Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Mae David Attenborough wedi annog y cyhoedd ym Mhrydain i ganolbwyntio ar faint o blastig sy'n cyrraedd y cefnfor, yn cael ei lyncu gan fywyd y môr ac yn cyrraedd ein stumogau os ydym yn bwyta pysgod. Felly rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn ystyried codi treth ar ddeunydd pacio plastig, gan dargedu'r rheini sy'n cynnwys llai na 30 y cant o ddeunydd wedi'i ailgylchu neu sy'n anodd neu'n amhosibl eu hailgylchu, megis gwellt plastig, cynwysyddion duon a chwpanau untro ar gyfer diodydd poeth. Er bod yr eitemau hyn, sy'n ddiangen i raddau helaeth, fel gwellt plastig, wedi cael cryn dipyn o sylw, nid ydynt ond yn crafu'r wyneb. Ni fydd codi treth enfawr ar wellt plastig neu ffyn cotwm yn datrys sgandal deunydd plastig yn ein cefnforoedd. Rhaid i ni anelu i ddileu gwastraff o bob math yn gyfan gwbl.
Yng Nghymru, fe allwn, ac fe ddylem, fod yn falch iawn o'n llwyddiant yn ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio bron i ddwy ran o dair o 1.5 miliwn tunnell o wastraff trefol a gynhyrchwn bob blwyddyn, ond nid oes lle i laesu dwylo. Bedair blynedd yn ôl, allforiodd Cymru filoedd o dunelli o ddeunyddiau i wledydd tramor i'w hailgylchu, gan gynnwys 4,000 tunnell o blastig. Aeth llawer ohono i Tsieina, sydd bellach wedi gwahardd llawer o'n deunydd rhag cael ei fewnforio o'r DU, ac mae'n mynd i wledydd eraill sydd â phrosesau hyd yn oed yn llai trefnus ar gyfer ymdrin ag ef.