Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch, Prif Weinidog. Ychydig cyn y Nadolig, roeddwn i'n ddigon ffodus o gael cyfarfod â disgyblion Ysgol Gynradd Pengeulan, a fynegodd eu pryderon difrifol i mi am lygredd plastig. Mae ganddyn nhw uchelgais canmoladwy iawn i wneud eu tref sef Aberpennar yn ddi-blastig ac maen nhw eisoes wedi gwneud llawer o waith ac ymchwil ar hyn. O gofio eich ymrwymiad maniffesto i ddarparu rhwydwaith o ffynhonnau yfed ledled Cymru, gallai hynny wneud cryn dipyn i'w helpu gyda'u huchelgais, felly fy nghais i yw: a wnewch chi ystyried gwneud Aberpennar yn un o'r trefi cyntaf un i elwa ar yr addewid hwnnw?