Part of the debate – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
100 mlynedd yn union yn ôl i'r wythnos hon, cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cyntaf wedi'r rhyfel ar 14 Rhagfyr 1918. Roedd Deddf Senedd (Cymhwyster Menywod) 1918 newydd gael Cydsyniad Brenhinol ar 21 Tachwedd 1918. Rhoddodd y Ddeddf yr hawl i ferched dros 21 oed sefyll etholiad i Dŷ'r Cyffredin. Yn yr etholiad cyffredinol hwnnw ar 14 Rhagfyr, safodd un fenyw o Gymru etholiad, a'i henw oedd Millicent Mackenzie. Ymgeisiodd am sedd Prifysgol Cymru fel ymgeisydd Llafur. Enillodd 20 y cant o'r bleidlais a chollodd i'r Rhyddfrydwr, Syr Herbert Lewis. Un fenyw yn unig a etholwyd yn AS yn yr etholiad hwnnw yn 1918, sef Constance Markievicz, ac fel ymgeisydd Sinn Féin, ni chymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin.
Pwy oedd Millicent Mackenzie, y fenyw gyntaf erioed i sefyll etholiad yng Nghymru? Yn ogystal â bod yn ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw, roedd Millicent Mackenzie yn athro addysg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, fel y gelwid Prifysgol Caerdydd ar y pryd. Hi oedd yr athro benywaidd cyntaf mewn unrhyw brifysgol siartredig yn y DU. Roedd yn uchel ei pharch fel academydd addysgol a hyfforddwr athrawon. Roedd Millicent Mackenzie hefyd yn swffragét flaenllaw yn ardal Caerdydd, a dyna a phenllanw hynny oedd ei hymgais i gael ei hethol yn 1918. Rhoddir cyn lleied o sylw i fenywod yn ein hanes, fel nad oeddwn wedi clywed enw Millicent Mackenzie tan fis Ionawr eleni. Ond ni ddylem adael i enw'r fenyw arloesol hon gael ei anghofio yn ystod y 100 mlynedd nesaf. Fel 27 o ACau benywaidd y Senedd hon, diolchwn ichi, Millicent, ac rydym yn sefyll ar eich ysgwyddau. Millicent Mackenzie.