2. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 12 Rhagfyr 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y contract sector cyhoeddus sydd wedi'i ddyfarnu i Interserve ar hyn o bryd i ymgymryd â gwaith adeiladu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful? 248
Diolch am eich cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn gweithio mewn partneriaeth ag Interserve ar y gwaith o adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r prosiect mewn ymgynghoriad â'r bwrdd iechyd.
Diolch am eich ateb. Ar gyfer y rheini nad ydynt yn ymwybodol o bosibl, dyfarnwyd contract gwerth £25 miliwn i Interserve gan fwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf i gyflawni rhan o'r gwaith ailddatblygu yno. Nawr, mae gennyf bedwar cwestiwn yr hoffwn eu gofyn i chi'n gyflym ynglŷn â'r mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod eich plaid chi, yn San Steffan, wedi galw am wahardd Interserve dros dro—sy'n anghyfreithlon, rhaid cyfaddef—rhag ceisio am gontractau cyhoeddus, ond nid yw hynny'n wir yn yr achos hwn. Mae'n amlwg nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad hwnnw, ac roeddwn yn meddwl tybed pam hynny, ac a wnewch chi ymhelaethu ar hynny.
Ym mis Chwefror 2018, yn sgil y rhybudd elw gan Capita, cwympodd cyfranddaliadau yn Interserve bron i 20 y cant, ac roedd hyn ar ôl gostyngiad o 30 y cant yn y mis Hydref blaenorol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, i mi, mae'n arwydd nad yw cwmni mewn sefyllfa gadarn yn ariannol. A ydych yn gwybod pa un a ystyriwyd y problemau ariannol hyn pan ddyfarnoch chi a/neu'r bwrdd iechyd y contract i Interserve ar gyfer y gwaith ailddatblygu ym Merthyr Tudful? Nawr, mae Interserve wedi negodi cynllun achub ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny'n galonogol iawn, gan fod llawer iawn o bobl yn dibynnu arnynt am swyddi. Ond a allwch roi sicrwydd heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, fod cynlluniau ar waith i sicrhau na fydd unrhyw darfu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, a'ch bod wedi rhoi camau lliniarol ar waith yn erbyn unrhyw beth anffodus arall a all ddigwydd i Interserve? Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu parhau i roi contractau i Interserve, neu i gadw contractau cyfredol gyda hwy, ond yr hyn a ddywedant yw bod ganddynt fecanwaith monitro cadarn iawn ar waith, ac mae ganddynt gynlluniau pe bai argyfwng pellach yn codi gydag Interserve. Felly, a allech ddweud wrthym heddiw eto pa un a oes gennych gynlluniau wrth gefn o'r fath yma i warchod ein buddsoddiad gwerthfawr?
Diolch am eich cwestiynau. O ran yr awgrym ychydig yn ddrygionus y dylid gwahardd contractau yn y dyfodol, wel, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd bwyllog tuag at unrhyw un sy'n gwneud cais am gontract yn y dyfodol o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol neu unrhyw her cyfalaf mawr arall lle mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dyfarnu contract. Ac yn amlwg, byddai'r heriau sy'n gysylltiedig â chyflwr ariannol y cwmni hwn yn ffactor wrth ystyried unrhyw ddewisiadau yn y dyfodol.
Ein sefyllfa ar hyn o bryd, fodd bynnag, yw bod Interserve eisoes wedi cwblhau cam 1A o'r gwaith adnewyddu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol oherwydd hysbysiad diogelwch tân—felly, ymgymryd â'r gwaith hwnnw a chael gwared ar asbestos o'r adeilad. Dyfarnwyd y cam nesaf iddynt—cam 1B—ac archebwyd y gwaith hwnnw sawl mis yn ôl, cyn bod y pryderon mor ddifrifol neu mor amlwg ag y maent bellach. Felly, maent yn parhau â gwaith sydd eisoes wedi cychwyn, a'r pwynt yw bod y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau mewn camau ac mae'r arian yn cael ei ddarparu fesul cam. Nid ydym yn talu'r holl arian hwn ymlaen llaw ac yn cymryd risg enfawr, naill ai gyda chyllid cyhoeddus, neu'n wir, gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo.
Mae ein cytundeb fframwaith adeiladu 'Cynllun Oes' ar waith, ac mae hwnnw'n caniatáu inni fonitro'r gwaith a wneir yn ogystal, o bosibl, â newid i gyflenwr gwahanol ar y fframwaith hwnnw os bydd unrhyw gwmni'n methu bodloni eu rhwymedigaethau. Ac mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol ar gontractau llai, naill ai ran o'r ffordd drwy'r broses o gyflawni prosiect, neu'n wir, ar ôl ennill tendr. Er enghraifft, prosiect yng Ngheredigion—Canolfan Iechyd Aberteifi—ar ôl y dyfarniad cyntaf ar 'Cynllun Oes', roedd angen ailedrych ar bwy oedd yr unigolyn hwnnw, gan na allai'r cynigydd gwreiddiol fodloni eu rhwymedigaethau.
Felly, oes, mae monitro ar waith, oes, mae cynllun ar waith, oes, mae mesurau lliniaru amlwg yn cael eu hystyried gan y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth pe bai Interserve yn methu bodloni eu rhwymedigaethau. Ond ar hyn o bryd, y wybodaeth orau sydd gennyf, ac yn wir, sydd gan y bwrdd iechyd, yw ein bod yn disgwyl i Interserve fodloni eu rhwymedigaethau. Ond yn amlwg, mae'n fater y byddwn yn cadw llygad barcud arno.
Cyn gynted ag y darllenais yr adroddiad ddoe, cysylltais â phrif weithredwr y bwrdd iechyd yn uniongyrchol am wybodaeth. Roeddwn eisoes yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Interserve yn gontractwr a oedd yn ymgymryd â gwaith ar adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl. Rwyf wedi gweld eu gwaith fy hun gan eu bod wedi cwblhau rhan gyntaf cam 1, ac rydym bellach yn symud i ail ran cam 1.
Nawr, cefais sicrwydd gan y bwrdd iechyd, yn sgil yr ansicrwydd yn y farchnad y tynnwyd eu sylw ato rai wythnosau yn ôl, eu bod wedi asesu'n llawn y risg i fwrw ymlaen gydag Interserve fel contractwr, a oedd eisoes wedi ennill a sicrhau'r contract ar gyfer ail gam y gwaith adnewyddu ac ailadeiladu wrth gwrs. Felly, fy nghwestiwn atodol i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw beth yw eich barn, o gofio'r hyn a ddywedodd y bwrdd iechyd ynglŷn â sut y maent wedi nodi'r risg naill ai o beidio â dyfarnu'r contract ac aildendro a gohirio'r gwaith am 18 mis arall, o bosib—. Wedi asesu'r holl risg, maent wedi penderfynu bwrw ymlaen, ac roeddwn yn awyddus i ofyn i chi a ydych yn fodlon nad oes unrhyw newid sylweddol yn y risg o fod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, ac a ydych yn fodlon eu bod wedi rhoi camau digonol ar waith ochr yn ochr â phartneriaeth cydwasanaethau'r GIG i reoli'r risg honno.
'Ydw' yw'r ateb syml, gan fy mod wedi trafod y mater hwn ddoe gyda phrif weithredwr GIG Cymru mewn gwirionedd, felly mae hwn yn fater a oedd ar fy meddwl cyn y cwestiwn amserol, oherwydd yn amlwg, rwy'n awyddus i sicrhau bod y gwaith yn ddiogel a bod prosesau monitro digonol ar waith mewn perthynas â'r risgiau a bod y risgiau'n dal i fod yn dderbyniol, i bwrs y wlad, ac yn amlwg, i'r broses o gyflawni'r gwaith mawr ei angen sy'n mynd rhagddo. Ni ddylai unrhyw un fod yn ddidaro naill ai am y risgiau, neu'n wir, am y potensial i godi pac a symud i rywle arall; byddai hynny'n arwain at oedi sylweddol a byddai'n effeithio ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni ei rwymedigaethau, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gweithwyr a'r ansicrwydd ynglŷn â'u cyflogaeth. Felly byddwn, fe fyddwn yn parhau i fonitro perfformiad y contract, byddwn yn parhau i bryderu ynglŷn â sefyllfa ariannol y cwmni a sicrhau ein bod yn gwarchod y gwerth y mae'r cyhoedd yn amlwg yn awyddus inni ei oruchwylio er mwyn sicrhau bod y gwaith priodol yn cael ei wneud. Ac rwyf hefyd yn cydnabod, fel yr Aelod lleol, y byddwch yn parhau i gadw llygad barcud ar y mater hwn hefyd.
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â chydweithwyr Ysgrifennydd y Cabinet yn Llundain a chydag undeb Unite o ran eu hawgrym pendant iawn nad yw'n briodol rhoi contractau mawr newydd i'r cwmni hwn a hwythau mewn sefyllfa ariannol mor fregus. Rwy'n derbyn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud ynglŷn â'r ffaith mai cam 2 yw hwn o brosiect parhaus ac efallai nad yw'n briodol iddo ymyrryd ar hyn o bryd, ond a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn ystyried rhoi arweiniad pellach i'r byrddau iechyd ynghylch y diwydrwydd dyladwy y dylent ei gyflawni wrth edrych ar y cwmnïau sy'n cael y contractau enfawr hyn ganddynt ac sydd, wrth gwrs, fel roedd yn iawn i'w ddweud, yn bwysig iawn ac yn arwyddocaol iawn, gyda llawer o bobl yn gweithio iddynt? Yn amlwg, Ddirprwy Lywydd, bydd pob un ohonom yn y Siambr hon yn awyddus i'r contract hwn fod yn llwyddiannus ac yn taer obeithio bod y cwmni'n ddigon cadarn yn ariannol i allu ei gyflawni. Ond unwaith eto, fel y dywedaf, rwy'n cytuno â'r Blaid Lafur yn Llundain ac undeb Unite; a dweud y gwir, nid wyf yn hyderus.
A bod yn deg, credaf fod yr ymatebion a gafwyd heddiw, ac yn wir, y wybodaeth a ddarparwyd yn uniongyrchol gan yr Aelod lleol wrth roi ei chwestiynau, yn atgyfnerthu'r ffaith nad yw hwn yn gontract newydd, mae'n gontract a ddyfarnwyd sawl mis yn ôl. Mae'n gontract y mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi edrych eto arno o ran y risgiau posibl wrth barhau â'r gwaith neu beidio â pharhau â'r gwaith gydag Interserve. Ac wrth gwrs, mae'r sefyllfa ariannol a diwydrwydd dyladwy eisoes yn nodwedd yn y broses o ddyfarnu contractau o dan gytundeb fframwaith adeiladu Cynllun Oes. Wrth gwrs, bydd yn fater lle y ceir monitro penodol, yn ganolog yma o fewn y Llywodraeth yn ogystal ag o fewn y bwrdd iechyd, o allu'r cwmni i gyflawni'r gwaith y maent wedi ymgymryd ag ef ac o dan gontract i'w wneud. Bydd dyfarniadau newydd ar gyfer ceisiadau contract newydd—wrth gwrs, bydd diwydrwydd dyladwy priodol yn cael ei gwblhau, ac wrth gwrs, bydd yn ffactor lle bydd pobl yn deall, os edrychwch ar Interserve ac unrhyw gontractwyr eraill posibl, fod hyn yn ymwneud â rheoli'r risgiau sydd gennym ac a ddeallwn, ac yna sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn darparu gwerth da i'r cyhoedd a lle da i bobl gael a darparu gofal iechyd.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.