Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Ychydig o bwyntiau cyflym. Rwy'n croesawu'r cynnig hwn yn fawr ac yn llongyfarch yr Aelod am ei gyflwyno. Rwy'n cytuno ei bod hi'n anodd iawn mynd yn llawer pellach gydag ailgylchu—rhaid inni leihau defnydd, ailddefnyddio ac ailgylchu. Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi sôn am y cynllun dychwelyd blaendal, fel y gwnaeth Llyr Gruffydd. Oherwydd credaf ei bod hi'n amlwg, mewn gwirionedd, y dylem gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal. A hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd a oes unrhyw beth y gall ddweud i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â beth sy'n digwydd o ran gweithio gyda Lloegr ar gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal. Bûm yn ymwneud â Chasglwyr Sbwriel Llangatwg, a roddodd ystadegau—ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog a'r Aelod wedi'u gweld—ynglŷn â nifer y poteli diodydd plastig, sef yr elfen fwyaf o bell ffordd o unrhyw sbwriel a gesglir. Felly, dyna un pwynt, fy mod yn hapus iawn ynglŷn â'r cynllun dychwelyd blaendal, ac yn meddwl tybed a allem gael sylw ar hynny.
A'r ail bwynt mewn gwirionedd—cyfeiriodd Hefin David ato—yw bod arnom angen cefnogaeth y cyhoedd. Rwy'n meddwl y byddai cefnogaeth gyhoeddus i'r ddeddfwriaeth hon. Gwn fod y Gweinidog wedi ymweld â fy etholaeth, lle y gwnaethom lansio Rhiwbeina ddi-blastig gyda'n Haelod Seneddol, Anna McMorrin, ac mae hynny wedi lledaenu i wahanol rannau o'r etholaeth. A'r wythnos diwethaf euthum i ysgol gynradd Llys-faen, lle mae ganddynt eco-bwyllgor sydd â rhestr hir o argymhellion y byddent yn hoffi eu cyflwyno, ac mae un ohonynt yn ymwneud â lleihau deunydd pacio. Un o'u hymrwymiadau yw ceisio sicrhau nad yw eu rhieni'n prynu bwyd â llawer o ddeunydd pacio amdano. Felly, rwy'n credu bod yna ddyhead ac ewyllys da o'r fath felly rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr.