Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 8 Ionawr 2019.
Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Mick Antoniw am ei sylw. Rydym ni bob amser, ac mewn gwahanol rannau o'r Siambr rwy'n credu, wedi rhoi pwyslais arbennig ar yr hawliau y mae dinasyddion Cymru wedi eu hennill yn sgil ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, boed hynny'n hawliau amgylcheddol neu'n hawliau defnyddwyr neu'n hawliau gweithwyr, ac ni fyddwn yn cydymffurfio—ni fyddwn fel Llywodraeth yn cydymffurfio ag unrhyw brosbectws sy'n awgrymu y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at gyfyngu'r hawliau hynny y bu'r fath frwydr amdanynt.
O ran dinasyddion yr UE, gadewch i mi ddweud hyn, Llywydd, ac fe wnes i fy ngorau glas i wneud y pwynt hwn mor bendant ag y gallwn mewn sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Cartref pan gyhoeddwyd y ddogfen ar bolisi mudo yn y dyfodol gan Lywodraeth y DU. Dywed y ddogfen honno na fydd dinasyddion yr UE sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig ar ôl diwrnod ymadael yn mwynhau—ni fyddant yn mwynhau—yr hawliau a fydd gan ddinasyddion yr UE sydd eisoes yn y wlad hon. Gofynnais iddo sut y byddai cyflogwr yn gallu gwahaniaethu rhwng yr unigolyn sy'n cyrraedd ar ôl 29 Mawrth a'r unigolyn sydd wedi bod yma ers 20 mlynedd. Ac ni allai ef roi ateb i'r cwestiwn hwnnw i mi oherwydd gwyddai mai'r ateb mewn gwirionedd yw y bydd raid i'r unigolyn sydd wedi bod yma ers 20 mlynedd gyflwyno tystysgrifau a dogfennau yn y pen draw a bydd yn cael ei amau gan yr unigolyn sy'n gorfod profi rywsut fod ganddo'r hawl i fod yma. Rydym yn cael digon o anhawster dal ein gafael ar rai o'r bobl hyn yr ydym yn dibynnu arnyn nhw nawr, heb fod yna gyfundrefn newydd yn cael ei rhoi ar waith sy'n bwrw cysgod dros eu cyfraniad parhaol i'r gymdeithas yng Nghymru.
O ran sefydliadau, bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r Cabinet i wneud yn siŵr ein bod yn nodi'r rhannau eraill hynny o Ewrop, y sefydliadau Ewropeaidd hynny y bydd angen inni wneud yr ymdrech fwyaf i barhau â phresenoldeb o Gymru a chysylltiad o Gymru ynddynt. Rwyf wedi fy nghalonogi, Llywydd, gan nifer y llythyrau a gefais ers fy mhenodi'n Brif Weinidog, yn tynnu sylw at waith fy rhagflaenydd yn cynnal cysylltiadau â rhanbarthau eraill yn Ewrop, ac yn dweud cymaint y maen nhw'n gobeithio y byddwn yn parhau i fod mewn perthynas gynhyrchiol â nhw.