Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 8 Ionawr 2019.
Llywydd, diolch yn fawr. Ar ddechrau 2019, mae'n amlwg bod yna ymdeimlad o argyfwng wedi codi ynghylch Brexit. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am hyn. Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i ryw ymgais ofer i geisio uno'r Blaid Geidwadol yn hytrach na chanolbwyntio ar ddyfodol y wlad.
Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud unrhyw ymgais i sicrhau consensws trawsbleidiol ar gyfer ei strategaeth, nac wedi gwneud unrhyw ymgais o ddifrif i gytuno â'r gweinyddiaethau datganoledig ar ffordd o negodi. Drwy ei diffyg effeithlonrwydd ei hun, mae wedi methu â sicrhau cytundeb sy'n medru denu digon o gefnogaeth i sicrhau mwyafrif seneddol. O ganlyniad, rhai wythnosau yn unig cyn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae'r perygl o ymadael heb gytundeb yn cynyddu, ac fe fyddai hyn yn drychinebus i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn gyfan.
Mae'n anhygoel ein bod ni yn y sefyllfa yma, ac mae'n gwbl ddiangen. Bron yn union ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru, sef 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd yn cynnwys manylion am ffordd synhwyrol a rhesymegol o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gan ddiogelu buddiannau hanfodol Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach. Y mis diwethaf, gyda mwyafrif sylweddol, cadarnhaodd y Cynulliad Cenedlaethol y dull gweithredu hwn unwaith eto.
Gadewch, Llywydd, inni ailadrodd ein blaenoriaethau. Yn gyntaf, rydym ni am weld Brexit sy'n diogelu swyddi yma yng Nghymru. Nid oes modd inni gytuno ag unrhyw ganlyniad sy'n arwain at osod tariffau neu rwystrau eraill a fydd yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau Cymru allforio, yn annog chwyddiant drwy gynyddu costau mewnforio ac, yn fwyaf difrifol, yn amharu ar y cadwyni cyflenwi integredig ar draws Ewrop y mae cynifer o'r prif gyflogwyr yn dibynnu arnynt i ffynnu ac, mewn rhai achosion, i oroesi. Mae hyn yn golygu bod angen parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl a chymryd rhan mewn undeb tollau. Byddai hynny nid yn unig yn golygu ein bod yn parhau wedi integreiddio â'r farchnad Ewropeaidd, ond hefyd yn rhoi mynediad i ni at dros 60 o wledydd sydd â chytundebau masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n gwbl hurt troi ein cefnau ar drefniadau masnach rydd helaeth sydd eisoes yn bodoli ar draws y byd.