Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Mae'n dda gen i weld eich bod chi yma o hyd—mae hynny'n helpu gyda'r dilyniant, mae'n rhaid imi gyfaddef. Yn gyntaf, rhywbeth sydd wedi dod yn fwy eglur gyda'r datganiad hwn heddiw mewn gwirionedd o ran y dull asesu hwn yw mai rhywbeth cyfredol ydyw—ac rwy'n credu eich bod chi wedi defnyddio'r ymadrodd hwn fwy nag unwaith. Un o'm pryderon cynharaf i o ran y prawf hwn, ac rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw hyn yn ymwneud ag atebolrwydd, oedd pa mor aml y câi ei ddefnyddio. Roedd yr Athro Donaldson yn bendant yn credu y dylid osgoi profion rheolaidd, felly fy nghwestiwn cyntaf i, mae'n debyg, yw: pa mor aml y bydd plentyn unigol yn cael ei asesu mewn blwyddyn er mwyn darparu data ystyrlon i'r plentyn ac i'r athrawon fel ei gilydd am gynnydd?
Os mai diben y prawf yw arwain dysgwyr drwy gynnig iddynt gymorth mwy pwrpasol—mae'n debyg mai dyna'r ffordd orau o fynegi hynny—ac, fel y dywedwch chi yn eich datganiad, rhoi mwy o ryddid i athrawon addysgu yn y ffordd sy'n ateb anghenion y disgyblion orau, rhywbeth yr wyf i'n ei gefnogi, eto i gyd byddwn yn disgwyl cael clywed ychydig mwy am sut y bydd effeithiolrwydd y rhaglenni bach unigol pwrpasol hynny, os mynnwch chi, yn debygol o gael eu mesur. Oherwydd rwy'n anghytuno â'r sylwadau a wnaethoch yn ôl yn 2017 pryd y dywedasoch chi, ac rwy'n dyfynnu:
na fyddai'n deg defnyddio sgoriau profion plant unigol i farnu perfformiad yr ysgol honno.
Byddwn i'n dweud fy mod yn credu ei bod yn gwbl briodol i ysgol gael ei barnu ar gynnydd a wnaed rhwng y profion hynny yn achos plant unigol—heb eu henwi nhw, wrth gwrs—oherwydd ceir rhywbeth y gellir ei ddweud wrth rieni ac wrthym ni yma yn y Cynulliad am ba mor effeithlon ac effeithiol y bu'r darnau hynny o gymorth pwrpasol i blant. Mae'n wych cynnig hynny, ond os nad yw hynny'n gweithio chwaith mae angen inni gael gwybod am hynny hefyd.
Felly, o gofio bod yr Athro Donaldson wedi argymell bod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu fframwaith gwerthuso ac asesiad cynhwysfawr, rydym ni'n gwybod rhywbeth am yr asesiad erbyn hyn. Ond a wnewch chi ddweud ychydig bach wrthym ni am sut y bydd yr ochr werthuso o hyn yn gweithio? Gan gadw mewn cof, ac rwy'n derbyn y pwynt, nad yw hwn ynddo'i hun yn offeryn gwerthuso, yn hytrach mae'n offeryn asesu, ond mae angen rhywbeth i'w drafod arnom ni o ran y cynnydd rhwng prawf Rhif 1 a phrawf Rhif 2 a phrawf Rhif 3 ac ati, oherwydd mae canlyniadau yn bwysig o hyd.
Fel y dywedwch yn eich datganiad, mae'r profion newydd yn ymwneud â chodi safonau. Felly dyma gwestiwn neu ddau ar hynny—un yn ymwneud â hunanwerthuso, rhywbeth a gefnogir yn amlwg gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD). Un o'r rhesymau ein bod ni yn y sefyllfa bresennol, o bosib, yw y collwyd hyder yn rhagolygon athrawon o lefel cyrhaeddiad ar ddiwedd ysgol gynradd, cyn i'r plant fynd i ysgol uwchradd. Roedd hynny'n rhannol oherwydd yr orddibyniaeth ar hunanasesiad mewnol, mae'n debyg, neu asesiad mewnol yn sicr. Felly, heb sathru ar gyrn athrawon yn hyn o beth, a oes unrhyw fath o ganllawiau i'w cyflwyno gennych chi—neu pwy allai gyflwyno hynny hyd yn oed; a allai Estyn wneud hynny, wn i ddim—fe allai hynny helpu ysgolion, gan gynnwys y disgyblion, os wyf wedi deall hyn yn iawn, i hunanwerthuso mewn ffordd y gall pob un ohonom fod â rhywfaint o hyder ynddi?
Unwaith eto, o ran codi safonau, roeddech chi'n dweud y llynedd fod £5.6 miliwn am fynd i gonsortia ar gyfer dysgu proffesiynol, yn rhannol i baratoi ar gyfer yr asesiadau hyn. Sut fyddwch chi'n gwerthuso pa mor effeithiol y bu'r consortia wrth gyfrannu at lwyddiant y rhain? Rwy'n sylweddoli nad ydyn nhw wedi dechrau eto mewn gwirionedd, ond bydd y gwaith paratoi ar eu cyfer wedi digwydd. Felly, pe byddech chi'n rhoi ychydig o wybodaeth i ni am hynny, byddai hynny'n beth ardderchog iawn.
Yr amseriad—rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai'r ysgolion ddylai bennu dull ac amseriad eu hasesiadau, ond rwy'n cytuno â chi hefyd mai peth diwerth iawn i rieni ac, yn wir, i blant yw adroddiad sy'n cyrraedd ar ddiwrnod olaf y tymor, yn arbennig felly ar ddiwedd tymor yr haf, pan fydd plant yn aml iawn yn llithro'n ôl ychydig dros wyliau'r haf. Felly, mae'n sicr na fyddwn i'n hapus pe byddech chi'n gorfodi ysgolion i gynnal yr asesiad hwn ar ddyddiad arbennig, ond a fyddech chi'n cael gair i gall â nhw o ran osgoi gwneud hynny yn ystod wythnos olaf y tymor?
Yn olaf, ar y £1.7 miliwn ar gyfer yr ysgolion sydd â'r angen mwyaf i wella eu technoleg gwybodaeth, tybed a wnewch chi ddweud wrthym a yw hynny wedi cael ei neilltuo a phryd allem ni ei weld yn cael ei ddosbarthu. Oherwydd gallaf feddwl yn syth am un ysgol yn fy rhanbarth i a fyddai'n awyddus iawn i gael ffrwd ariannu newydd ar gyfer yr union beth hwnnw. Byddai'n ddefnyddiol gallu dweud wrthyn nhw ei fod wedi ei dargedu ar gyfer TG yn hytrach na'i fod yn diflannu i'r grant cynnal refeniw neu i ariannu'r ysgolion yn gyffredinol. Diolch.