Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 8 Ionawr 2019.
Rwy'n credu mai'r hyn y gall y rhan fwyaf o wleidyddion gytuno arno, Prif Weinidog, yw bod y system gynllunio bresennol yn feichus iawn ac nad yw'n gwasanaethu llawer o bobl yn dda iawn, a bod yn deg. Mae cynlluniau datblygu lleol yn cael eu rhwystro ac, yn aml iawn, yn cael eu hoedi. Pa flaenoriaeth ydych chi, fel Prif Weinidog newydd, yn ei rhoi i ailwampio'r system gynllunio yma yng Nghymru, fel bod gennym ni system gynllunio sy'n addas i'w diben, sy'n sicrhau bod y tai sydd eu hangen arnom i gyd-fynd ag economi fodern, ddynamig yn cael eu hadeiladu, ac sydd, yn y pen draw, yn cymryd i ystyriaeth y pryderon difrifol y mae llawer o etholwyr yn eu codi am y ddarpariaeth o feddygfeydd teulu, ysgolion a seilwaith trafnidiaeth?