1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Ionawr 2019.
A gaf i achub ar y cyfle hwn i longyfarch y Prif Weinidog ar ei benodiad ac rwyf i'n un yn sicr sy'n edrych ymlaen at y ffraethineb sych yr ydych chi'n aml yn ei arddangos yn eich ymatebion, hyd yn oed pan mai fi yw derbynnydd rhai o'r ymatebion mwy miniog. Gan droi at fy nghwestiwn:
4. Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer economi Cymru? OAQ53136
Diolchaf i'r Aelod am ei gyflwyniad, wrth gwrs.
Nodir blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ein cynllun gweithredu economaidd: codi lefelau cyfoeth a llesiant yng Nghymru, gan leihau anghydraddoldebau o ran y ddau.
Er bod pob un ohonom ni'n cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus yn narpariaeth y gwasanaethau yr ydym ni wedi dod i arfer â nhw, mae bron pob astudiaeth fanwl o economi Cymru yn nodi'r ffaith fod Cymru yn llawer rhy ddibynnol ar greu swyddi a chynhyrchu cyfoeth economaidd o'r sector hwn. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu os gwelwch yn dda y strategaethau economaidd y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith i liniaru'r orddibyniaeth hon, sydd wedi eu llunio i ysgogi'r sector preifat? Wedi'r cyfan, onid yw'n wir, Prif Weinidog, bod yn rhaid i ni greu'r gacen cyn y gallwn ni ei bwyta?
Wel, Llywydd, er fy mod i'n cytuno â'r Aelod am bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod gennym ni sector preifat bywiog a llwyddiannus yng Nghymru, rwyf i fy hun yn gwrthod y math o ddadansoddiad sy'n ceisio gosod y sectorau preifat a chyhoeddus yn erbyn ei gilydd. Maen nhw'n dibynnu ar ei gilydd. Mae'r sector preifat yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus da, cymaint ag yr ydym ninnau—ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod—yn dibynnu ar fusnesau preifat da i godi'r refeniw sydd ei angen arnom ni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Felly, nid yw'r rhain yn sectorau sy'n cystadlu â'i gilydd. Maen nhw'n dibynnu yn briodol ac yn gynhyrchiol ar ei gilydd. Gwn y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith, yn y flwyddyn galendr ddiwethaf, yn 2018, bod 259,000 o fentrau yn weithredol yma yng Nghymru, y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion o'r fath, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, 2017, sefydlwyd dros 14,000 o fusnesau newydd yma yng Nghymru, ac mae hynny'n gynnydd o 72 y cant mewn cyfnod o bum mlynedd. Felly, nid wyf i'n credu y byddai yr un ohonom ni eisiau diystyru'r sector preifat yma yng Nghymru. Mae'n fywiog, mae'n llwyddiannus, ac fel Llywodraeth, byddwn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gadw yn y cyflwr hwnnw.
Rwyf innau hefyd yn dymuno'n dda i chi yn eich swydd newydd, Prif Weinidog.
Mae'n 18 mis bellach ers cyhoeddi cynlluniau ar gyfer parc modurol yng Nglynebwy. Ers y cyhoeddiad hwnnw, ni osodwyd unrhyw sylfeini, ac nid oes unrhyw arwydd o'r swyddi a addawyd. Mae ardal fenter Glynebwy wedi creu dim ond 179 o swyddi mewn saith mlynedd. A all y Prif Weinidog ddweud pryd y bydd y parc modurol yn gwbl weithredol a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyflawni ei haddewidion i ddod â swyddi gwerthfawr i Lynebwy, os gwelwch yn dda?
Wel, Llywydd, fel yr esboniais mewn ateb i gwestiwn gan Adam Price, dywedodd y buddsoddiad gwreiddiol o gwmpas rhaglen Tech Valleys erioed y byddai'n rhaglen 10 mlynedd ac y byddai gennym ni £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd hynny. Ac, mewn gwirionedd, mae cyfanswm y buddsoddiad yn rhan gynnar hon y rhaglen yn fwy nag y byddai rhan pro rata o'r swm hwnnw yn arwain ato. Mae'n anochel, yn ystod y cyfnod agoriadol, bod y pwyslais wedi bod ar fuddsoddi mewn seilwaith yn llwyr, gan fynd i'r afael â'r materion tir ac eiddo i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i greu'r swyddi hynny yr ydym ni'n gwybod sydd yno i'w creu ar gyfer Glynebwy yn y dyfodol. Ni wnaf i gyfeirio eto at y gwahanol ganiatâd cynllunio a sicrhawyd eisoes a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yno eisoes, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi'r ateb i gwestiwn yr Aelod ac y dylai roi ffydd i bobl yn lleol nad yw'r cynllun yn aros i ddigwydd—mae'n digwydd eisoes.
Wel, dim ond i symud o Lynebwy am funud—[Chwerthin.]—roeddwn i eisiau mynd â chi ymhellach i lawr i Bort Talbot yng Ngorllewin De Cymru. Gwn y gall blaenoriaethau a chyfleoedd economaidd newid yn annisgwyl dros nos weithiau, a byddwch yn gwybod ein bod wedi cael ein bendithio ym Mhort Talbot—ond nid o safbwynt y perchennog, Ian—drwy ddarn celf newydd gan Banksy, y cyntaf o'i fath yma yng Nghymru. Rwyf i mewn cysylltiad rheolaidd â'r perchennog, ac mae'n awyddus iawn naill ai i'w gadw ym Mhort Talbot, ac yn sicr yng Nghymru, ond gwn hefyd ei fod wedi cael diddordeb eithaf sylweddol yn y darn hwn o gelf. Cefais gyfarfod â'r amgueddfa genedlaethol ddoe; gwn fod cynlluniau o safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth o ddichonoldeb i oriel celfyddydau gweledol genedlaethol i Gymru y mae'n bosibl y gellid ei lleoli ym Mhort Talbot. Pa drafodaethau a gafwyd, a beth allwch chi ei arwain arno erbyn hyn o ran diogelu'r darn hwn o gelf i Gymru a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi'r perchennog drwy'r holl broses o wneud y penderfyniad pwysig penodol hwnnw?
Diolch i Bethan Sayed am y cwestiwn. A gaf i ddechrau trwy fynegi rhywfaint o gydymdeimlad â'r unigolyn dan sylw, sydd, dros nos, wedi gweld bod ei dŷ yn destun cymaint o ddiddordeb eang—gwych mewn un ffordd, ond yn sicr, ar lefel unigol, yn dod â rhai effeithiau sylweddol yn ei sgil ar fywyd yr unigolyn hwnnw? Gwn y bu trafodaethau rhwng yr awdurdod lleol a deiliad y tŷ am syniadau y gall yr awdurdod lleol eu cynnig i'w gynorthwyo, a bydd fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn ystod yr wythnos hon gyda'r awdurdodau perthnasol, unwaith eto, i weld os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu. Mae'r astudiaeth o ddichonoldeb ar gyfer sefydlu oriel gelf gyfoes, a oedd yn rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi dod i law. Ceir cyfres o ddewisiadau ynddi, y byddwn yn dymuno eu harchwilio ar y cyd â chi. Nid wyf i'n cofio, o'i ddarllen rai wythnosau yn ôl, pa un a yw'n dweud unrhyw beth am Bort Talbot yn uniongyrchol, ond yn sicr mae cyfres o gynigion ymarferol ar gyfer bwrw ymlaen â'r syniad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau y gallwn ni eu cael gyda'n gilydd i weld sut y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes hwnnw.