Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd bellach yn archwilio allforwyr sydd wedi gwneud ceisiadau ffug ar filoedd o dunelli o wastraff plastig nad yw'n bodoli, ac ymddengys bod gangiau troseddol yn camfanteisio ar ddiwydiant gwerth £50 miliwn. Mae hunan-adrodd yn gwahodd twyll a chamgymeriadau, ac mae'n amlwg nad yw'r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff yn cael ei oruchwylio'n ddigonol. Yn syml iawn, ni allwn oddef i'n sbwriel gael ei ddympio ar wledydd tlawd sy'n datblygu, gwledydd heb dechnoleg i wneud unrhyw beth defnyddiol ag ef. Yn hytrach, caiff ei adael i lifo i'r afonydd a'r cefnforoedd.
Felly, buaswn yn dadlau bod targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau yn anghynaliadwy os ydynt yn seiliedig ar farchnadoedd allforio bregus. Yn ddi-os, mae yna farchnad ar gyfer alwminiwm, a oedd yn £1,000 y dunnell y tro diwethaf i mi edrych, ond mae eitemau eraill yn anodd i'w hailgylchu—yn syml iawn, nid oes marchnad ar eu cyfer. Felly, mae angen i ni newid i system ailgylchu gylchol. Mae dibynnu ar ailgylchu yn cuddio arferion gweithgynhyrchu anghynaliadwy, a thalwyr y dreth gyngor sy'n gorfod talu amdanynt. O ran tri phen y bregeth—lleihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu—mae angen i ni roi llawer mwy o ffocws ar leihau defnydd ac ailddefnyddio deunyddiau.
Rwy'n gobeithio y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn mynd i'r afael â chael gwared yn ddiangen ar ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio'n hawdd—yn benodol, dylai'r gyfradd uwch o dreth ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig fod yn rhwystr ariannol i weithgareddau gwaredu gwastraff anghyfreithlon, sy'n digwydd yn y diwydiant adeiladu yn arbennig, oherwydd bydd y rheini sy'n tipio'n anghyfreithlon yn cael eu trethu ddwywaith, fel y dylent.
Wrth gwrs, y diwydiant adeiladu sy'n defnyddio fwyaf o adnoddau naturiol yn y DU. Gan fod bron i 90 y cant o wastraff adeiladu yn anadweithiol ac yn ddiogel, fe ellir, ac fe ddylid, ei ailddefnyddio, ei adfer a'i ailgylchu. Buaswn yn disgwyl i'r dreth gwarediadau tirlenwi sicrhau y bydd hynny'n digwydd yn awr. Ond bydd hynny, yn ei dro, yn ei gwneud yn anos byth i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau ailgylchu yn ôl pwysau, a dyna pam fod angen i ni edrych ar strategaeth wahanol.
Mae angen deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r deunydd pacio, yn enwedig y deunydd pacio plastig, a gynhyrchwn, sy'n bwydo'r 8 miliwn o dunelli sy'n cael ei ollwng i'r môr. Yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, caiff llawer o nwyddau eu pacio mewn deunydd clir, tebyg i blastig, wedi'i wneud o startsh ac sy'n fioddiraddiadwy. Mae cwmnïau Almaenig yn cynhyrchu prydau parod mewn pecynnau bioddiraddadwy, ac yng Nghymru mae gennym brifysgolion sydd eisoes yn cynhyrchu deunydd pacio o ddeunydd ailgylchadwy, ond nid yw diwydiannau gweithgynhyrchu ond yn eu defnyddio mewn marchnadoedd arbenigol yn hytrach na mabwysiadu dull systematig.
Yn yr Almaen, mae Deddf Cylch Sylweddau Caeëdig a Rheoli Gwastraff 1996, a gyflwynwyd 20 mlynedd yn ôl, yn ei gwneud yn orfodol i gwmnïau gweithgynhyrchu lunio deunydd pacio nad yw'n wastraffus. Mae wedi creu diwydiant gwastraff bywiog sydd ymhlith y gorau yn y byd, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallem fod yn ei wneud yng Nghymru hefyd.
Mae angen i ni wneud cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn rhan annatod o'r holl eitemau pacio hyn, fel bod y gweithgynhyrchwyr yn talu am yr hyn y mae talwyr y dreth gyngor yn talu amdano ar hyn o bryd. Byddai cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn cymell gweithgynhyrchwyr i ganolbwyntio ar gylch oes eu cynnyrch, a byddai hynny'n sicrhau bod ganddynt fynediad gwell at ddeunyddiau eilaidd ar gyfer eu cadwyni cyflenwi eu hunain, yn ogystal â manteision cymdeithasol, fel clirio sbwriel, megis stympiau sigaréts a gwm cnoi, a fyddai'n achub miliynau o bunnoedd i gynghorau bob blwyddyn.
Wrth gwrs, mae gennym eisoes rai modelau o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, sef cyfraith yr UE, mewn pethau fel nwyddau trydanol ac electronig, batris a cheir. Ond y tu hwnt i'r UE, mae Japan wedi mynd gam ymhellach gyda chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Mae ganddi gyfreithiau helaeth sy'n cwmpasu cylch oes cynhyrchion o ddiwydiannau gwahanol, ac mae wedi'i gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchwyr ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a chydrannau y gellir eu hailddefnyddio mewn cynhyrchion newydd.
Felly, gallem ddefnyddio cynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi drwy ddarparu grantiau i ddatblygu, er enghraifft, cynlluniau dychwelyd blaendal ar boteli. Mae gwydr, wrth gwrs, yn gwbl ailgylchadwy a gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Gellir gwneud hynny gyda phlastigau, hefyd, fel y maent wedi'i wneud yn Norwy, lle mae cynllun dychwelyd blaendal ar waith sy'n sicrhau bod 97 y cant o'u holl gynwysyddion yn cael eu hailgylchu.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried hon yn ddeddfwriaeth effeithiol.