, gan fy mod yn credu y gall ddangos y ffordd ymlaen ar ei aelwyd ei hun, ac felly i weddill Cymru. Ond cyfeiriodd Llyr Gruffydd, yn ystod ei araith, at gyfarwyddeb yr UE, ac roeddwn yn synhwyro rhyw fath o gellwair yn y ffordd y siaradodd am hynny, fel pe na ddylai UKIP gefnogi unrhyw beth y mae'r UE o'i blaid. Ond wrth gwrs, nid ydym yn erbyn popeth a wna'r UE, dim ond ein bod am ei wneud ein hunain, ac fel y dywedodd yn briodol, byddem yn gallu rhoi ein camau ein hunain ar waith yng Nghymru, os a phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd , a byddai UKIP yn cefnogi cam o'r fath yn frwd.

Gwnaeth Andrew R.T. Davies bwynt da, rwy'n credu, nad ydym yn meddwl am y broblem hon am ei bod yn anweledig i raddau helaeth, mae hi o dan ein traed—neu ei heffeithiau, beth bynnag: datblygiad tomenni braster mewn carthffosydd ac ati—hyd nes yr amlygir y broblem gan yr angen i ddadflocio'r carthffosydd ac felly, y gwaith ffordd a'r gwaith cloddio sydd ei angen i wneud hynny. Ac mae'n amserol, felly, i ni gael y ddadl hon. Tynnodd sylw at yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y cyswllt hwn hefyd, ac y dylai unrhyw beth sy'n ailgylchadwy gael ei ailgylchu, ond mae'r dyddiad targed o 2042 i'w weld yn bell i ffwrdd—byddaf yn 93 bryd hynny, os byddaf yn goroesi cyhyd—a thybed a yw'r amserlen honno ychydig yn rhy araf o bosibl.

Hoffwn ddiolch i John Griffiths hefyd am ei gyfraniad yn y ddadl heddiw. Er ei fod yn anfwriadol, o leiaf fe lwyddodd i ysgafnhau'r pwyntiau yr oeddem yn eu cyflwyno. Gwnaeth Michelle Brown rai pwyntiau diddorol iawn hefyd. Roedd gennyf ddiddordeb, yn arbennig, yn y ffigurau a gynhyrchodd gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol—fod yna 14 o hancesi gwlyb ar bob 100m o arfordir, a bod hynny'n dangos cynnydd o 700 y cant mewn 10 mlynedd. Os na wneir unrhyw beth am hyn, yn amlwg bydd cyfradd y cynnydd yn parhau. Ond rwy'n cytuno â hi, ac yn wir, gydag Andrew R.T. Davies, efallai nad treth yw'r ffordd orau o ymdrin â'r broblem, ac yn benodol, pa mor effeithiol y gall fod? Os yw'r eitemau a fydd yn cael eu trethu yn gymharol rad mewn gwirionedd, byddai angen iddo fod yn gynnydd sylweddol o ran treth i gael unrhyw effaith ar ymddygiad pobl, a byddai hynny'n effeithio'n fwyaf dramatig ar bobl ar incwm isel, sy'n rhywbeth y dylem oll ei gofio pan fyddwn yn argymell trethi i geisio newid ymddygiad. Rhaid inni bwyso a mesur y buddiannau sy'n cystadlu ac sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Rwy'n credu bod Hannah Blythyn wedi bod yn deg iawn, fel y Gweinidog, a byddaf yn sicr yn cofio un ymadrodd yn ei haraith, beth bynnag, mai pi-pi, papur a pw-pw yw'r unig bethau y dylem eu rhoi i lawr y toiled. Credaf fod hynny'n perthyn i'r categori 'gormod o wybodaeth', ond efallai ei bod hi'n iawn ei bod wedi cynnwys un ymadrodd cofiadwy o leiaf yn y ddadl heddiw.

Felly, rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno bod hwn wedi bod yn archwiliad defnyddiol o'r mater, ac mae'n ddrwg gennyf na all y Llywodraeth fod yn fwy beiddgar yn ei dyheadau, oherwydd nid yw'n ymddangos i mi fod dileu ein cynnig, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu gwaith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ynddo'i hun yn ddyhead dadleuol, ac nid yw nodi gwaith y Llywodraeth ar archwilio opsiynau yn mynd yn ddigon pell mewn gwirionedd. Felly, wrth gwrs, ni allwn gefnogi gwelliant 2, am nad yw'n ddigon beiddgar. Mae yna broblem gydag allanoldebau sy'n galw am sylw, a'r Llywodraeth yw'r lle gorau i wneud hynny.

Felly, ar y nodyn hwnnw, credaf fy mod am dddirwyn fy sylwadau i ben. A dyma'r tro olaf y byddaf yn siarad yn y Cynulliad cyn y Nadolig, felly hoffwn ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:02, 12 Rhagfyr 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.