Ysbyty'r Tywysog Siarl

Part of 2. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:59, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â chydweithwyr Ysgrifennydd y Cabinet yn Llundain a chydag undeb Unite o ran eu hawgrym pendant iawn nad yw'n briodol rhoi contractau mawr newydd i'r cwmni hwn a hwythau mewn sefyllfa ariannol mor fregus. Rwy'n derbyn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud ynglŷn â'r ffaith mai cam 2 yw hwn o brosiect parhaus ac efallai nad yw'n briodol iddo ymyrryd ar hyn o bryd, ond a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn ystyried rhoi arweiniad pellach i'r byrddau iechyd ynghylch y diwydrwydd dyladwy y dylent ei gyflawni wrth edrych ar y cwmnïau sy'n cael y contractau enfawr hyn ganddynt ac sydd, wrth gwrs, fel roedd yn iawn i'w ddweud, yn bwysig iawn ac yn arwyddocaol iawn, gyda llawer o bobl yn gweithio iddynt? Yn amlwg, Ddirprwy Lywydd, bydd pob un ohonom yn y Siambr hon yn awyddus i'r contract hwn fod yn llwyddiannus ac yn taer obeithio bod y cwmni'n ddigon cadarn yn ariannol i allu ei gyflawni. Ond unwaith eto, fel y dywedaf, rwy'n cytuno â'r Blaid Lafur yn Llundain ac undeb Unite; a dweud y gwir, nid wyf yn hyderus.