Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Cyflwynwyd y Bil hwn i'r Cynulliad ym mis Ebrill oherwydd ein bod eisiau creu proses syml, 'unwaith i Gymru' i wirio cymhwysedd person ar gyfer y cynnig gofal plant. Yr hyn sydd gennym ger ein bron heddiw yw Bil a fydd yn ein galluogi i wneud yn union hynny.
Yn ystod hynt y Bil, rydym wedi casglu tystiolaeth werthfawr ac rydym wedi trafod rhai materion yn fanwl iawn, materion yn ymwneud â pholisi cyfredol a pholisi yn y dyfodol sydd y tu hwnt i baramedrau'r Bil cul hwn, ond rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gymryd rhan yn y ddadl hon ac am eu gwaith craffu trylwyr ar y Bil. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu mewnbwn gwerthfawr, ac rwy'n ddiolchgar i randdeiliaid allweddol hefyd am y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar y maent wedi'i darparu, sydd wedi ein helpu i lywio a datblygu ein syniadau.
Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r tri phwyllgor yn enwedig am yr argymhellion yn ystod Cyfnod 1 a wnaeth i ni fyfyrio, yn briodol iawn, ar y modd y drafftiwyd y Bil ac a arweiniodd yn y pen draw at welliannau'r Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3. A gaf fi hefyd ddiolch i holl Aelodau'r Cynulliad am eu hymgysylltiad a'u sylwadau yn ystod trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf.
Nawr, rydym wedi gweld y Bil hwn yn esblygu dros y misoedd diwethaf, ac rwyf o'r farn ei fod wedi cael ei wella gryn dipyn diolch i fewnbwn rhanddeiliaid ac Aelodau'r Cynulliad. Yr hyn sydd ger ein bron heddiw yw Bil sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer y cynnig, gan gadarnhau, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, ymrwymiad y Llywodraeth hon i'r cynnig. Rydym wedi ymateb i alwadau am fwy o eglurder o ran y diben drwy basio gwelliannau sy'n ei gwneud yn glir pwy yr ystyriwn yn blant cymwys at ddibenion y cynnig. Ac rydym hefyd wedi cynnwys darpariaeth yn y Bil a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y Ddeddf a'r trefniadau ar gyfer gweinyddu'r cynnig a chyhoeddi adroddiad. Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gallu mynd i'r afael â mân anghysondebau technegol ac o ran drafftio ar hyd y daith.
A gaf fi hefyd ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Ysgrifennydd Cartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am eu cymorth wrth ddatblygu'r Bil hwn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i swyddogion Cyllid a Thollau EM am weithio mor agos ac adeiladol gyda fy swyddogion dros y cyfnod cyn cyflwyno a'r cyfnod craffu. Rwy'n falch ein bod bellach mewn sefyllfa lle mae holl gydsyniadau angenrheidiol Gweinidogion y Goron yn eu lle, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag adrannau Llywodraeth y DU a chyda'r Ysgrifenyddion Gwladol wrth i ni ddatblygu is-ddeddfwriaeth i weithredu'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon. Rwyf hefyd yn falch iawn o allu helpu i lywio'r Bil hwn drwy ei gamau terfynol ac ar y llyfr statud yng Nghymru.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r arwyr bach anweledig, a di-glod yn aml, yn swyddfeydd a choridorau Parc Cathays a Thŷ Hywel—y swyddogion polisi, swyddogion deddfwriaethol a swyddogion a chynghorwyr eraill sy'n gwneud cymaint i gyflwyno ein deddfwriaeth, gyda chymorth, ac weithiau er gwaethaf yr heriau gan Weinidogion ac eraill. Maent yn gwybod mai ein dull yw estyn allan a gweithio'n adeiladol gydag ACau ac eraill i ddechrau gyda Bil da ac i lunio deddfwriaeth derfynol sydd hyd yn oed yn well. Credaf ein bod, bob un ohonom, wedi gwneud hynny, ac felly, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.