7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyflog Byw

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:08, 12 Rhagfyr 2018

Rydw innau'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig yma. Mi ydym ni wedi dod ymhell iawn, fel y mae Hefin David newydd ei ddweud, o'r dadleuon yna nôl yng nghanol y 1990au ynglŷn â gwerth lleiafswm cyflog bryd hynny. Mae hi'n dweud rhywbeth am ein dealltwriaeth ni rŵan fod y blaid a wnaeth wrthwynebu lleiafswm cyflog nôl bryd hynny, bellach, wrth gwrs, wedi cyflwyno rhyw fath o leiafswm cyflog eu hunain, er nad y lleiafswm cyflog fel y mae'r rheini ohonom ni sydd eisiau mynd ymhellach yn dymuno ei weld. Ond, wir, rydym ni'n deall, onid ydym, beth ydy gwerth i'r economi'n ehangach o roi rhagor o arian i bobl am eu gwaith caled nhw.

Ers talwm, diwethdra—taclo diweithdra—oedd y nod. Rydym ni'n deall, erbyn hyn, mai cyflogau uwch, gwell swyddi ac ati, sydd eu hangen ar economi Cymru. Mae o'n bryder gennyf i ac rydw i wedi adrodd hynny sawl tro yma yn y Cynulliad, sef bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dal yn rhoi gormod o bwyslais braidd ar y ffaith bod diweithdra, ydy, yn gymharol isel yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae o'n beth da, ond allwn ni ddim dibynnu ar hwnnw fel yr arwydd o le mae ein heconomi ni arni.

Ond gan ein bod ni’n deall, ac yn cefnogi rŵan, yr egwyddor yma o leiafswm cyflog neu o gyflog byw go iawn, mae’n rhaid edrych ar beth mae Llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn gallu ei wneud. Mae angen iddi roi trefn ei thŷ ei hun, yn sicr, a sicrhau—. Rwy’n gwybod bod yna waith da iawn wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn gwthio’r cyflog byw allan ar draws y sector cyhoeddus, ond rydym ni’n dal yn aros am i rai staff ym Maes Awyr Caerdydd, er enghraifft, gael lefel y cyflog hwnnw. Rydym ni’n dal yn edrych ar draws y sector cyhoeddus a gweld bod yna dyllau sydd angen eu llenwi o hyd. Ac mae’n rhaid rhoi trefn ar ein tŷ cyhoeddus ein hunain.

Mae angen, oes, ddefnyddio prosesau caffael, fel mae Hefin David a Helen wedi cyfeirio atyn nhw, i sicrhau bod y rheini sy’n darparu gwasanaethau yn sector cyhoeddus yn cael eu cydnabod a’u dewis am eu bod nhw yn gwmnïau sy’n talu cyflog byw.

Rŵan, yn ôl astudiaeth blynyddol KPMG ar gyfer 2018, mae Cymru yn un o’r tair rhan o’r Deyrnas Unedig sydd â’r gyfran uchaf o swyddi yn ennill llai na’r cyflog byw. Felly, rydym ni’n gwybod bod hon yn broblem arbennig o acíwt i ni yn fan hyn. Ac rydym ni wedi cyfeirio yn barod at rai o’r sectorau lle mae’r broblem ar ei mwyaf: lletygarwch, arlwyo, manwerthu, celf, a hamdden, amaeth hefyd, iechyd a gofal—gormod o swyddi o lawer yn talu yn is na’r cyflog byw. Ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth wthio’r neges yma fod yna help ar gael—mae’n rhaid sicrhau bod yr help ar gael—i gwmnïau a chyrff allu derbyn achrediad cyflog byw a’u perswadio nhw o’r manteision amlwg sydd yna—manteision fel a oedd yn cael eu dangos mewn dadansoddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, sydd yn sicr yn dangos nad oes yna dystiolaeth o gyflogwyr cyflog byw yn trio ennill peth o’r arian hwnnw maen nhw’n ei roi mewn cyflogau uwch yn ôl mewn ffyrdd eraill. Mae 93 y cant o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg yn teimlo eu bod nhw wedi cael budd go iawn o gael achrediad cyflog byw, budd i’w henw da nhw fel cwmnïau yn aml iawn, yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw recriwtio, yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw gadw staff yn hirach. Mi ddywedodd rhai bod achrediad cyflog byw wedi arwain atyn nhw’n cynnig rhagor o hyfforddiant i’w staff—felly, yn rhoi codiad cyflog iddyn nhw, ac uwchsgilio eu staff. Hynny ydy, mae’r knock-ons yn amlwg. Mae tystiolaeth wedyn o gwmnïau yn symud gweithwyr o weithio rhan-amser i lawn-amser, o gytundeb dros dro i gytundeb parhaol, cyflwyno ffurfiau newydd o weithio, am eu bod nhw’n meddwl yn wahanol am y ffordd maen nhw’n talu’r cyflogau ac yn gwerthfawrogi eu staff nhw.

Ond mae yna fudd economaidd ehangach, wrth gwrs, o sicrhau bod gan ein gweithwyr ni ragor o arian i’w wario yn eu heconomïau lleol nhw. Rydw i’n meddwl bod yr adroddiad diweddar gan y Smith Institute yn amcangyfrif, pe baech chi’n talu cyflog byw i’r rheini sydd ddim ar gyflog byw yn ardal Caerdydd yn unig ar hyn o bryd, byddai gennych chi ryw £24 miliwn yn ychwanegol yn cael ei dalu fel cyflogau i gael eu gwario yn yr economi leol. Mae’n rhaid bod hynny yn beth y dylem ni fod yn gwthio amdano fo ledled Cymru. Ac rydw i’n cefnogi, ac mae fy mhlaid i’n cefnogi, hyn, oherwydd ei fod yn llesol i unigolion. Mae beth sy’n llesol i unigolion yn llesol i deuluoedd, a beth sy’n llesol i deuluoedd yn llesol i gymunedau, a lles cymuned yn adeiladu lles cenedlaethol. Felly, oes, mae yna lawer o dir wedi ei ennill ym maes cyflog byw, ond mae yna ffordd bell i fynd, ac mi fyddem ni’n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau bod Cymru yn dod yn wlad cyflog byw go iawn.