3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf ar Drefniadau Pontio’r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:25, 8 Ionawr 2019

Ac, eto, rŷm ni wedi gweld gwleidyddion Llafur yn San Steffan heddiw yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Brydeinig barchu cynigion a fydd yn cael eu pasio, gwelliannau a fydd yn cael eu pasio, i’r cynnig yr wythnos nesaf. Wel, does bosib y dylai fod Llywodraeth Cymru’n parchu yr un egwyddor fan hyn. Mae’r polisi wedi’i benderfynu, ac, wrth gwrs, nid gwahaniaeth semantig, fel oedd y Prif Weinidog yn dadlau ddoe, ydy hyn mor belled ag y mae’r undeb tollau yn y cwestiwn. Byddai parhau o fewn undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddai allforwyr yn gallu parhau i fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd fel nawr, heb orfod wynebu tariffau na rhwystrau di-dariff. Mae’r opsiwn arall, sef rhyw undeb tollau arall, yn ein rhoi ni yn yr un sefyllfa â Thwrci, yn gorfod llywio drwy rwystrau newydd, costus, fel rheoliadau rules of origin, er mwyn parhau i allforio i’r Undeb Ewropeaidd. Ac, wrth gwrs, nid yw’r undeb tollau yna ar gyfer Twrci yn cynnwys amaethyddiaeth. Felly, dyna pam mae’r gwahaniaeth yma’n allweddol, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi pasio cynnig, a nawr mae Llywodraeth Cymru yn mynd nôl ar hynny, yn ôl yr hyn sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma—rwy'n gresynu at hynny, gan ein bod ni mewn sefyllfa, wrth gwrs, o argyfwng nawr lle dylai bod yna eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’u safbwynt nhw.

Felly, a gaf i ofyn i’r Prif Weinidog: pam fod polisi Llywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn mae e wedi’i ddweud y prynhawn yma, ar y mater yma yn wahanol i’r polisi a gafodd ei gytuno gan y Senedd hon gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar 4 Rhagfyr? A pham ŷch chi’n credu bod gadael yr undeb tollau sydd yn bodoli o fudd i allforwyr Cymreig, gan ystyried yr holl resymau rydw i wedi sôn amdanyn nhw?

Ac yn olaf, roedd y cynnig a gafodd ei gymeradwyo hefyd yn galw am ymestyn erthygl 50 heb amodau, yn wahanol i’r hyn rŷch chi wedi’i ddweud eto'r prynhawn yma yn y datganiad. Roeddech chi’n dweud eich bod chi’n gwneud popeth y gallwch chi er mwn osgoi'r dinistr yma sydd ar y gorwel. Os hynny, pam fod yna gymaint o Aelodau Llafur wedi gorfod ysgrifennu atoch chi i wneud mwy—i ymbil nid yn unig, wrth gwrs, ar y Prif Weinidog yn San Steffan, ond arweinydd eich plaid eich hun gan, ein bod ni nawr yn wynebu sefyllfa o fewn ychydig wythnosau o’r gyflafan yma? A’r opsiwn cliriach sydd ar y gorwel, wrth gwrs, ydy pleidlais y bobl. Pam nad ydych chi’n gallu dangos arweiniad yn hyn o beth ac osgoi'r hyn—yr ydych yn hollol iawn—all fod yn ddinistriol i bobl Cymru?