Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch i chi am ildio ar hynny. Credaf eich bod yn gwybod beth rwyf am ei ddweud, Weinidog. Mewn perthynas â'r polisi—rydych yn dweud mai Bil technegol yw hwn; mae'r memorandwm esboniadol yn ei ehangu y tu hwnt i hynny o gryn dipyn. Pe bai gennych y fath hyder yn y polisi hwn, hyder sydd i'w weld yn yr ardaloedd peilot yn ôl yr hyn a ddywedwch, dylai fod wedi mynd ar wyneb y Bil, fel na fyddai'n rhaid i ni ddibynnu'n unig ar ymddiried yn y Llywodraeth; gallem fod wedi dibynnu ar ddarn o ddeddfwriaeth a fyddai'n ei orfodi.