Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Mae llygredd plastig a sbwriel o hancesi gwlyb sy'n cael eu fflysio ar gynnydd. Y llynedd, cofnododd y Gymdeithas Cadwraeth Forol fod dros 14 o hancesi gwlyb i'w gweld ar bob 100 metr o arfordir, cynnydd o 700 y cant dros y degawd diwethaf.
Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld neu wedi clywed am broblem enfawr y plastig sy'n llygru ein cefnforoedd, ac mae'n amlwg nad yw'r broblem wedi'i chyfyngu i ffyn cotwm a hancesi gwlyb, fel y clywsom yn y ddadl yn gynharach. Mae'r defnydd o hancesi gwlyb wedi cynyddu'n aruthrol, a bu cynnydd enfawr yn nifer y cynhyrchion hyn sy'n cael eu gwerthu, gydag ymgyrchoedd hysbysebu mawr gan weithgynhyrchwyr a'r diwydiant colur yn cynyddu'r galw ymhellach.
Gan droi at y gwelliannau, yn syml iawn mae gwelliant Llafur yn hunanfodlon, ac mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar symptomau yn hytrach nag achosion. Mae'r hancesi gwlyb hyn ac eitemau eraill yn y system garthion yn y lle cyntaf oherwydd bod pobl wedi'u rhoi yno. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i ffyrdd o gyfleu'r neges i'r cyhoedd y dylai'r eitemau hyn fynd i'r bin yn hytrach nag i lawr y toiled, mae'r broblem yn mynd i waethygu. Gall cwmnïau dŵr ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw maint y broblem, ond ni allant reoli beth y mae pobl yn ei roi i lawr y toiled, ac i mewn i garthffosydd cyhoeddus. I fod yn deg, ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ychwaith, ond maent mewn gwell sefyllfa o lawer na'r cwmnïau dŵr i addysgu'r cyhoedd. Am y rheswm hwnnw a'r ffaith y byddai'n dileu ein galwad am fwy o waith ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ni allwn gefnogi gwelliant 1. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliant 2.
Gan droi at welliant 3, a gynigiwyd gan Blaid Cymru, ar archwilio trethi newydd i leihau'r defnydd o ddeunyddiau traul, credaf y gall pawb yn y Siambr hon gytuno â ni na ddylai'r gwastraff hwn a grëwyd gan bobl gyrraedd ein hamgylchedd yn y pen draw. Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r ateb priodol, a gallai hynny ddigwydd drwy gyfuniad o fesurau, ond rwy'n cwestiynu pa mor effeithiol y byddai trethi newydd yn lleihau'r defnydd o eitemau fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm. Nid eitemau drud yw'r rhain, lle gallai treth uchel iawn hyd yn oed godi'r pris ddigon i leihau'r defnydd yn sylweddol. Mae'n wir y byddai rhai pobl yn methu fforddio prynu'r eitemau hyn, ond a ydych chi eisiau i'r bobl a allai fod fwyaf o'u hangen, pobl ar incwm isel, fethu eu fforddio? Nid ydym ni am wneud hynny, a dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 3.
Yn fy marn i, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r cwmnïau dŵr fabwysiadu ymagwedd ddeublyg. Ar yr un pryd ag addysgu'r cyhoedd am gostau a chanlyniadau fflysio eitemau y dylid eu rhoi yn y bin, mae angen i Lywodraeth Cymru a'r cwmnïau dŵr weithio gyda gwneuthurwyr yr eitemau hyn i greu dewisiadau amgen na fyddant yn blocio carthffosydd ar y ffordd i'r gwaith trin carthion, hyd yn oed os ydynt yn cael eu fflysio i lawr y toiled. Diolch.