Mynediad Cyhoeddus am Ddim at Ddŵr Yfed

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:25, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn atodol yna ac rwy'n llongyfarch, wrth gwrs, disgyblion Ysgol Gynradd Pengeulan ar eu diddordeb yn y maes hynod bwysig hwn. Llywydd, pe byddai un o bob 10 o bobl ym Mhrydain yn ail-lenwi dim ond unwaith yr wythnos, byddai tua 340 miliwn o boteli plastig untro yn cael eu hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan wneud llawer iawn i helpu gyda'r uchelgais y mae disgyblion yr ysgol honno wedi ymgymryd ag ef.

Wrth gwrs, wrth i ni weithio ar y rhwydwaith o ffynhonnau yfed, byddwn yn sicr yn cadw Aberpennar mewn cof. Yn y cyfamser, mae gan y cynllun ail-lenwi bobl sy'n gweithio iddo sy'n gallu mynd i ysgolion i egluro i ddisgyblion yno y ffordd y mae'r cynllun yn gweithio, i esbonio lle mae ar gael yn lleol ac i'w hannog ymhellach yn eu huchelgeisiau ar gyfer dyfodol di-blastig i Gymru, ac rwy'n hapus iawn i helpu i drefnu i ddisgyblion o Ysgol Gynradd Pengeulan gyfarfod ag un o gydgysylltwyr y cynllun.