Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar i chi am ganiatáu i mi wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon heddiw. Fel y mae eraill wedi'i ddweud eisoes, mae hwn, heb os, yn gyfnod pan fo hawliau dynol o dan fygythiad. Duw a ŵyr beth a ddaw o lanastr proses Brexit, a sut y bydd hynny'n effeithio ar ein hawliau a'n gallu yng Nghymru i fanteisio ar yr amddiffyniadau Ewropeaidd hynny. Ond rydym yn gwybod, Ddirprwy Lywydd, bod y ddadl ar Brexit wedi gwneud i rai unigolion deimlo bod ganddynt hawl i fynegi rhai agweddau arbennig o wenwynig, ac roedd y cynnydd ofnadwy a welsom mewn troseddau casineb yma yng Nghymru yn syth ar ôl y bleidlais honno yn dyst i hynny. Ac rydym yn gwybod bod yna elfennau yn y wasg Brydeinig sydd wedi tanseilio'r cysyniad o hawliau dynol, sydd wedi gwneud iddo ymddangos fel rhywbeth amherthnasol, yn rhywbeth gorddethol, a rhywbeth, fel y dywedodd Julie Morgan, sy'n amherthnasol i'n bywydau bob dydd. Ac yn y grŵp trawsbleidiol, y cyfeiriaf ato eto, roedd yn galonogol iawn clywed ein siaradwr yn dweud nad yw hawliau dynol yn ymwneud â bod ar asgell chwith neu asgell dde gwleidyddiaeth, fel y mae'n cael ei bortreadu'n rhy aml mewn rhannau o'r wasg Brydeinig. Mae'n ymwneud â hawliau sylfaenol a ddylai fod ar gael i bawb ohonom.
Roeddwn yn falch iawn—ac rwy'n ddiolchgar i Julie Morgan am ei grybwyll—o gael fy ngwahodd yn y cyd-destun hwn i helpu i ailsefydlu'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol yn y lle hwn. Gofynnwyd i mi wneud hynny gan yr Athro Cyswllt Simon Hoffman o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arbenigwr yn y maes, a gwn y bydd nifer yn y Siambr hon yn gwybod amdano. Mae Simon yn cynnal grŵp rhanddeiliaid hawliau dynol Cymru, grŵp o dros 20 o sefydliadau, sy'n edrych ar y mater o wahanol safbwyntiau, ac yn sicrhau cyfoeth o arbenigedd posibl y credaf y gallwn ei ddefnyddio. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Julie am fod yno ddydd Llun, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Jayne Bryant a Darren Millar, sydd wedi ymuno â'r grŵp, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn teimlo y gallant wneud hynny wrth i'n gwaith fynd rhagddo. Fel y dywedodd Julie Morgan, cawsom gyfarfod ddydd Llun, yma yn y lle hwn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol. Cytunasom i weithio gyda'n gilydd tuag at greu deddfwriaeth hawliau dynol newydd gynhwysfawr, deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, i ymgorffori confensiynau priodol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn, fel y soniodd arweinydd y tŷ, am y ffordd gadarnhaol iawn y mae hi wedi ymateb i fy nghynnig i ymgorffori'r confensiwn anabledd. Ac rwy'n siŵr y bydd yn cael trafodaethau tebyg gyda Darren Millar ynghylch ei gynnig deddfwriaethol ar hawliau pobl hŷn. Ac roedd yn ddiddorol iawn darllen sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol, y mae arweinydd y tŷ wedi cyfeirio atynt heddiw. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y modd y mae arweinydd y tŷ wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn y misoedd ers i mi ddychwelyd yma, a gobeithiaf yn fawr iawn—ac rwy'n siŵr o'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw—y bydd Llywodraeth Cymru, ni waeth beth fydd y newidiadau i rolau unigolion penodol, yn parhau i fabwysiadu'r ymagwedd gadarnhaol, hynod amhleidiol hon. Mae'r grŵp trawsbleidiol yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â'r agenda hon yma yng Nghymru, gan gefnogi, a herio, lle bo hynny'n briodol. Ac mae'r grŵp hwnnw, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, yn darparu cronfa ragorol o arbenigedd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidogion sy'n gyfrifol eisiau manteisio arni.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gellir gwrthdroi Brexit, a gobeithiaf y gellir cadw'r amddiffyniadau hawliau dynol rydym wedi'u cael drwy fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, a'r mynediad at lysoedd Ewropeaidd sy'n deillio o'r hawliau hynny. Ond pa un a ellir cyflawni hynny ai peidio, hyderaf y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y confensiynau rhyngwladol allweddol yn cael eu hymgorffori'n ystyrlon yng nghyfraith Cymru. Diolch yn fawr iawn i chi.