Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Rwy'n falch o godi heddiw i gefnogi'r cynnig hwn ac roeddwn yn falch iawn o'i weld yn cael ei gyflwyno gan Jane Hutt yn y lle cyntaf a'i gefnogi gan gymaint o gyd-Aelodau. Fel sawl un yn y Siambr hon, mae'n siŵr, teimlaf yn flin iawn fod cynifer o'n cyd-ddinasyddion yn gweithio'n galed iawn a'u bod yn dal yn dlawd. Rwy'n gwrthwynebu defnyddio trethi pobl i sybsideiddio cyflogwyr gwael a ddylai allu talu cyflogau heb fod raid i bobl sy'n gweithio amser llawn ddibynnu ar fudd-daliadau. Ac wrth gwrs, menywod—a menywod sy'n aml yn gwneud nifer o swyddi rhan-amser—sy'n cael eu heffeithio gan gyflogau isel, ac ar brofiad menywod yr hoffwn ganolbwyntio'n benodol heddiw.
Mae'n amlwg fod y polisi cyflog byw wedi bod yn llwyddiant ac yn amlwg, mae ei ehangu wedi bod yn rhan bwysig o strategaeth economaidd a strategaeth trechu tlodi'r Llywodraeth. Ond telir llai na'r cyflog byw go iawn i tua 26 y cant o weithwyr Cymru o hyd. Golyga hynny fod ychydig dros chwarter ein cyd-ddinasyddion i bob pwrpas yn byw mewn tlodi mewn gwaith. A rhaid inni beidio â drysu rhwng y cyflog byw gwirioneddol, y cyflog byw go iawn, a'r hyn a elwir yn gyflog byw—sef yr isafswm statudol.
Nawr, mae nifer anghymesur o'r 26 y cant yn fenywod, yn enwedig gweithwyr rhan-amser a rhai o dan 30, ac mae menywod yn wynebu llawer o gosbau economaidd ychwanegol. Roedd y bwlch cyflog rhwng menywod a dynion—weithiau rydym yn ei alw'n fwlch cyflog ar sail rhywedd, ond mewn gwirionedd, bwlch cyflog ar sail rhyw ydyw, ac mae'n eithaf pwysig, rwy'n credu, ein bod yn defnyddio'r ddeddfwriaeth gywir, fel y cyfeirir ati yn Neddf Cydraddoldeb 2010—ar sail amser llawn canolrifol fesul awr, heb gynnwys goramser ym mis Ebrill eleni, yn 7.3 y cant yng Nghymru ac 8.6 y cant yn y DU. Nawr, yn anffodus, nid yw hynny oherwydd bod menywod yng Nghymru yn cael eu talu'n well; y rheswm am hynny yw oherwydd bod dynion yng Nghymru yn cael eu talu ychydig yn waeth.
Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi tyfu 0.9 pwynt canran, ac yn y DU, mae wedi gostwng 0.5 pwynt canran, felly gallem ddadlau ein bod mewn perygl yma o symud i'r cyfeiriad anghywir. Fel y gŵyr Aelodau o'r Siambr, mae rheoliadau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sector preifat a sector gwirfoddol gyda 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Yn dilyn y rownd gyntaf o adroddiadau eleni, ac yn seiliedig ar adroddiadau dros 10,000 o gyflogwyr, nododd ychydig dros 78 y cant eu bod yn talu mwy i ddynion na menywod ar gyfartaledd, ac wrth gwrs, mae hyn yn canolbwyntio ar gyflogau amser llawn, ac nid yw'n edrych ar y gosb gwaith rhan-amser y gwyddom fod menywod yn ei hysgwyddo.
Rydym hefyd yn gwybod bod canran ddychrynllyd o uchel o famau newydd yn nodi eu bod yn cael profiadau negyddol neu wahaniaethol o bosibl hyd yn oed naill ai yn ystod beichiogrwydd ac ar absenoldeb mamolaeth, neu ar ôl dychwelyd i'r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth. Mae'n amlwg fod angen i'r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru—weithredu mwy ar hyn, er bod yr hyn a wnaethant eisoes i'w groesawu. Mae'n rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i'r afael â chyflogau isel a gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y gwaith a wneir, sy'n cael ei arwain ar hyn o bryd gan arweinydd y tŷ, yn helpu i gyfrannu tuag at hynny.
Fel y dywedais, mae'r polisi isafswm cyflog wedi cael peth llwyddiant ac mae wedi ein galluogi i roi mwy o amlygrwydd i drafodaeth ar y cyflog byw, ond mae'n dal yn wir yng Nghymru fod tua 8 y cant o swyddi'n talu'r isafswm cyflog cyfreithiol, a rhai ohonynt yn talu llai na hynny. Mae hynny'n gadael llawer iawn o'n cyd-ddinasyddion yn gweithio'n galed iawn ac yn aros yn dlawd iawn. O waith y Comisiwn Cyflogau Isel, gwyddom fod dros hanner y swyddi sy'n talu cyflogau isel wedi'u crynhoi mewn tri sector: manwerthu, lletygarwch, a glanhau a chynnal a chadw. Os edrychwch ar y rhai a gyflogir yn y sector preifat, byddai'r rheini'n cynnwys gofalwyr hefyd, ond oherwydd ein bod, er enghraifft, wedi cyflwyno cyflog byw yn y gwasanaeth iechyd, nid yw gofalwyr yn gyffredinol wedi'u cynnwys, ond os edrychwch ar y rhai a gyflogir gan y sector preifat, maent i'w gweld yno. Felly, yn fy marn i, ni allwn gael trafodaeth ystyrlon yn y Siambr am gyflogau isel, tlodi ac ecsbloetio economaidd heb gynnwys gwahaniaethu ar sail rhyw yn y ddadl.
Rhaid inni fynd i'r afael â gwahaniaethu mewn cyflogaeth; rhaid inni fynd i'r afael â chosb cyflog mamolaeth a gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Buaswn yn mynd ymhellach a dweud mai'r unig ffordd—yr unig ffordd—o fynd i'r afael â chyflogau isel yw drwy gael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a byddai llawer o'n problemau economaidd yn lleihau'n sylweddol pe baem yn gallu gwneud hynny. Felly, hoffwn gysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a wnaeth Jane Hutt am y pethau ymarferol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud. Er enghraifft, pe bai'n cyhoeddi na fyddai ond yn defnyddio cyflogwyr cyflog byw ar gyfer glanhau, cynnal a chadw, lletygarwch a gofal, dyna neges wych y byddai hynny'n ei gyfleu i'r diwydiannau hynny, a'r fath effaith enfawr a gâi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn; nid yw ein cyd-ddinasyddion gweithgar yn haeddu llai oddi wrthym. Ni lwyddwn i drechu tlodi mewn gwaith oni bai ein bod yn trechu gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gweithle, a chredaf fod cymaint mwy y gallem ei wneud.