– Senedd Cymru am 2:58 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Symudwn yn awr at eitem 5, sef y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Cyflwynwyd y Bil hwn i'r Cynulliad ym mis Ebrill oherwydd ein bod eisiau creu proses syml, 'unwaith i Gymru' i wirio cymhwysedd person ar gyfer y cynnig gofal plant. Yr hyn sydd gennym ger ein bron heddiw yw Bil a fydd yn ein galluogi i wneud yn union hynny.
Yn ystod hynt y Bil, rydym wedi casglu tystiolaeth werthfawr ac rydym wedi trafod rhai materion yn fanwl iawn, materion yn ymwneud â pholisi cyfredol a pholisi yn y dyfodol sydd y tu hwnt i baramedrau'r Bil cul hwn, ond rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gymryd rhan yn y ddadl hon ac am eu gwaith craffu trylwyr ar y Bil. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu mewnbwn gwerthfawr, ac rwy'n ddiolchgar i randdeiliaid allweddol hefyd am y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar y maent wedi'i darparu, sydd wedi ein helpu i lywio a datblygu ein syniadau.
Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r tri phwyllgor yn enwedig am yr argymhellion yn ystod Cyfnod 1 a wnaeth i ni fyfyrio, yn briodol iawn, ar y modd y drafftiwyd y Bil ac a arweiniodd yn y pen draw at welliannau'r Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3. A gaf fi hefyd ddiolch i holl Aelodau'r Cynulliad am eu hymgysylltiad a'u sylwadau yn ystod trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf.
Nawr, rydym wedi gweld y Bil hwn yn esblygu dros y misoedd diwethaf, ac rwyf o'r farn ei fod wedi cael ei wella gryn dipyn diolch i fewnbwn rhanddeiliaid ac Aelodau'r Cynulliad. Yr hyn sydd ger ein bron heddiw yw Bil sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer y cynnig, gan gadarnhau, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, ymrwymiad y Llywodraeth hon i'r cynnig. Rydym wedi ymateb i alwadau am fwy o eglurder o ran y diben drwy basio gwelliannau sy'n ei gwneud yn glir pwy yr ystyriwn yn blant cymwys at ddibenion y cynnig. Ac rydym hefyd wedi cynnwys darpariaeth yn y Bil a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y Ddeddf a'r trefniadau ar gyfer gweinyddu'r cynnig a chyhoeddi adroddiad. Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gallu mynd i'r afael â mân anghysondebau technegol ac o ran drafftio ar hyd y daith.
A gaf fi hefyd ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Ysgrifennydd Cartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am eu cymorth wrth ddatblygu'r Bil hwn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i swyddogion Cyllid a Thollau EM am weithio mor agos ac adeiladol gyda fy swyddogion dros y cyfnod cyn cyflwyno a'r cyfnod craffu. Rwy'n falch ein bod bellach mewn sefyllfa lle mae holl gydsyniadau angenrheidiol Gweinidogion y Goron yn eu lle, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag adrannau Llywodraeth y DU a chyda'r Ysgrifenyddion Gwladol wrth i ni ddatblygu is-ddeddfwriaeth i weithredu'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon. Rwyf hefyd yn falch iawn o allu helpu i lywio'r Bil hwn drwy ei gamau terfynol ac ar y llyfr statud yng Nghymru.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r arwyr bach anweledig, a di-glod yn aml, yn swyddfeydd a choridorau Parc Cathays a Thŷ Hywel—y swyddogion polisi, swyddogion deddfwriaethol a swyddogion a chynghorwyr eraill sy'n gwneud cymaint i gyflwyno ein deddfwriaeth, gyda chymorth, ac weithiau er gwaethaf yr heriau gan Weinidogion ac eraill. Maent yn gwybod mai ein dull yw estyn allan a gweithio'n adeiladol gydag ACau ac eraill i ddechrau gyda Bil da ac i lunio deddfwriaeth derfynol sydd hyd yn oed yn well. Credaf ein bod, bob un ohonom, wedi gwneud hynny, ac felly, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'n bleser gennyf siarad yng nghyfnod terfynol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Fodd bynnag, nid yw hwn ond yn un Bil ar restr hir o Filiau gan Lywodraeth Cymru nad ydynt wedi bod yn ddigon da yn ddeddfwriaethol. Gan barhau â thema bwyd, mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi dweud sawl gwaith mai deddfwriaeth caws Swistir yw hon—fod gormod o dyllau yn yr hyn sy'n Fil fframwaith, wedi'i amlinellu mewn termau hollol ganiataol ac ansicr.
Rwyf wedi edrych yn ôl ar y cyfraniadau a wnaed drwy bob cyfnod o'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), ac mae themâu cyson yn codi o hyd. Buaswn yn gobeithio mai dyma'r tro olaf y byddwn ni, fel Aelodau Cynulliad, sy'n craffu fel gwrthbleidiau a grwpiau trawsbleidiol, yn dod ar draws yr un pryderon mewn deddfwriaethau yn y dyfodol. Unwaith eto, rydym yn gweld polisi cadarn ger ein bron, wedi'i weithredu drwy ddeddfwriaeth a gafodd ei chreu'n gyflym ond heb y mecanweithiau craffu angenrheidiol, drwy'r defnydd parhaus o is-ddeddfwriaeth. Roedd y Bil hwn yng Nghyfnod 3 cyn i ni hyd yn oed weld copi o'r adroddiad ar flwyddyn gyntaf yr awdurdodau sy'n weithredwyr cynnar. Roedd hefyd yng Nghyfnod 3 cyn i'r Gweinidogion weithredu'r ddyletswydd i gyllido'r cynnig yn derfynol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn cefnogi'r polisi o gyllido gofal plant yng Nghymru. Yn wir, roedd yn rhan o'n maniffesto ein hunain. Ond mae gormod yn cael ei adael i is-ddeddfwriaeth a chynllun gweinyddol sydd y tu hwnt i'n mewnbwn ni neu lefel briodol o bwerau craffu.
At hynny, mae dau faes polisi allweddol heb eu rhoi ar wyneb y Bil, sy'n ei wneud yn llestr gwag o bosibl. Nid yw'r cynnig ei hun yma o'n blaenau, er ei fod wedi cael ei ysgrifennu ar hyd y memorandwm esboniadol a'i addo gan y Gweinidog drwy gydol cyfnodau 1, 2 a 3. Mae oedran y plentyn cymwys hefyd yn absennol, ac unwaith eto'n cael ei adael i addewidion a'r cynllun gweinyddol. Yn y bôn, mae hepgor y ddau faes pwysig hwn o wyneb y Bil yn golygu nad oes gennym unrhyw linell sylfaen glir i ddechrau ohoni. Mae angen inni ddechrau o bwynt o sicrwydd, hyd yn oed os yw'n cael ei ddiwygio mewn blynyddoedd i ddod. Nid ydym yn derbyn rhesymeg y Gweinidog y byddai gadael elfennau hanfodol i is-ddeddfwriaeth yn darparu mwy o hyblygrwydd. Yn hytrach, rydym wedi dadlau drwy gydol y broses fod angen cyfaddawd rhwng hyblygrwydd ar gyfer y Weithrediaeth a hawl i graffu gan y ddeddfwrfa. Byddai ein gwelliannau yng Nghyfnod 3 wedi darparu'r cydbwysedd hwn.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi dweud mai Bil technegol yn unig yw hwn, ac na ddylai gynnwys meysydd polisi ehangach. Nid yw hynny'n wir. Fel y'i drafftiwyd ac fel y'i diwygiwyd, mae'n mynd y tu hwnt i'r bwriad cul hwnnw. Fel y nodais yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3, mae prif ddibenion y Bil wedi'u hamlinellu'n glir yn y memorandwm esboniadol—cefnogi economi Cymru a chefnogi nifer o ddibenion ychwanegol, gan gynnwys cynyddu cyflogaeth a gwella lles cymdeithasol plant. Pe bai'r Bil hwn yn ddim ond mecanwaith i CThEM asesu ceisiadau, pam dweud hynny i gyd yn y memorandwm esboniadol?
Drwy gydol y dystiolaeth, clywsom y gallai prif ddibenion y Bil fod wedi cael eu cryfhau ymhellach drwy nifer o welliannau angenrheidiol, gan gynnwys darparu cludiant cofleidiol, ymestyn y cynnig y tu hwnt i rieni sy'n gweithio, ac atal rhwystrau sy'n rhwystro pobl rhag manteisio ar y cynnig, megis taliadau ychwanegol. Byddai cynnwys y rhain ar wyneb y Bil wedi dangos yn glir i rieni a darparwyr gofal plant fod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i alluogi mwy o deuluoedd i fanteisio ar y cynnig. Buaswn wedi ei gadael hi yn y fan honno pe bai cymal adolygu'r Bil hwn wedi'i ddrafftio'n ddigonol i gynnwys pwerau'r ddeddfwrfa fel y gallem ei adolygu yn ddiweddarach. Fodd bynnag, nid yw'n dweud 'annibynnol' neu 'i'w gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru' yn unman.
Nawr, gwyddom am ymrwymiad y Gweinidog i gynnal gwerthusiad annibynnol yng Nghyfnod 3, ond fan lleiaf, byddem wedi disgwyl i unrhyw adroddiad fod ar gael i'r Cynulliad, fel y ddeddfwrfa, i'w graffu a'i gymeradwyo. Nid yw'n glir o'r cymal adolygu a ddrafftiwyd gan y Gweinidog a fyddai adolygiad annibynnol yn digwydd o dan Lywodraeth Cymru ymhen pum mlynedd, yn ogystal â beth fyddai rôl ein Cynulliad yn y broses o gynllunio'r adolygiad hwnnw. Yn hytrach nag ateb ei chwestiynau ei hun, mae angen i Lywodraeth Cymru ateb y cwestiynau hyn i'n hetholwyr allu cael hyder yn ei ganfyddiadau maes o law. Er gwaethaf ein hymdrechion i sicrhau bod gan y Bil gymal adolygu a fyddai wedi ateb y pryderon a fynegwyd, nid gan un pwyllgor, ond gan ddau bwyllgor, am y Bil, neu gymal machlud, fan lleiaf, mae'r rhain i gyd wedi cael eu gwrthod yn ddisymwth gan y Gweinidog. Felly, mae'n siomedig iawn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru—ie, y ddeddfwrfa hon—wedi cael ei anwybyddu unwaith eto.
Rhybuddiwyd Llywodraeth Cymru gan fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yn ystod Cyfnod terfynol Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, na fyddai gan Aelodau Cynulliad y dyfodol fawr o feddwl ohoni os na chesglid tystiolaeth gredadwy a chyson a ganolbwyntiai ar ganlyniadau i alluogi craffu priodol. Ymataliodd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Ddeddf honno yn ystod Cyfnod 4 ar y sail ei bod yn cynnwys cymal machlud. Felly, unwaith eto, rydym yn cyhoeddi'r rhybudd hwn ynglŷn â gorddefnyddio Biliau sgerbwd. Rydych wedi gwrthod meysydd allweddol y mae angen eu hadolygu, gan gynnwys gweithrediad y cynllun gweinyddol, pa un a fydd y Ddeddf yn effeithio ar gynyddu cyflogaeth, yn unol â'i nodau, a chapasiti'r gweithlu gofal plant i gyflawni'r cynnig hwn. Weinidog, rydych yn Aelod Cynulliad yn ogystal â—[Torri ar draws.]—yn ogystal â Gweinidog yn y Llywodraeth hon. Mae angen i chi argyhoeddi eich etholwyr eich hun nad gwrando ar graffu fel Gweinidog yn unig a wnaethoch, ond—
[Anghlywadwy.]—os gwelwch yn dda.
Lywydd—Ddirprwy—er ein bod yn cefnogi'r cynnig, a'r defnydd o CThEM i asesu ceisiadau, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthod y cynnig am y rhesymau hyn. Ni fyddwn yn ei gefnogi. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaeth Llyr Gruffydd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o fy mlaen i, graffu'r Bil yma'n fanwl, ac rydw innau, fel aelod presennol o'r pwyllgor, wedi cael cyfle i graffu arno hefyd. Mi ydym ni, fel Plaid Cymru, wedi cyflwyno nifer o welliannau er mwyn ceisio gwneud y Bil yn fwy ystyrlon, ond yn siomedig iawn na chafodd rheini eu derbyn. Mi ydym ni o'r farn bod y Bil yn gwahaniaethu yn erbyn rhai o blant tlotaf Cymru. Nid yw plant lle nad ydy eu rhieni'n gweithio yn gymwys ar gyfer 30 awr o ofal plant am ddim, ac nid yw plant y mae eu rhieni mewn addysg a hyfforddiant yn gymwys chwaith. A bwriad ein gwelliannau ni oedd cynnwys plant o'r teuluoedd hynny yn y ddarpariaeth. Rydw i'n credu bod eu gadael nhw allan yn gwahaniaethu yn eu herbyn nhw a bod hynny yn annheg, yn anghywir ac yn wrthgynhyrchiol.
Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi'r cychwyn gorau posibl i blant ifanc yn allweddol i'w datblygiad, ac mai mynychu lleoliadau gofal o ansawdd uchel yw un o'r ffyrdd gorau i roi'r cychwyn gorau hwnnw i blant o deuluoedd tlawd. Rydw i'n ymwybodol bod yna gynlluniau eraill ar gael, ond nid yw'r cynlluniau hynny yn statudol. Mae rhai'n dibynnu ar lle rydych chi'n byw ac nid ar angen, ac mae yna ddryswch a diffyg ymwybyddiaeth am natur ac argaeledd y cynlluniau yma. Fe gollwyd cyfle i ymgorffori carfan hollbwysig i mewn i ddeddfwriaeth—cyfle a fyddai wedi golygu na fyddai angen i'r rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu'n chwilio am waith ffeindio'u ffordd drwy'r holl ddryswch o gynlluniau yma ac y byddai gan pawb le i fynd i gael gofal plant mewn deddfwriaeth syml a fyddai'n cwmpasu pawb. Rydym ni'n credu felly bod y Bil yn wallus fel darn o ddeddfwriaeth ac yn mynd yn groes i egwyddorion cydraddoldeb ac egwyddorion y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac felly fe fyddwn ni'n pleidleisio’n ei erbyn heddiw.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Wel, edrychwch, rwy'n berson eithaf hyblyg a hael, ond rwyf ychydig yn siomedig gydag ymateb y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i'r hyn y credaf iddi fod yn agwedd adeiladol tuag at hynt y Bil hwn. A gaf fi ddweud, drwy bleidleisio yn erbyn y Bil hwn, rydych yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth sydd, fel y gwyddom eisoes o'r ardaloedd peilot, yn rhoi £200 i £250 yn ychwanegol yr wythnos i aelwydydd—a menywod, yn bennaf, ar yr aelwydydd hynny gyda llaw, ac yn aml y rheini yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn ein cymunedau? Rydych yn pleidleisio yn erbyn hynny.
Hoffwn ddweud wrth y Ceidwadwyr: rydych yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth nad yw'n gwbl annhebyg i'r hyn a oedd gennych yn eich maniffesto. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r Bil hwn yn ymwneud â'r cynnig polisi ac rwy'n credu—[Torri ar draws.] Un eiliad, Suzy. Nid yw hwn yn ymwneud â'r cynnig polisi fel y cyfryw. Fe ddywedaf eto, Bil technegol, cul yw hwn i alluogi CThEM i gyflwyno cymhwysedd a cheisiadau o dan y cynllun ac i leddfu'r baich ar awdurdodau lleol sy'n ei wneud o dan y cynlluniau peilot ar hyn o bryd. Mae awdurdodau lleol yn gofyn i ni ysgwyddo'r baich hwn. Nawr, wrth gwrs, mae yna ddadl ehangach mewn perthynas â'r cyfeiriad polisi ar hyn o bryd a'r cyfeiriad polisi yn y dyfodol, ond mae pleidleisio yn erbyn rhywbeth sy'n llwyddiant ar hyd a lled Cymru ym mhob ardal sy'n gweithredu'r cynllun peilot hwn, fel y tystia'r ffaith bod yr ardaloedd nad ydynt yn rhan ohono ar hyn o bryd yn gofyn, 'A gawn ni fod yn rhan ohono?'—wel, rydych yn gwneud tro gwael â'ch etholwyr.
Os caf orffen gyda hyn: mae wedi cael ei ddisgrifio fel fframwaith caws Swistir—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, fe ddof yn ôl atoch, ond mae wedi'i ddisgrifio fel Bil fframwaith caws Swistir. Yn wir, nid yw Bil fframwaith yn llenwi'r bylchau i gyd, ond mae'n briodol mewn ymateb i'r pwyllgorau, sydd wedi dweud, 'A gawn ni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd y Bil hwn i newid yn y dyfodol?', a dyna pam ei fod wedi'i gefnogi, nid yn unig gan reoliadau ond gan gynllun gweinyddol, fel y gallwn ei addasu wrth i ni ddysgu o'r cynlluniau peilot. Felly, rwyf ychydig yn—. Fel gŵr hyblyg, mae'r ymateb braidd yn grintachlyd yn fy siomi, a ninnau'n nesáu at y Nadolig. Suzy, rwy'n ildio.
Diolch i chi am ildio ar hynny. Credaf eich bod yn gwybod beth rwyf am ei ddweud, Weinidog. Mewn perthynas â'r polisi—rydych yn dweud mai Bil technegol yw hwn; mae'r memorandwm esboniadol yn ei ehangu y tu hwnt i hynny o gryn dipyn. Pe bai gennych y fath hyder yn y polisi hwn, hyder sydd i'w weld yn yr ardaloedd peilot yn ôl yr hyn a ddywedwch, dylai fod wedi mynd ar wyneb y Bil, fel na fyddai'n rhaid i ni ddibynnu'n unig ar ymddiried yn y Llywodraeth; gallem fod wedi dibynnu ar ddarn o ddeddfwriaeth a fyddai'n ei orfodi.
Wel, Suzy, diolch i chi am hynny. Ond unwaith eto, rydych wedi methu'r ffaith ein bod, mewn ymateb i Gyfnod 1 a Chyfnod 2, wedi cyflwyno gwelliannau Llywodraeth i greu dyletswydd i ariannu'r cynnig gofal plant hwn, a bydd y manylion rydych yn gofyn amdanynt yn dilyn, oherwydd yr angen am gydbwysedd a hyblygrwydd, o fewn y rheoliadau a'r cynllun gweinyddol hefyd. Nawr, pe baech yn ei roi yn y Bil hwn, pe bai CThEM yn penderfynu yfory eu bod, fel rhan o'r cymhwysedd, yn newid yr amodau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, byddai'n rhaid i ni ddod yn ôl at ddeddfwriaeth sylfaenol. Felly, rwy'n deall pam eich bod yn dal i ddadlau, 'Gadewch i ni roi popeth ar wyneb Bil technegol a chul', ond rwy'n credu ei fod gennym ni yma. Nawr, roedd rhywun—Llyr.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi derbyn yr ymyriad hwn. Mewn gwirionedd, roeddwn eisiau cofnodi bod ein pryderon mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn adlewyrchu rhai'r comisiynydd plant. Felly, mae'n ddigon hawdd i chi sefyll yma a dweud ein bod yn anghywir am bob dim; nid ni yn unig sy'n dweud y pethau hyn, ac rwy'n synnu at y modd yr ydych yn diystyru rhai o'r sylwadau y mae'r comisiynydd plant wedi'u gwneud.
Wel, Llyr, rwyf ymhell o fod yn eu diystyru. Credaf fy mod wedi'i gwneud yn glir yn y pwyllgor ac mewn mannau eraill fod y drafodaeth yn ymwneud â ble rydym yn mynd yn y dyfodol o ran y cynnig gofal plant ehangach—nid, gyda llaw, o ran y pwyntiau a godwyd gan Siân yn flaenorol, sy'n ymwneud â rhieni sydd mewn hyfforddiant ac addysg ond na fyddai'n cael eu cynnwys yn y cynnig hwn yn awtomatig, ond rwyf wedi siarad yn fanwl mewn Cyfnodau eraill ynglŷn â lle y ceir darpariaeth eisoes, a'r ffaith ein bod wedi bwriadu ystyried dwyn y ddarpariaeth honno ynghyd yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth honno am fwy o amser ar gyfer y dyfodol. Felly, nid wyf yn diystyru hynny o gwbl. Yn wir, rwyf wedi edrych ar hynny'n drylwyr.
Ond mae hyn yn fy arwain yn ôl at y pwynt a wnaeth Suzy ac eraill eiliad yn ôl. Yn y memorandwm esboniadol ar gyfer y Bil hwn, rydym wedi cyfeirio at y cynnig. Mae angen gwneud hynny, er ei fod yn Fil technegol, cul. Cyfeiriasom at y cynnig ehangach. Ond nid yw'r cynnig hwn yn sefyll ar ei ben ei hun yng Nghymru, mae'n sefyll ochr yn ochr â Dechrau'n Deg; mae'n sefyll ochr yn ochr â'r hyn rydym yn ei wneud gyda Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, PaCE, ar gyfer rhieni sydd mewn gwaith ac mewn hyfforddiant; mae'n sefyll ochr yn ochr â Teuluoedd yn Gyntaf, Rhoi Plant yn Gyntaf a llawer o gynlluniau eraill. Ac yn wir—. Fel rwyf eisoes wedi dweud wrthych, Llyr, rwyf ymhell o fod yn ddiystyriol, a chredaf fod angen i ni anelu i fod yn fwy di-dor o fewn y Llywodraeth, ond yn y pen draw, Bil technegol, cul yw hwn i roi CThEM ar waith ac i leddfu baich awdurdodau lleol, sy'n gwneud y gwaith ar hyn o bryd.
Felly, i gloi, gyda'r sylwadau hynny, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig, i gefnogi'r Bil hwn yng Nghyfnod 4? Ac edrychaf ymlaen, wedyn, at gyflwyno is-ddeddfwriaeth yn ystod 2019.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, ac felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
Nawr, rydym yn bwriadu cynnal pleidlais ar fusnes y Llywodraeth rydym newydd ei drafod. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Iawn.