4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cyflwyno Asesiadau Personol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:07, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau trwy ddiolch i Suzy Davies am y gyfres hon o gwestiynau? Yn gyntaf, a gaf i sôn bod yr Aelod wedi galw'r asesiadau yn 'brofion' sawl gwaith yn ystod ei chyfraniad? Nid profion mo'r rhain; asesiadau ydyn nhw. Mae prawf â llawer yn y fantol yn wahanol i asesiad a ddefnyddir at ddibenion llywio addysgu a dysgu wrth symud ymlaen.

Os caf i fentro dweud, ceir ychydig o groes-ddweud yn y materion a godwyd gan yr Aelod. Ar y naill law, dywedodd yr Aelod y byddai hi'n dymuno gweld canlyniadau'r profion hyn ar gael i'r cyhoedd. Gwyddom mai hyn yn union sy'n cynyddu'r perygl o ran atebolrwydd cyhoeddus ynglŷn ag asesiadau ac mai dyna sydd wedi arwain at rai o'r pryderon ynghylch ansawdd hunan-asesiad yr athrawon eu hunain. Pe bydden nhw'n teimlo bod yr asesiadau hyn yn cael eu defnyddio'n gyhoeddus i asesu eu galluoedd nhw fel athrawon unigol neu mewn ysgol, ceir y demtasiwn ddynol—ceir temtasiwn ddynol—i beidio â gwneud hynny yn y ffordd iawn.

Felly, y mater yn y fan hon yw—mae'n rhaid i ni fod yn eglur—nid profion mo'r rhain. Asesiadau yw'r rhain sydd yno i asesu sefyllfa plentyn o ran ei addysg, i allu rhoi adborth i'r plentyn hwnnw ac, ie, yn bwysig iawn, i'r rhieni. Suzy, gallaf gytuno'n gryf â chi: rwy'n siŵr ein bod ni i gyd sydd wedi bod yn rhieni yn y system wedi bod yn ymwybodol bod yr amlen honno'n cyrraedd y tŷ yn ystod wythnos olaf y tymor gyda sgoriau profion blaenorol ynddo, heb roi dim amser i'r rhieni gael y cyfle i fynd yn ôl i'r ysgol a thrafod canlyniadau'r profion hynny gydag athro'r dosbarth.

Y peth gwych am y profion hyn yw eu bod nhw wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer plant unigol. Ni fydd profion dau blentyn yn union yr un fath â'i gilydd, oherwydd bydd y cwestiynau a ofynnir yn ymateb i'w gallu i'w hateb nhw. Bydd y canlyniadau yn dod ar unwaith, a bydd y canlyniadau hynny ar gael i rieni o fewn diwrnod neu ddau i'r plentyn sefyll y prawf.

Roedd yr Aelod yn gofyn pa mor aml y bydd y plant yn sefyll y prawf. Rydych chi'n llygad eich lle: dywedodd Graham Donaldson y dylid cyfyngu ar amlder y profion hyd y gellir, ond roedd Donaldson yn argymell dull arloesol o asesu hefyd, gan gynnwys dulliau rhyngweithiol. Felly, mewn gwirionedd, rydym wedi ystyried cyngor Graham Donaldson, a phenderfyniad yr athrawon dosbarth unigol fydd pryd ddylai'r plentyn sefyll prawf, neu gael ei asesu—rwyf innau'n cymysgu'r ddau nawr hefyd—a pha mor aml y gallai'r asesiad hwnnw fod, oherwydd gallai'r athro benderfynu cynnal yr asesiad hwn ar adegau amrywiol yn y flwyddyn i adrodd yn ôl ar gynnydd sydd wedi bod neu beidio. Ond caiff yr athro dosbarth unigol sy'n adnabod y plant hynny orau wneud fel y gwêl yn dda yn hynny o beth.

Eto, y fantais fawr i'r system hon yw, yn hytrach na gorfodi pob ysgol i gynnal y prawf o fewn cyfnod wythnos yr un adeg o'r flwyddyn, y bydd hyn yn caniatáu i athrawon unigol benderfynu'r amser gorau i ddefnyddio'r adnodd strategol hwn i gynorthwyo eu plant. Ond, wrth gwrs, un agwedd yn unig yw hon ar asesiad o sefyllfa plentyn a bydd hunanwerthuso yn dal i ddigwydd, a bydd gwerthuso athrawon yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o'n system addysg. Ar hyn o bryd, mae Estyn yn gweithio gydag ymarferwyr ac ysgolion a'r OECD i ddatblygu pecyn cymorth hunanwerthuso fel y bydd ysgolion yn dod i ddeall yn llawer, llawer gwell sut y maen nhw'n perfformio a sut y mae'r hyn sy'n cael ei gyflawni yn eu hysgol yn effeithio ar eu dysgwyr. A'r hunanwerthuso hwnnw fydd  yn gonglfaen i'n system atebolrwydd.

Rydym yn gweithio gydag Estyn i edrych ar y posibilrwydd o gael Estyn i achredu hunanwerthuso'r ysgolion. Os yw Estyn yn argyhoeddedig bod ysgol yn gwneud hyn yn iawn ac yn briodol, yna caiff yr ysgol drwydded, ar ryw ystyr, i barhau i wneud hynny am rai blynyddoedd eto. Pe byddai pryderon gan Estyn—pe na fyddai Estyn yn sicr o allu'r ysgol i hunanwerthuso—yna gallai hynny arwain at fwy o ymweliadau gan Estyn i ysgol benodol. Felly, daw hunanwerthuso yn un o'r egwyddorion craidd o ran y modd y byddwn yn dal ysgolion i gyfrif am eu perfformiad. Ond nid yw hynny yr un peth â defnyddio data plant unigol a pherfformiad plant unigol, gan fod hynny'n arwain at y broblem ynglŷn â phrofion â llawer yn y fantol y soniais i amdani'n gynharach.

O ran datblygiad proffesiynol, byddwch yn ymwybodol y rhoddwyd arian ar gyfer y flwyddyn hon, sydd wedi mynd allan drwy gyfrwng y consortia, ac ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Bydd y consortia yn adrodd yn ôl ar sut y cafodd yr arian ei ddefnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol ac, wrth gwrs, mae pob un o'n consortia yn ddarostyngedig i arolygiad gan Estyn ac adolygiad parhaus gan Lywodraeth Cymru ei hun.

O ran seilwaith, mae'n amlwg fod yr £1.7 miliwn wedi cael ei roi i CLlLC, ac maen nhw fel grŵp o awdurdodau lleol yn datrys sut y gellir dosbarthu'r arian hwnnw yn y ffordd orau yn eu barn nhw. Un rhan yn unig yw honno o'r buddsoddiad a wnawn ni yn seilwaith TG. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau y bydd pob ysgol wedi cael ei chysylltu â band eang cyflym iawn ac yn gallu cael cyflymderau band eang cyflym iawn. Felly, dyna'r seilwaith y tu allan i'r ysgol, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol i ddeall rhai o'r cyfyngiadau o fewn systemau'r llywodraethau lleol eu hunain a systemau'r ysgolion unigol sy'n golygu na allant ddefnyddio'r cyflymder hyd yn oed os yw'r ffibr wedi cael ei gysylltu. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol i edrych ar fuddsoddiadau cyfredol i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod ein holl sefydliadau â chyflymder band eang a thechnoleg yn eu hysgolion i ddiwallu eu hanghenion, nid yn unig i allu cynnal asesiadau ymaddasol ar-lein, ond i ddarparu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd hefyd.