Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Fel y mae pawb wedi'i ddweud, mae'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol i fyny yno gyda'r Beibl—mae'n un o'r dogfennau sydd wedi'u cyfieithu a'u cyhoeddi fwyaf yn y byd, ac mae ar gael mewn mwy na 500 o ieithoedd. Cafodd gefnogaeth dorfol ymhell cyn y rhyngrwyd. Cafodd ei ddrafftio gan gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd, gyda phrofiadau cyfreithiol a diwylliannol gwahanol, ond roeddent wedi rhannu trawma rhyfel. Fel y GIG, y mae'n rhannu pen-blwydd ag ef, mae'r datganiad yn deillio o benderfyniad i adeiladu byd gwell a thecach. Ond nid oedd yn ddyhead uchel-ael. Roedd yn sail i ffurfio trefn fyd-eang ar ôl y rhyfel a oedd yn seiliedig ar reolau. Ac yn union fel y mae grymoedd cenedlaetholaidd ac awdurdodaidd atgyfodol wedi bod yn ymosod yn gynyddol ar y bensaernïaeth wleidyddol ryngwladol honno, mae'r un peth yn wir am hawliau dynol. Gwaith seneddwyr yw eu hamddiffyn, nid rhannu'r llwyfan â bwlis yr asgell dde, a fyddai'n cael gwared ar hawliau pobl eraill. Ac mae'n rhaid i ni fynd gam ymhellach. Oherwydd, mewn ymateb i heriau mawr y ganrif hon—mewnfudo torfol, newid hinsawdd, ac anghydraddoldebau enfawr o ran cyfoeth—rhaid cryfhau hawliau dynol, nid eu gwanhau, a'u hymestyn, nid eu llesteirio.
Mae hynny'n fy arwain, yn anochel, at Brexit. Mae Brexit, wrth gwrs, yn creu goblygiadau pwysig i hawliau dynol yn y wlad hon. Cawn weld beth fydd yn digwydd heno yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i ymgorffori deddfau'r UE sy'n ymwneud â diogelwch rhag gwahaniaethu a hawliau gweithwyr, ond dewisodd gael gwared ar siarter hawliau sylfaenol yr UE, sy'n gwarantu diogelwch mewn cyflogaeth, cydraddoldeb a phreifatrwydd. Beth y gallai hynny ei olygu i fenywod beichiog, er enghraifft, i rieni sy'n gweithio a phobl ag anableddau? Nid oes gennyf amheuaeth yr ymosodir ar ein hawliau cyfredol gan frigâd arferol y tâp coch a'r penboethiaid dros ddadreoleiddio ar yr asgell dde.
Ac un pwynt terfynol: roedd Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol hefyd yn nodi diwedd ymgyrch 16 diwrnod yn erbyn trais ar sail rhywedd. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda Sefydliad y Merched—yma ac yn Aberystwyth, ac ar draws y rhanbarth—dros y pythefnos, yn gwthio agenda parch i bob cymuned. Ac mae ymgyrch y Rhuban Gwyn wedi bod yn gofyn i bobl addo peidio â chyflawni, goddef na chadw'n dawel am drais yn erbyn menywod. Ond bydd y neges honno'n cael ei thanseilio os na fydd yr heddlu'n llwyddo i weithredu'n briodol pan fydd pobl yn rhoi gwybod. Felly, roeddwn ychydig yn siomedig yr wythnos diwethaf i ddeall, yn ôl yr Arolygiaethau Cyfiawnder Troseddol, fod yna 8,400 o droseddau nad ydynt wedi cael eu cofnodi'n briodol gan heddlu Dyfed-Powys a heddlu Gwent. A hoffwn ganolbwyntio ar heddlu Dyfed-Powys gan ei fod yn cwmpasu'r rhan fwyaf o fy rhanbarth. O'r 3,300 o droseddau yr adroddwyd amdanynt na chânt eu cofnodi bob blwyddyn, mae 1,500 ohonynt yn droseddau treisgar, mae 70 ohonynt yn droseddau rhyw, mae 7 ohonynt yn achosion lle mae'r dioddefwyr yn agored i niwed ac mae 66 ohonynt yn achosion o gam-drin domestig—bron i chwarter yr holl droseddau yr adroddwyd yn eu cylch. Mewn llawer o achosion, ni fydd dioddefwyr ond yn gallu manteisio ar wasanaethau cymorth os caiff trosedd ei chofnodi. Felly, mae hwn yn fethiant difrifol, ac rwy'n disgwyl i arweinwyr yr heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throseddu afael ynddi a rhoi'r gorau i wneud cam â dioddefwyr camdriniaeth. Yn y wlad hon, mae ganddynt hawl dynol sylfaenol i gael eu hamddiffyn. Diolch.