Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Mae rhai o'r siaradwyr eisoes wedi dweud ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd, ond mae gennym ffordd bell i fynd, ond credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn—a hoffwn sôn amdano, oherwydd roeddwn i yno—gyda phasio'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur a ddaeth i rym yn 1997—rhan o'i diwygiadau mawr. Rwy'n meddwl mai dyna oedd y dechrau sydd wedi arwain bellach at yr ymgyrch hon. Ac rwy'n llongyfarch Jane Hutt a Mick Antoniw ac eraill am gyflwyno hyn heddiw, oherwydd credaf ei fod yn fater bara menyn go iawn, fel y dywedodd ein Prif Weinidog newydd. Mae'n ymwneud â'r arian sydd gan weithwyr yn eu pocedi ar ôl talu'r biliau. Mae'n ymdrin â thlodi mewn gwaith, fel y mae eraill wedi'i ddweud yma heddiw. Ar un adeg, os oedd gennych swydd, roeddem yn meddwl mai dyna ni; ni fyddech yn byw mewn tlodi. Gwyddom bellach fod tlodi mewn gwaith yn un o'r problemau anoddaf i fynd i'r afael â hi, felly mae cyflwyno cyflog byw go iawn yn hanfodol bwysig i'n holl ddinasyddion.
Bellach mae 175 o gyflogwyr yng Nghymru a achredwyd gan y Living Wage Foundation wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw go iawn. Wrth gwrs, mae'n effeithio'n arbennig ar bobl ifanc os ydynt o dan 25 oed, gan fod y bwlch rhwng cyfradd is yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw go iawn yn fwy ar gyfer y rhai yn y grŵp oedran 18 i 25 oed. Mae hwnnw'n eithaf sylweddol—bron i £3,200 y flwyddyn, sy'n llawer iawn o arian. Rwy'n falch iawn, fel y soniodd Jane Hutt, fod cyngor Caerdydd yn gefnogwr cynnar i'r cyflog byw go iawn, gan ymrwymo iddo yn 2012, ac rydym yn gwybod bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn talu'r cyflog byw go iawn, megis Cymorth i Fenywod, Chwarae Teg a Mind. Rwyf hefyd yn falch fod 96 o gyflogwyr sector preifat yng Nghymru yn talu'r cyflog byw go iawn, ac yng Nghaerdydd, soniodd Jane Hutt am y Bigmoose Coffee Company, lle lansiwyd yr wythnos cyflog byw; cwmni cysylltiadau cyhoeddus Freshwater, cwmni cyfreithwyr Darwin Gray, y Cardiff Window Cleaning Company ac IKEA, sydd i gyd yn talu cyflog teg i'w staff am ddiwrnod caled o waith. Felly, credaf fod arnom eisiau llongyfarch y cyflogwyr sector preifat hynny a'u hannog, oherwydd, yn amlwg, rhan o'r ymgyrch hon yw annog cyflogwyr sector preifat i wneud hyn.
Credaf fod llawer o siaradwyr heddiw wedi amlygu'n glir iawn pam y dylai cyflogwyr gyflwyno'r cyflog byw go iawn yn hytrach na chyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU. Mae yna resymau moesol. Rydym am i bobl gael digon o arian i allu byw. Ond yn amlwg, ceir rhesymau busnes cadarn yn ogystal, ac mae sawl siaradwr eisoes wedi sôn am arolwg Ysgol Fusnes Caerdydd o brofiad 840 o gyflogwyr a gynhaliwyd yn ystod hydref 2016, a chredaf fod siaradwyr wedi tynnu sylw at fanteision gwirioneddol cyflwyno'r cyflog byw go iawn, ac nid wyf am ailadrodd y rheini.
Ond credaf fod talu'r cyflog byw go iawn mor bwysig i'r rhai sydd mewn gwaith cyflog isel, oherwydd gall wneud y gwahaniaeth rhwng cael dau ben llinyn ynghyd a methu gwneud hynny. Credaf ein bod oll yn gwybod am y straen ofnadwy sy'n wynebu cynifer o deuluoedd ar hyn o bryd. Yn arbennig, gwelwn bobl yn ein cymorthfeydd, ac mae polisi cyni wedi taro cymaint o deuluoedd mor galed. Fel gwlad, mae gennym ormod o weithwyr ar gyflogau isel, a gwn fod gennym broblem benodol yng Nghymru oherwydd dangosodd adroddiad gan Sefydliad Resolution mai pobl yng Nghymru a gafodd y cynnydd lleiaf ond un yn eu cyflogau yn y DU ar ôl gogledd-ddwyrain Lloegr. O'i gymharu â naid o 18 y cant yng nghyflogau Llundain, 4.5 y cant yn unig o gynnydd a fu yn y cyflogau yma.
Felly, hoffwn groesawu ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, i hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r agenda gwaith teg a'r cyflog byw go iawn, yn ogystal, wrth gwrs, â chau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fel yntau, credaf mai'r ffordd fwyaf effeithiol allan o dlodi a'r llwybr gorau tuag at fywydau bodlon, sydd hefyd wrth gwrs yn golygu eich iechyd a'ch llesiant—mae'n golygu popeth a wnewch—yw drwy greu cyflogaeth werth chweil a wobrwyir yn briodol. Ac mae cyfle gwych gan Lywodraeth Cymru i ledaenu'r cyflog byw drwy ein cadwyni cyflenwi, a byddai hynny'n helpu i greu ffyniant ledled y wlad.