Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr iawn. Fe wnaeth Llyr Gruffydd, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o fy mlaen i, graffu'r Bil yma'n fanwl, ac rydw innau, fel aelod presennol o'r pwyllgor, wedi cael cyfle i graffu arno hefyd. Mi ydym ni, fel Plaid Cymru, wedi cyflwyno nifer o welliannau er mwyn ceisio gwneud y Bil yn fwy ystyrlon, ond yn siomedig iawn na chafodd rheini eu derbyn. Mi ydym ni o'r farn bod y Bil yn gwahaniaethu yn erbyn rhai o blant tlotaf Cymru. Nid yw plant lle nad ydy eu rhieni'n gweithio yn gymwys ar gyfer 30 awr o ofal plant am ddim, ac nid yw plant y mae eu rhieni mewn addysg a hyfforddiant yn gymwys chwaith. A bwriad ein gwelliannau ni oedd cynnwys plant o'r teuluoedd hynny yn y ddarpariaeth. Rydw i'n credu bod eu gadael nhw allan yn gwahaniaethu yn eu herbyn nhw a bod hynny yn annheg, yn anghywir ac yn wrthgynhyrchiol.
Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi'r cychwyn gorau posibl i blant ifanc yn allweddol i'w datblygiad, ac mai mynychu lleoliadau gofal o ansawdd uchel yw un o'r ffyrdd gorau i roi'r cychwyn gorau hwnnw i blant o deuluoedd tlawd. Rydw i'n ymwybodol bod yna gynlluniau eraill ar gael, ond nid yw'r cynlluniau hynny yn statudol. Mae rhai'n dibynnu ar lle rydych chi'n byw ac nid ar angen, ac mae yna ddryswch a diffyg ymwybyddiaeth am natur ac argaeledd y cynlluniau yma. Fe gollwyd cyfle i ymgorffori carfan hollbwysig i mewn i ddeddfwriaeth—cyfle a fyddai wedi golygu na fyddai angen i'r rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu'n chwilio am waith ffeindio'u ffordd drwy'r holl ddryswch o gynlluniau yma ac y byddai gan pawb le i fynd i gael gofal plant mewn deddfwriaeth syml a fyddai'n cwmpasu pawb. Rydym ni'n credu felly bod y Bil yn wallus fel darn o ddeddfwriaeth ac yn mynd yn groes i egwyddorion cydraddoldeb ac egwyddorion y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac felly fe fyddwn ni'n pleidleisio’n ei erbyn heddiw.