Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Rwy'n falch o gyflwyno cynnig UKIP heddiw. Fel y dywed ein cynnig, ceir tua 2,000 o achosion o flocio carthffosydd yng Nghymru bob mis, neu tua 24,000 achos y flwyddyn. Yn ddiweddar, rhoddwyd sylw yn y cyfryngau i domenni braster, lle mae braster, olew a saim yn cyfuno â chlytiau a deunyddiau eraill yn y garthffos gan dagu'r rhwydwaith. Cafwyd rhaglenni teledu a ddisgrifiai domenni braster maint bws Llundain. Yn wir, bydd yr Aelodau wedi sylwi ar y gwaith helaeth sy'n digwydd yng Nghei'r Forforwyn, ychydig yn nes i lawr y bae, lle mae Dŵr Cymru yn gorfod gosod carthffos newydd oherwydd yr union broblem hon.
Fodd bynnag, hancesi gwlyb sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o flocio carthffosydd. Eitemau megis hancesi gwlyb ar gyfer babanod a hancesi tynnu colur yw o leiaf ddwy ran o dair o'r achosion o flocio carthffosydd yn ôl Dŵr Cymru. Mewn gwirionedd, mae astudiaeth Water UK o'r achosion o flocio carthffosydd, a gynhaliwyd y llynedd, yn rhoi ffigur uwch hyd yn oed, sef tua 90 i 95 y cant.
Nid yw carthffosydd wedi'u blocio a'r llifogydd a ddaw yn sgil hynny yn ddymunol. Yn wir, pan fo carthion yn mynd i mewn i eiddo, megis cartref neu fusnes, mae'r canlyniadau ar y gorau yn peri gofid mawr ac ar y gwaethaf yn gwbl ddinistriol.
Serch hynny, mae mwyafrif helaeth yr achosion hyn yn rhai y gellir eu hosgoi'n gyfan gwbl. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o'r hancesi gwlyb hyn yn cynnwys deunydd plastig, fel ffibrau polypropylen neu bolyethylen. Nid ydynt yn dadelfennu wrth gael eu fflysio i lawr y toiled, a'r hancesi gwlyb hyn, fel y clywsom, sy'n achosi hyd at 95 y cant o'r achosion o flocio carthffosydd. Pe bai modd dileu'r achosion o flocio carthffosydd a achosir gan hancesi gwlyb, byddai hynny'n arwain at bron 23,000 yn llai o ddigwyddiadau bob blwyddyn.
Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw nad yw llawer o bobl yn gwybod na ddylai'r cynhyrchion hyn gael eu fflysio. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith a wnaed gan gwmnïau dŵr hyd yma i gynyddu ymwybyddiaeth, ond mae hon yn broblem nad yw'n mynd i ddiflannu hyd nes y dechreuwn weithredu'n fwy eang.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud rhywfaint o waith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Ym mis Mai, dywedodd y Gweinidog fod y gwaith hyd yma wedi cynnwys chwe math o ddeunydd pacio bwyd a diod, yn cynnwys poteli a chaniau diodydd a chwpanau coffi untro. Mae pwynt 3 ein cynnig yn gofyn i'r Llywodraeth ehangu'r gwaith i gynnwys cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. Credwn y dylai cwmnïau sy'n cynhyrchu'r eitemau hyn roi mwy o ystyriaeth i gylch oes cyfan eu cynhyrchion, gan gynnwys cael gwared arnynt ar ôl eu defnyddio.
Yn yr un modd, mae EDANA, y gymdeithas Ewropeaidd sy'n monitro deunydd untro a heb ei wehyddu, wedi datblygu prawf i weld a ellir fflysio deunydd a chod ymarfer ar gyfer gweithgynhyrchwyr. Mae hwn yn dweud y dylai hancesi gwlyb na ellir eu fflysio ddangos logo clir ar y deunydd pacio, yn rhybuddio defnyddwyr na ddylid fflysio'r cynnyrch i lawr y toiled. Wrth gwrs, nid yw'n rhwymol, felly mae pwynt 4 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd â hyn gam ymhellach a deddfu i'w wneud yn ofyniad.
Bu llawer o drafod yn y Siambr am ailgylchu, trethi ar blastig, cwpanau coffi untro ac yn y blaen. Dangosodd Cymru arweiniad ar godi tâl am fagiau siopa plastig. Efallai nad oedd yn boblogaidd gan bawb ar unwaith, ond daeth pobl i arfer yn fuan ac mae ailddefnyddio bagiau plastig yn ail natur i'r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn. Mae angen newid diwylliant yn sylweddol ymhlith gweithgynhyrchwyr a defnyddwyr er mwyn gwrthdroi'r diwylliant gwastraffus cynyddol yn ein cymdeithas sy'n peri i garthffosydd gael eu blocio, fel rydym yn sôn heddiw, gan achosi llawer o broblemau amgylcheddol eraill hefyd. Felly, gofynnwn i'r Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.