Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 8 Ionawr 2019.
Nid oes gennyf i ddim bron i'w ychwanegu o ran y gronfa rhannu ffyniant at yr hyn yr ydym wedi ei adrodd yn y fan hon o'r blaen. Unwaith eto, methodd y ddogfen ymgynghori a addawyd cyn y Nadolig ag ymddangos, ac rwyf wedi bod mor glir ag y gallaf gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, ac yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog, y bydd rhai o'r cynigion a welwn yn cael cyhoeddusrwydd gan Lywodraeth y DU yn gwbl annerbyniol i ni yma yng Nghymru.