1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2019.
5. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnal cymunedau gwledig? OAQ53155
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Nod ein cynigon yn 'Brexit a’n Tir' yw cadw ffermwyr ar y tir, amddiffyn ein cymunedau gwledig a gwneud yn siŵr eu bod yn ffynnu mewn byd wedi Brexit.
Diolch i chi am eich ateb. Mae bron i bum mlynedd nawr ers i Arsyllfa Wledig Cymru ddod i ben—y Wales Rural Observatory. Nawr, mi oedd hwnnw, wrth gwrs, wedi cyfrannu degau lawer o adroddiadau swmpus iawn a oedd yn cyfrannu at ddatblygiad polisi gwledig yma yng Nghymru. Mi ddywedodd y Gweinidog perthnasol ar y pryd, wrth ddiddymu'r ariannu, y byddai'r gwaith yn parhau mewn ffurf llai costus. Wel, nid ydw i'n siŵr os ydy'r gwaith wedi parhau. Yn sicr, mi oedd yna erthygl ddifyr gan yr Athro Peter Midmore yn Golwg yn ddiweddar a oedd yn dweud, a dweud y gwir, nad oedd e'n ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad â'r un nod—yn sicr o'r un safon a'r un sylwedd—â'r rhai a oedd yn cael eu cynhyrchu gan yr arsyllfa wledig.
Nawr, rŷm ni'n gwybod bod newid sylweddol yn dod i gymunedau gwledig, boed trwy Brexit neu ddatblygiadau eraill. Felly, a gaf i ofyn beth sydd yn hysbysu polisi a datblygiad polisi gwledig Llywodraeth Cymru y dyddiau yma? Onid yw hi'n amser nawr inni edrych eto ar greu rhyw fath o arsyllfa sydd yn gallu cyfrannu at y drafodaeth gwbl allweddol honno?
Llywydd, mae Llyr Gruffydd yn gywir, wrth gwrs, wrth ddweud mae pethau yn mynd i newid yng nghefn gwlad yma yng Nghymru, fel mae pethau'n mynd i newid dros Gymru i gyd yn y cyd-destun Brexit. Mae e wedi gweld 'Brexit a'n Tir', rydw i'n gwybod, ac rydw i'n gwybod ein bod ni wedi cael llwyth mawr o bobl yn ymateb i'r polisi yna, ac mae'r Gweinidog Lesley Griffiths, ar yr amser yma, yn edrych drwy'r atebion rŷm ni wedi cael i mewn ac mae hi'n mynd i gyhoeddi adroddiad ar beth mae pobl wedi'i ddweud ar 'Brexit a'n Tir' yn y gwanwyn.
Am y tro cyntaf y prynhawn yma, Llywydd, bydd yn rhaid i mi ddweud nad ydw i'n hollol gyfarwydd gyda'r rural observatory a beth roedd y Gweinidog wedi'i ddweud yn barod am gael gwaith yn yr un maes ond yn llai costus. Rydw i'n gallu ffeindio mas, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser, ac rydw i'n fodlon ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion.
Nid wyf innau'n gyfarwydd iawn â'r arsyllfa wledig, ychwaith, Prif Weinidog, byddwch yn falch o wybod, felly fe'ch holaf am wahanol agwedd. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod cymunedau gwledig cynaliadwy angen seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy. Rwy'n aml yn cellwair y gallech chi fod wedi neidio ar drên yn fy mhentref i, Rhaglan, yn ôl ym 1955 a theithio i Gaerdydd i weithio neu i siopa. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, mae'n sefyllfa llawer mwy cymhleth, er bod gennym ni gysyniadau arloesol fel dinas-ranbarth Caerdydd erbyn hyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, nawr eich bod chi yn y swydd—a llongyfarchiadau ar hynny—am gynlluniau eich Llywodraeth i ddatblygu metro de Cymru? Ble yr ydym ni'n mynd o'r fan yma, a sut ydym ni am wneud yn siŵr bod cymunedau gwledig a threfi pellennig, fel Trefynwy yn fy etholaeth i, ar y map metro hwnnw yn wirioneddol, fel bod pob rhan o'r de-ddwyrain yn gallu elwa ar ddatblygiad y metro?
Llywydd, diolch i Nick Ramsay am yr hyn a ddywedodd ac am y pwyntiau pwysig y mae wedi eu gwneud. Bydd yn falch o wybod bod ein cynlluniau ar gyfer metro de Cymru ar y trywydd iawn, y bydd y cyllid yr ydym ni wedi ei sicrhau drwy'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio'n llawn, y bydd yr arian sy'n dod drwy Lywodraeth y DU yn rhan o fargen prifddinas Caerdydd hefyd yn rhan o'r pecyn ariannu ehangach hwnnw, ynghyd â chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru ei hun, ac rydym ni'n ffyddiog y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen yn unol â'r amserlen ac i'r graddau yr ydym ni wedi ei gyhoeddi eisoes, cyn belled ag y mae'r metro yn y cwestiwn.
Gwn y bydd yn cydnabod hefyd bod darpariaeth cludiant cyhoeddus ar gyfer cymunedau o'r math y mae wedi cyfeirio atynt ac yn eu cynrychioli yn dibynnu ar fysiau yn ogystal â threnau. Ac mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn yr adran dan arweiniad Ken Skates i edrych ar y modd y gallwn ni wneud gwell defnydd o wasanaethau bysiau, gwasanaethau tacsis, dull sy'n dangos mwy o ddychymyg, weithiau, o ran y ffordd y gellir caffael y gwasanaethau hynny, fel y bydd gennym ni, ochr yn ochr â datblygiadau rheilffyrdd y metro, y rhychwant ehangach hwnnw o bosibiliadau cludiant cyhoeddus yn cysylltu trefi a phentrefi Cymru fel y gall pobl fyw, gweithio a ffynnu yn y cymunedau hynny, gyda'r ffydd o wybod bod cysylltedd â rhannau eraill o Gymru yn ddibynadwy ac yn ddiogel.