6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Atal Gwastraff ac Ailgylchu

– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:18, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: atal gwastraff ac ailgylchu, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6893 Jenny Rathbone

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a

b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:18, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae David Attenborough wedi annog y cyhoedd ym Mhrydain i ganolbwyntio ar faint o blastig sy'n cyrraedd y cefnfor, yn cael ei lyncu gan fywyd y môr ac yn cyrraedd ein stumogau os ydym yn bwyta pysgod. Felly rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn ystyried codi treth ar ddeunydd pacio plastig, gan dargedu'r rheini sy'n cynnwys llai na 30 y cant o ddeunydd wedi'i ailgylchu neu sy'n anodd neu'n amhosibl eu hailgylchu, megis gwellt plastig, cynwysyddion duon a chwpanau untro ar gyfer diodydd poeth. Er bod yr eitemau hyn, sy'n ddiangen i raddau helaeth, fel gwellt plastig, wedi cael cryn dipyn o sylw, nid ydynt ond yn crafu'r wyneb. Ni fydd codi treth enfawr ar wellt plastig neu ffyn cotwm yn datrys sgandal deunydd plastig yn ein cefnforoedd. Rhaid i ni anelu i ddileu gwastraff o bob math yn gyfan gwbl.

Yng Nghymru, fe allwn, ac fe ddylem, fod yn falch iawn o'n llwyddiant yn ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio bron i ddwy ran o dair o 1.5 miliwn tunnell o wastraff trefol a gynhyrchwn bob blwyddyn, ond nid oes lle i laesu dwylo. Bedair blynedd yn ôl, allforiodd Cymru filoedd o dunelli o ddeunyddiau i wledydd tramor i'w hailgylchu, gan gynnwys 4,000 tunnell o blastig. Aeth llawer ohono i Tsieina, sydd bellach wedi gwahardd llawer o'n deunydd rhag cael ei fewnforio o'r DU, ac mae'n mynd i wledydd eraill sydd â phrosesau hyd yn oed yn llai trefnus ar gyfer ymdrin ag ef.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:20, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd bellach yn archwilio allforwyr sydd wedi gwneud ceisiadau ffug ar filoedd o dunelli o wastraff plastig nad yw'n bodoli, ac ymddengys bod gangiau troseddol yn camfanteisio ar ddiwydiant gwerth £50 miliwn. Mae hunan-adrodd yn gwahodd twyll a chamgymeriadau, ac mae'n amlwg nad yw'r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff yn cael ei oruchwylio'n ddigonol. Yn syml iawn, ni allwn oddef i'n sbwriel gael ei ddympio ar wledydd tlawd sy'n datblygu, gwledydd heb dechnoleg i wneud unrhyw beth defnyddiol ag ef. Yn hytrach, caiff ei adael i lifo i'r afonydd a'r cefnforoedd.

Felly, buaswn yn dadlau bod targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau yn anghynaliadwy os ydynt yn seiliedig ar farchnadoedd allforio bregus. Yn ddi-os, mae yna farchnad ar gyfer alwminiwm, a oedd yn £1,000 y dunnell y tro diwethaf i mi edrych, ond mae eitemau eraill yn anodd i'w hailgylchu—yn syml iawn, nid oes marchnad ar eu cyfer. Felly, mae angen i ni newid i system ailgylchu gylchol. Mae dibynnu ar ailgylchu yn cuddio arferion gweithgynhyrchu anghynaliadwy, a thalwyr y dreth gyngor sy'n gorfod talu amdanynt. O ran tri phen y bregeth—lleihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu—mae angen i ni roi llawer mwy o ffocws ar leihau defnydd ac ailddefnyddio deunyddiau.

Rwy'n gobeithio y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn mynd i'r afael â chael gwared yn ddiangen ar ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio'n hawdd—yn benodol, dylai'r gyfradd uwch o dreth ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig fod yn rhwystr ariannol i weithgareddau gwaredu gwastraff anghyfreithlon, sy'n digwydd yn y diwydiant adeiladu yn arbennig, oherwydd bydd y rheini sy'n tipio'n anghyfreithlon yn cael eu trethu ddwywaith, fel y dylent.

Wrth gwrs, y diwydiant adeiladu sy'n defnyddio fwyaf o adnoddau naturiol yn y DU. Gan fod bron i 90 y cant o wastraff adeiladu yn anadweithiol ac yn ddiogel, fe ellir, ac fe ddylid, ei ailddefnyddio, ei adfer a'i ailgylchu. Buaswn yn disgwyl i'r dreth gwarediadau tirlenwi sicrhau y bydd hynny'n digwydd yn awr. Ond bydd hynny, yn ei dro, yn ei gwneud yn anos byth i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau ailgylchu yn ôl pwysau, a dyna pam fod angen i ni edrych ar strategaeth wahanol.

Mae angen deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r deunydd pacio, yn enwedig y deunydd pacio plastig, a gynhyrchwn, sy'n bwydo'r 8 miliwn o dunelli sy'n cael ei ollwng i'r môr. Yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, caiff llawer o nwyddau eu pacio mewn deunydd clir, tebyg i blastig, wedi'i wneud o startsh ac sy'n fioddiraddiadwy. Mae cwmnïau Almaenig yn cynhyrchu prydau parod mewn pecynnau bioddiraddadwy, ac yng Nghymru mae gennym brifysgolion sydd eisoes yn cynhyrchu deunydd pacio o ddeunydd ailgylchadwy, ond nid yw diwydiannau gweithgynhyrchu ond yn eu defnyddio mewn marchnadoedd arbenigol yn hytrach na mabwysiadu dull systematig.

Yn yr Almaen, mae Deddf Cylch Sylweddau Caeëdig a Rheoli Gwastraff 1996, a gyflwynwyd 20 mlynedd yn ôl, yn ei gwneud yn orfodol i gwmnïau gweithgynhyrchu lunio deunydd pacio nad yw'n wastraffus. Mae wedi creu diwydiant gwastraff bywiog sydd ymhlith y gorau yn y byd, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallem fod yn ei wneud yng Nghymru hefyd.

Mae angen i ni wneud cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn rhan annatod o'r holl eitemau pacio hyn, fel bod y gweithgynhyrchwyr yn talu am yr hyn y mae talwyr y dreth gyngor yn talu amdano ar hyn o bryd. Byddai cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn cymell gweithgynhyrchwyr i ganolbwyntio ar gylch oes eu cynnyrch, a byddai hynny'n sicrhau bod ganddynt fynediad gwell at ddeunyddiau eilaidd ar gyfer eu cadwyni cyflenwi eu hunain, yn ogystal â manteision cymdeithasol, fel clirio sbwriel, megis stympiau sigaréts a gwm cnoi, a fyddai'n achub miliynau o bunnoedd i gynghorau bob blwyddyn.

Wrth gwrs, mae gennym eisoes rai modelau o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, sef cyfraith yr UE, mewn pethau fel nwyddau trydanol ac electronig, batris a cheir. Ond y tu hwnt i'r UE, mae Japan wedi mynd gam ymhellach gyda chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Mae ganddi gyfreithiau helaeth sy'n cwmpasu cylch oes cynhyrchion o ddiwydiannau gwahanol, ac mae wedi'i gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchwyr ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a chydrannau y gellir eu hailddefnyddio mewn cynhyrchion newydd.

Felly, gallem ddefnyddio cynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi drwy ddarparu grantiau i ddatblygu, er enghraifft, cynlluniau dychwelyd blaendal ar boteli. Mae gwydr, wrth gwrs, yn gwbl ailgylchadwy a gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro. Gellir gwneud hynny gyda phlastigau, hefyd, fel y maent wedi'i wneud yn Norwy, lle mae cynllun dychwelyd blaendal ar waith sy'n sicrhau bod 97 y cant o'u holl gynwysyddion yn cael eu hailgylchu.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried hon yn ddeddfwriaeth effeithiol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:25, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf nifer o siaradwyr a dadl hanner awr yw hon. Felly, ni fydd y cyfraniadau'n hwy na thair munud, a byddaf yn ceisio galw ar gynifer o siaradwyr ag y bo modd, ac eithrio'r Gweinidog, wrth gwrs. David Melding.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cymeradwyo'r Aelod. Gwn fod ganddi ddiddordeb angerddol yn y maes hwn, a'i bod ymysg y lleisiau mwyaf diffuant a chynnar, yn wir, i annog polisi cyhoeddus gwell. Rwy'n cytuno'n llwyr â chysyniadau sylfaenol yr economi gylchol, ac mae deunydd pacio, yn benodol, yn her go iawn, ac mae angen i ni ailystyried. Rwy'n ddigon hen i gofio'r adeg pan oeddech yn mynd i brynu ffrwythau ac yn mynd â bag gyda chi, hen fag hesian, ac nid oedd unrhyw ddeunydd pacio am y ffrwythau a'r llysiau—caent eu pwyso a'u rhoi yn y bag. Ac mae angen agwedd wahanol i wneud hynny, ond efallai fod y mudiad bwyd arafach yn dod i siopa arafach.

Rwyf hefyd eisiau canmol Llywodraeth Cymru ar ei hymgyrch dros yr haf i'n gwneud yn genedl ail-lenwi, gan edrych ar ddŵr yfed, lle gallwn gael dŵr yfed, gan greu mwy o fannau ail-lenwi poteli dŵr am ddim, poteli nad ydynt yn blastig yn ddelfrydol. Hoffwn ganmol Llanilltud Fawr, y dref gyntaf, rwy'n credu, i fabwysiadu hyn ar lwybr yr arfordir. Mae cynghorau eraill wedi edrych ar gynlluniau. Gwn fod Cyngor Tref Penarth yn gwneud hyn, ac yn annog gwahanol siopau a chaffis i fod yn rhan o'r cynllun. Yr hyn sy'n wirioneddol ddiddorol, yn fy marn i, yw bod cynghorau tref a chymuned yn gallu arwain ar hyn, a chredaf fod hynny'n arloesol iawn.

A gaf fi hefyd gymeradwyo Sefydliad Prydeinig y Galon? Yn ddiweddar, ymwelais â'u storfa ddodrefn yn Nhreganna, lle maent yn derbyn dodrefn gan bobl ac yn eu glanhau, eu hail-glustogi a'u paratoi ar gyfer eu hailddefnyddio. Pan euthum yno, cefais fy synnu gan ba mor broffesiynol oedd y gwasanaeth hwnnw, pa mor dda yw'r cynhyrchion a pha mor rhesymol yw'r prisiau. Felly, gall ddiwallu nifer o amcanion cymdeithasol wrth ganiatáu i bobl gael mynediad at ddodrefn o ansawdd da, a hynny, yn aml, am un rhan o ddeg o'r pris manwerthu y byddent yn ei dalu. Yn amlwg, i'r elusen honno, gallant gyfleu rhai o'u negeseuon craidd hefyd. Felly, roeddwn yn credu bod hwnnw'n fodel arloesol iawn.

Yn olaf, er mwyn cadw o dan dri munud, credaf fod y Comisiwn wedi cymryd rhan ym mis Gorffennaf di-blastig. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar hyn yn ogystal—sut y gallwn ddileu cynwysyddion untro, ac rwy'n credu bod hynny'n digwydd yn gyflym yn awr, gyda'r defnydd o wellt a phethau felly. Felly, mae llawer iawn o bethau bach y dylem fod yn eu gwneud fel unigolion, ac annog ein gweithleoedd, boed yn y sector preifat neu asiantaethau cyhoeddus eraill, i fabwysiadu'r mathau hyn o bolisïau, a bydd hynny'n ychwanegu at newid mawr yn ein perfformiad yn y maes hwn. Ond da iawn, Jenny.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:28, 12 Rhagfyr 2018

Diolch, Llywydd, ac a gaf innau groesawu'r cynnig yma gan yr Aelod, a dweud y byddaf i a Phlaid Cymru yn llwyr gefnogol i hyn? Yn wir, mi roddodd Plaid Cymru gynnig nid annhebyg i lawr ein hunain y llynedd, ac felly fydd hi'n ddim syndod ein bod ni yn cefnogi'r egwyddor yma. Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal plastigau rhag llygru ymhellach ein moroedd, ein hafonydd a'n hamgylchedd ni. Mae'n bwysig yn y cyd-destun yma hefyd ein bod ni'n cofio'r egwyddor bod y llygrwr yn talu. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:29, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', wrth gwrs, sy'n golygu os mai chi sy'n creu'r gwastraff, chi ddylai dalu'r gost o ymdrin â'i ganlyniadau. Ac yn yr achos hwn, rwy'n credu y dylem gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a'i gwneud yn ofynnol i'r cwmnïau sy'n gyfrifol am gynhyrchu cymaint o'n gwastraff i gyfrannu at y gost o drin y gwastraff hwnnw. Mae pawb ohonom wedi clywed gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol sut y gallai fod mwy o blastig na physgod yn ein moroedd, o ran pwysau, os nad ydym yn newid pethau erbyn 2050, ac mae hynny'n sobreiddiol iawn.

Nawr, mae yna bryderon difrifol, wrth gwrs, mewn perthynas ag i ble mae ein gwastraff plastig ailgylchu'n mynd, a chlywsom rywfaint am hynny yn y cyfraniadau agoriadol, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ond mae'n ein hatgoffa, ac yn dangos i ni'n gynyddol, yn hytrach nag ailgylchu yn unig, fod yn rhaid inni atal y defnydd o blastig, yn enwedig plastig untro, yn y lle cyntaf. A dylid rhoi camau ar waith ar bob lefel o'r Llywodraeth, gyda'r nod o sicrhau dyfodol diwastraff.

Credwn y dylai hyn gynnwys ardoll ar blastig untro i weithio ochr yn ochr â chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli a chaniau, er mwyn atal gwastraff rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac i wobrwyo ailddefnyddio a chynyddu ailgylchu lle bo angen. Wrth gwrs, Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno ardoll ar fagiau siopa, ac mae'n dangos sut y gall cam bach wneud gwahaniaeth mawr iawn. A gwelwyd bod cynlluniau dychwelyd blaendal yn effeithiol iawn hefyd. Mewn gwledydd lle mae cynlluniau o'r fath ar waith, wrth gwrs, rydym wedi gweld lefelau uchel o ailgylchu poteli: dros 90 y cant yn Norwy, Sweden a'r Ffindir, a 98.5 y cant yn yr Almaen, lefelau na allwn ni yng Nghymru ond breuddwydio amdanynt ar hyn o bryd.

Fel y nodwyd yn adroddiad Eunomia ar yr opsiynau ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yng Nghymru, os yw San Steffan yn penderfynu yn erbyn gweithredu cynllun dychwelyd blaendal neu dreth ar gynwysyddion diod, mae'n dal i fod yn bosibl i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer Cymru yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr ar gamau i fynd i'r afael â gwastraff, ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros i weld pa mor bell y bydd camau Llywodraeth y DU yn mynd yn y maes hwn. Ydy, mae'n newyddion i'w groesawu, fel y clywsom, y bydd yna dreth ar blastig defnydd untro, fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb y DU ar gyfer 2018, ond mae'n siomedig, o'm rhan i, na fydd treth ar gwpanau untro, ac rydym yn aros am ganlyniad eu hymgynghoriad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.

Os nad yw Llywodraeth y DU yn ddigon uchelgeisiol yn ei chynlluniau i atal llygredd plastig, dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd, fel y gwnaeth gyda bagiau siopa untro. A hoffwn ofyn i'r Gweinidog felly, pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn ddiweddar, a pha gynnydd y gallwn ddisgwyl ei weld, oherwydd, os yw'n amlwg na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau radical rydym eu hangen i fynd i'r afael â'r broblem hon, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun. Mae angen newid ymddygiad ar gyflymder ac ar raddfa nas gwelsom o'r blaen er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon. Yng Nghymru, fe allwn, ac fe ddylem, fynd ymhellach ac yn gyflymach na Llywodraeth y DU ar hyn, yn enwedig pan fo gennym gonsensws clir ar draws Siambr y Cynulliad. Ac felly, rwy'n falch o roi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig deddfwriaethol hwn.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:32, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf finnau hefyd yn cefnogi'r cynnig. Cytunaf mai cynhyrchwyr deunydd pacio a ddylai fod yn gyfrifol am eu rhan yn creu'r gwastraff anferth sy'n cyrraedd y bin bob blwyddyn. Ers gormod o amser mae deddfwrfeydd wedi bod yn fodlon rhoi'r cyfrifoldeb ar ddeiliaid tai am ailgylchu a chael gwared ar wastraff deunydd pacio, er nad oes ganddynt y nesaf peth i ddim rheolaeth dros y rhan fwyaf o'r hyn yw'r gwastraff hwnnw am nad hwy sy'n dewis y deunydd pacio y maent yn ei gael.

Ni wnaeth cyfarwyddeb tirlenwi yr UE ddim i leihau'r defnydd o ddeunydd pacio, a fawr ddim mewn gwirionedd i leihau'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Er bod y dirwyon i gynghorau wedi arafu cyfradd y sbwriel sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn y DU, mae pawb ohonom yn gwybod fod llawer ohono'n cael ei allforio i Tsieina, gan greu allyriadau carbon enfawr o longau cynwysyddion a ddefnyddir i gludo'r holl wastraff ar draws y byd i'w ddympio mewn safleoedd tirlenwi yno. Pan welwn luniau o filoedd o boteli plastig yn y cefnfor, gallwn briodoli cryn dipyn o'r bai am hynny i gyfarwyddeb tirlenwi'r UE. Fodd bynnag, mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall.

Rwy'n llwyr o blaid system sy'n dwyn gweithgynhyrchwyr i gyfrif am gael gwared ar y deunydd pacio a ddefnyddiant, ond ymddengys ein bod ar ei hôl hi yn hyn o beth. Mae'r cynnig hwn yn ein helpu i ddal i fyny, ond yn ddelfrydol, dylem fod ar flaen y gad. Ychydig ddyddiau'n ôl, dechreuodd Walkers fenter sy'n caniatáu ac yn annog cwsmeriaid i ddychwelyd pacedi creision gwag iddynt. Ac ers tro bellach, mae Costa wedi bod yn derbyn nid yn unig eu cwpanau coffi untro wedi'u defnyddio yn ôl ar gyfer eu hailgylchu, ond rhai unrhyw siop goffi arall hefyd. Lluniwyd y mentrau hyn i apelio ar gwsmeriaid mewn ymateb i alwadau gan y farchnad. Ni allant fod wedi wedi dod o unrhyw fenter Llywodraeth am na chafwyd menter o'r fath.

Nid treth ar ddeunydd pacio yw'r ateb yn fy marn i. Y defnyddiwr fyddai'n ysgwyddo'r gost amdano. Rhaid inni gyflwyno deddfwriaeth briodol i ymdrin â'r sgandalau sy'n cynnwys manwerthwr ar-lein yn anfon llyfr bach mewn bocs enfawr, neu lle y caiff brws dannedd ei selio gan wneuthurwr mewn petryal anferth o blastig a allai wrthsefyll bwled, bron iawn, ac sy'n galw am ddefnyddio llif i'w agor.

Hoffwn weld y cynnig hwn yn cwmpasu mwy na deunydd pacio bwyd yn unig, a manteisio ar y cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon sylweddol ynglŷn â gwastraff bwyd yn yr amgylchedd. Er enghraifft, ni wneir dim yn y cynnig hwn, neu yn unrhyw le arall, i fynd i'r afael â'r gwastraff bwyd sy'n deillio o daflu 86 miliwn o gywion ieir—mwy nag un cyw iâr i bob person yn y DU—i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur dychrynllyd o uchel. Mae'n cyfrannu cymaint o nwyon tŷ gwydr â 290,000 o geir bob blwyddyn yn ôl yr elusen gwrth-wastraff WRAP. Ac wrth gyfrifo'r ffigur hwnnw, roedd WRAP yn ystyried y gost o fagu, bwydo a chludo'r adar byw, ynghyd ag allyriadau nwyon os cânt eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi. Amcangyfrifwyd hefyd fod aelwydydd yn y DU yn taflu 34,000 o dunelli o gig eidion bob blwyddyn—sy'n cyfateb i 300 miliwn o fyrgyrs cig eidion. Yn wir, mae'r teulu cyfartalog yn taflu gwerth £700 o fwyd bob blwyddyn. Mae hwnnw'n llawer iawn o wastraff nad yw'n cael sylw yn y cynnig hwn. Ac mae'n bosibl fod yna un arall yn yr arfaeth, ac efallai y dywedwch wrthym amdano, os felly.

Nid yw'r cynnig ychwaith yn mynd i'r afael â deunydd pacio ar gyfer eitemau nad ydynt yn fwyd. Mae pawb ohonom yn ôl pob tebyg yn gyfarwydd â'r mynydd o bolystyren a chardfwrdd a ddaw gyda pheiriant golchi dillad neu deledu newydd, neu'r rhan fwyaf o nwyddau mewn gwirionedd, deunydd pacio a ddefnyddiwyd gan y manwerthwr i sicrhau eu bod yn cyrraedd diogel, ond mater i'r defnyddiwr, drwy eu treth gyngor, yw ymdrin ag ef wedyn. Rwy'n gobeithio y bydd y Bil arfaethedig hwn yn cynnwys camau i fynd i'r afael â deunydd pacio gormodol am eitemau nad ydynt yn fwyd, a'r lefel anfoesol o gig a wastreffir hefyd. Gan droi'n ôl at ddeunydd pacio—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:36, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rhaid ichi ddirwyn eich sylwadau i ben yn awr.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Un frawddeg arall, dyna i gyd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn gyflym iawn.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Efallai y byddai rhwymedigaeth ar fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i gymryd y deunydd pacio y maent yn dewis ei ddefnyddio yn eu busnes yn ôl yn gwneud iddynt ystyried a yw'r deunydd pacio y maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn wirioneddol angenrheidiol. A dyna ni—diolch ichi.

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Gallwch ddweud beth sy'n Fil da, gyda llaw, yn ôl nifer y bobl sydd eisiau siarad. Mae Jenny Rathbone wedi cydnabod bod awdurdodau lleol yn y rheng flaen o ran sicrhau llwyddiant polisïau ailgylchu Llywodraeth Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy na hynny. Ond rhaid i mi dynnu sylw'r Siambr at ffatri yn fy etholaeth, o'r enw Bryn Compost, sydd wedi cael anawsterau. Gwn nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â deunydd pacio, ond roedd ganddo system ailgylchu gwastraff bwyd gyda rhesi compostio caeedig a oedd yn achosi drewdod yn y gymuned gyfagos. Fe wnaethant newid wedyn i gyfleuster treulydd anaerobig, a leihaodd y drewdod, ond roedd y pethau hynny'n parhau i achosi dicter mawr yn y gymuned, i'r graddau fod pobl wedi rhoi'r gorau i ailgylchu eu gwastraff bwyd, mewn protest. A rhaid imi ddweud, roedd hi'n brotest a gefnogwn oherwydd y drewdod mawr a achoswyd gan y problemau. Ond ateb byr i'r broblem oedd hynny.

Y rheswm rwy'n dod â hyn i sylw'r Siambr—rydym yn dal i weithio ar y problemau yn yr ardal honno—yw oherwydd bod angen inni edrych ar y dechnoleg a ddefnyddiwn, ond hefyd y rheoliad, a dyma yw diben y Bil hwn: mae'n ymwneud â rheoliadau, a rheoliadau effeithiol, a newid y ffordd o reoleiddio. Felly, os ydych yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y sector preifat, sy'n creu'r gwastraff, i ymdrin â'r gwastraff, gallwch gefnogi hynny wedyn. Er mwyn ymateb i'r pryderon cyhoeddus hynny, dau beth: mae angen i chi gael cefnogaeth y cyhoedd, a chredaf y byddai'r Bil hwn yn cyflawni hynny, ond hefyd rhaid ichi roi'r pŵer i'r sector cyhoeddus reoleiddio'r sector preifat. Dyna un o'r problemau a gawsom yn sefyllfa Bryn Compost: nid oedd digon o bŵer gan reoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac os yw'r Bil hwn yn mynd i fod yn llwyddiannus, rwy'n credu bod rhaid i chi gael pŵer rheoleiddio statudol y tu ôl iddo. Ond hoffwn roi croeso iddo, ac rwy'n cydnabod ei fod yn cyflawni'r ddau beth hynny.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:38, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ychydig o bwyntiau cyflym. Rwy'n croesawu'r cynnig hwn yn fawr ac yn llongyfarch yr Aelod am ei gyflwyno. Rwy'n cytuno ei bod hi'n anodd iawn mynd yn llawer pellach gydag ailgylchu—rhaid inni leihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu. Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi sôn am y cynllun dychwelyd blaendal, fel y gwnaeth Llyr Gruffydd. Oherwydd credaf ei bod hi'n amlwg, mewn gwirionedd, y dylem gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal. A hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd a oes unrhyw beth y gall ddweud i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â beth sy'n digwydd o ran gweithio gyda Lloegr ar gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal. Bûm yn ymwneud â Chasglwyr Sbwriel Llangatwg, a roddodd ystadegau—ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog a'r Aelod wedi'u gweld—ynglŷn â nifer y poteli diodydd plastig, sef yr elfen fwyaf o bell ffordd o unrhyw sbwriel a gesglir. Felly, dyna un pwynt, fy mod yn hapus iawn ynglŷn â'r cynllun dychwelyd blaendal, ac yn meddwl tybed a allem gael sylw ar hynny.

A'r ail bwynt mewn gwirionedd—cyfeiriodd Hefin David ato—yw bod arnom angen cefnogaeth y cyhoedd. Rwy'n meddwl y byddai cefnogaeth gyhoeddus i'r ddeddfwriaeth hon. Gwn fod y Gweinidog wedi ymweld â fy etholaeth, lle y gwnaethom lansio Rhiwbeina ddi-blastig gyda'n Haelod Seneddol, Anna McMorrin, ac mae hynny wedi lledaenu i wahanol rannau o'r etholaeth. A'r wythnos diwethaf euthum i ysgol gynradd Llys-faen, lle mae ganddynt eco-bwyllgor sydd â rhestr hir o argymhellion y byddent yn hoffi eu cyflwyno, ac mae un ohonynt yn ymwneud â lleihau deunydd pacio. Un o'u hymrwymiadau yw ceisio sicrhau nad yw eu rhieni'n prynu bwyd â llawer o ddeunydd pacio amdano. Felly, rwy'n credu bod yna ddyhead ac ewyllys da o'r fath felly rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:40, 12 Rhagfyr 2018

Galwaf ar y Gweinidog i gyfrannu—Hannah Blythyn.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cynnig hwn ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Credaf fod fy nghyd-Aelod Hefin David yn gywir i ddweud y gallwch fesur cryfder cynnig yn ôl faint o bobl sydd am gyfrannu ato. Mae'n drueni, ar yr achlysur hwn, nad oes gennym lawer o amser i'w drafod. Ond rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth a gaiff ei ailystyried yn y Siambr hon yn y dyfodol agos hefyd.

Rydych yn llygad eich lle fod deunydd pacio, yn enwedig deunydd pacio plastig yn fater proffil uchel iawn ar hyn o bryd ac un y gwyddom fod angen inni weithredu yn ei gylch cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl hon heddiw er mwyn datblygu syniadau pobl ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â hyn yng Nghymru.

Buom yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r gyfundrefn cyfrifoldeb cynhyrchwyr am ddeunydd pacio—felly, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Rydym yn gwybod bod cynhyrchwyr ar hyn o bryd yn cyfrannu tua 10 y cant o'r costau deunydd pacio diwedd oes, sy'n anghyfiawn, yn annheg ac yn methu cymell y cynhyrchwyr hyn i ddefnyddio mwy o gynnwys wedi'i ailgylchu neu ddeunydd pacio hawdd ei ailddefnyddio y gellir ei ailbrosesu. Fel y mae Aelodau eraill wedi nodi hefyd, mae'n gosod cost y baich o reoli ein gwastraff deunydd pacio ar ein hawdurdodau lleol a'n dinasyddion. Felly, ar y rheoliad trwyddedu amgylcheddol hwn, y byddwn yn ymgynghori arno ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr, bydd yn cynnwys ffioedd wedi'u modiwleiddio hefyd, a fyddai'n helpu mewn gwirionedd i gyfrannu at awdurdodau lleol yn ogystal, er mwyn unioni'r cydbwysedd hwnnw.

Credaf eich bod wedi dweud yn glir o'r cychwyn cyntaf, fel finnau, ei fod yn un o'r pethau a welwn—. Soniodd Julie Morgan am Riwbeina ddi-blastig ac rydym yn gweld cymunedau ledled y wlad yn rhoi camau ar waith ac mae'r cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i roi camau ar waith hefyd, ac ar bob un ohonom fel busnesau, cynhyrchwyr a manwerthwyr yn ogystal. Felly, rwyf am weld diwygio a newid y drefn bresennol, er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb.

Y mis diwethaf, cyfarfûm â fy Ngweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban i bwyso ar y cyd am ddiwygio o'r fath, a bod y refeniw ychwanegol a gynhyrchir yn llifo i Gymru a rhannau eraill o'r DU yn briodol. Ac yn amlwg rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn fwy manwl, rwy'n ymwybodol o gyn lleied o amser sydd gennyf i siarad heddiw, ond rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar hynny wrth inni symud ymlaen. Yn amlwg, bydd hyn yn ein galluogi i wthio ymhellach ac yn gyflymach o safbwynt ein hailgylchu.

Ochr yn ochr â hyn, soniodd Julie Morgan ac eraill am gynlluniau dychwelyd blaendal. Byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer Cymru a Lloegr, ond fel rydych wedi dweud eisoes, rydym yn agored i wneud hyn ar wahân yn ogystal—i ymgynghori yng Nghymru.

Yn benodol, rwy'n awyddus i wneud yn siŵr fod yr ymgynghoriad ar y cyd yn ystyried y trefniant penodol sydd gennym yng Nghymru. Ni yw'r unig wlad sy'n meddu ar dargedau statudol—felly, gwneud yn siŵr fod hynny'n gweddu i'r drefn sydd gennym eisoes ac yn ategu ac yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn ogystal.

Byddwn hefyd yn ymgynghori ar Ran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Fel y dywedodd Aelod ar yr ochr arall i'r Siambr, rydym yn cymryd cyfrifoldeb fel aelwydydd yn awr gyda'n hailgylchu, ac mae angen i fusnesau wneud yr un peth a gwahanu eu gwastraff ar gyfer ei gasglu, fel rydym wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach.

Ar y sail fod yna weithgarwch sylweddol ar fin digwydd yn y maes hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal ar y cynnig hwn heddiw, ond mae'r cynigion yn gadarn a chredaf ei fod yn gynnig rhagorol. Fel Gweinidog yr amgylchedd, rwy'n rhoi ffocws cadarn ar reoli gwastraff ac ar adeiladu ar yr enw da sydd gennym eisoes am ailgylchu. Fel y dywedodd yr Aelod, un pen yn unig yw ailgylchu ac mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag edrych ar ailddefnyddio, lleihau defnydd a sut y dechreuwn ymdrin â phethau ar ddechrau eu hoes yn ogystal ag ar ddiwedd eu hoes.

Soniodd David Melding—ni chlywais enw'r lleoliad yn Nhreganna, y lle ailddefnyddio. Rwyf wedi ymweld â nifer o lefydd ailddefnyddio yn y misoedd diwethaf ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu addo cyllid i gefnogi'r mathau hyn o fentrau yn ogystal, oherwydd fel y dywedasoch, nid yn unig mae iddynt fanteision amgylcheddol, ond rydych yn gweld y manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach a ddaw yn sgil y mentrau. Gallwch ddod o hyd i fargeinion anhygoel yn ogystal—bûm yn edrych drwy'r finyl yn y lle diwethaf yr euthum iddo tra oeddwn yno.

Roeddem yn sôn am yr economi gylchol, ac mae'r economi gylchol yn allweddol. Rwyf am inni fod y genedl fwyaf cylchol yn y byd o ran ein heconomi, fel ein bod nid yn unig yn buddsoddi yn ein hamgylchedd, ond yn ffyniant ein gwlad a'n pobl yn ogystal. Rwy'n credu ei fod yn un o'r pethau rydym wedi bod yn gweithio arnynt ymhell cyn iddo ddod yn derm go ffasiynol, ond mae wedi cryfhau bellach yn y meysydd a awgrymodd yr Aelod yn ogystal, ac yn y gwaith a wnawn yn buddsoddi gyda busnesau yng Nghymru i'w helpu i geisio symud at ddewis amgen mwy cynaliadwy yn ogystal.

Yn y pen draw, rydym am weld pobl yn ailgylchu, rydym eisiau gweld cyn lleied ag y bo modd o ddeunydd pacio nad yw'n angenrheidiol a gwneud yn siŵr fod modd ailbrosesu ac ailgylchu unrhyw ddeunydd eildro. Felly, wrth gloi, hoffwn ailadrodd fy nghroeso i'r cynnig a gyflwynwyd heddiw, sy'n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru tuag at ddyfodol diwastraff a'n llwybr tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch iawn fod Aelodau ar draws y pedair plaid wedi cefnogi'r cynnig hwn. Ni wneuthum edrych ar fwyd yn benodol, oherwydd credaf fod llawer ohono'n ymwneud â chael y cyhoedd ar ein hochr a'u cael i fwyta bwyd go iawn. Felly, nid wyf wedi mynd i'r afael â gwastraff bwyd, ac nid wyf eto wedi dod o hyd i ffordd y gallem gymhwyso rheoliadau trwyddedu amgylcheddol ar gyfer gwastraff bwyd, er ei fod yn faes diddorol iawn. Rwy'n dal i synnu at yr 86 miliwn o ieir a deflir i safleoedd tirlenwi.

Mae'n amlwg fod yna gefnogaeth fawr i'r cynllun dychwelyd blaendal a hefyd i gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a chredaf fod angen inni symud ar hynny'n eithaf cyflym. Yn y cyfamser, tra byddwn yn cael y cynlluniau dychwelyd blaendal yn weithredol, rwy'n credu bod yna rôl i'r Llywodraeth sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yn gwahanu eu gwydr oddi wrth weddill eu deunydd ailgylchu, oherwydd, ar hyn o bryd, y cyfan y mae'r gwydr yn ei wneud yw halogi'r deunyddiau ailgylchadwy â darnau o wydr, oherwydd, yn amlwg, dyna sy'n digwydd wrth gywasgu.

Felly, diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth ac rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda deddfwriaeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:47, 12 Rhagfyr 2018

Y cynnig yw i nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.