Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 8 Ionawr 2019.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella gofal iechyd a mynd i'r afael â salwch, sy'n ein helpu i fyw yn hirach. Yn yr un modd, rydym ni'n gwella darpariaeth gofal cymdeithasol yn sylweddol, gan weithredu'r dull a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae natur gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw yn anelu at fod yn gyd-gynhyrchiol, yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i bobl, gan hyrwyddo atal ac ymyrraeth gynnar. Er bod gofal cymdeithasol yn newid ac yn gwella, nid yw'n bosib osgoi heriau poblogaeth sy'n heneiddio. Dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i ddatblygu modelau newydd i gefnogi costau gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Mae'r ymrwymiad yma wrth wraidd gwaith grŵp rhyngweinidogol y Llywodraeth ar dalu am ofal cymdeithasol, y byddaf yn ei gadeirio bellach, gan ymgymryd â gwaith fy nghyd-aelod, Huw Irranca-Davies, a dylwn ddweud y gwnaethpwyd hynny'n fedrus ac mae hynny'n ein gadael mewn lle da.
Mae adroddiad yr Athro Holtham, sy'n sail i'r ddadl hon heddiw, wedi bod yn allweddol yn ffurfio ein syniadau cynnar. Yn ehangach, mae'r adroddiad hwn yn gwasanaethu fel catalydd i roi pwyslais newydd i'r ddadl ehangach ynghylch talu am ofal, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Ardoll gofal cymdeithasol yw'r dull y mae'r Athro Holtham wedi'i awgrymu, ac mae ei gyngor yn gofyn am ystyriaeth ofalus ochr yn ochr â'r holl ddewisiadau eraill, gan gynnwys modelau sy'n seiliedig ar yswiriant. Cyn bo hir, gallai'r dull hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol, sydd wedi'i addo ers tro, a chynigion posib ar gyfer system DU gyfan o dalu am ofal.
Cyn imi ddychwelyd at adroddiad yr Athro Holtham, rwyf eisiau dweud ychydig am ofal cymdeithasol a'r gwaith hanfodol y mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud heddiw i ddiogelu oedolion a phlant sy'n agored i niwed, i helpu pobl i gadw'u hannibyniaeth ac i fyw bywydau cyflawn a mwy llesol. Mae'r degawd o gyni sydd ohoni a'n hadnoddau sy'n prinhau yn golygu bod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau ym mhob agwedd ar ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2019, y gwariant refeniw o ddydd i ddydd, 7 y cant yn is, neu £1.2 biliwn yn is mewn termau real, nag yn 2010-11 ar sail gyfatebol. Er gwaethaf y cyd-destun heriol hwnnw, yng Nghymru, diogelwyd gwariant ar ofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn mewn cysylltiad â'n cyllideb gyffredinol. Bu cynnydd o 13 y cant mewn termau arian parod o ran ariannu gofal cymdeithasol rhwng 2010-11 a 2017-18—bron i dair gwaith cyfradd y cynnydd yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru. Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn na Lloegr, ond, hyd yn oed ar ôl caniatáu ar gyfer hynny, yn 2017-18 roedd gwariant y pen dros 65 oed 23 y cant yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr—i fyny o oddeutu 8 y cant yn uwch yn 2010-11. Ni ddylai beri syndod, felly, na fyddwn yn cefnogi gwelliant cyntaf y Ceidwadwyr sy'n ceisio symud y bai oddi ar gyni'r Torïaid. Byddwn, fodd bynnag, yn cefnogi'r ail welliant.
Mae'r gyllideb derfynol ar gyfer 2018-19, y byddwn yn ei thrafod yr wythnos nesaf yn y Cynulliad yma, yn cynnwys £7 miliwn ychwanegol i godi'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i £50,000 o fis Ebrill eleni. O fis Ebrill, bydd pobl yn gallu cadw mwy o'u cynilion haeddiannol cyn gorfod cyfrannu tuag at gost eu gofal. Dyma'r trothwy mwyaf hael o blith unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. Addawodd Llywodraeth bresennol Cymru, dan arweiniad Llafur, y byddem yn fwy na dyblu terfyn y cyfalaf yn nhymor presennol y Cynulliad, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n union.
Mae rhagolygon poblogaeth swyddogol yn rhoi hwb pellach i'r ddadl ynghylch sut yr ydym ni'n talu am ofal. Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y boblogaeth yn heneiddio'n gyflym dros y 10 i 15 mlynedd nesaf a fydd yn cynyddu'r galw ar ein gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ac yn rhoi pwysau ar gyllidebau sydd eisoes yn gwegian. Mae'r rhai sydd dros 75 oed yng Nghymru yn debygol o gynyddu gan fwy na 40 y cant erbyn 2030 a mwy na 70 y cant erbyn 2040. A rhagwelir y bydd nifer y bobl sy'n byw i fod dros 85 oed yn mwy na dyblu erbyn 2040, ac, mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w ddathlu, ond mae hefyd yn rhywbeth i gynllunio ar ei gyfer. O ystyried y rhagolygon hyn a'r cynnydd a ragwelir yn y galw am ofal cymdeithasol fe gynigiodd yr Athro Holtham ardoll ar incwm er mwyn helpu i dalu am ofal. Byddai elw o'r ardoll yn helpu i ariannu'r costau gofal uniongyrchol ar gyfer pobl hŷn, gyda'r gweddill yn cael ei roi mewn cronfa wedi'i neilltuo a'i fuddsoddi er mwyn helpu i dalu am y cynnydd a ddisgwylir yn y galw am ofal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ein hamcan allweddol wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yw gwahodd Aelodau i fynegi eu barn ar fodel yr Athro Holtham ac, yn benodol, i ystyried y pedwar cwestiwn sylfaenol y mae'r Athro Holtham yn eu holi yn ei adroddiad. Yn gyntaf, mae'n gofyn a ddylai'r ardoll gofal cymdeithasol gael ei chlustnodi neu ei neilltuo i dalu costau'r gofal cymdeithasol. Wrth gwrs, gall neilltuo arian leihau hyblygrwydd cyllidebol drwyddi draw, ond mae ei adroddiad yn awgrymu y dylid neilltuo'r enillion er mwyn helpu i wneud y dreth newydd yn fwy derbyniol i'r cyhoedd. Yn ail, mae'r Athro Holtham yn gofyn a ddylai'r model ardoll gofal cymdeithasol gael ei seilio ar yr egwyddor gyfrannol: felly, a oes angen cyfrannu at y cynllun er mwyn mwynhau ei fanteision? Gallai system o'r fath greu costau gweinyddol uwch, ond mae ef hefyd yn dod i'r casgliad, fodd bynnag, y dylai'r system fod o natur gyfunol, lle cynigir manteision sy'n anghysylltiedig â maint cyfraniadau pobl. Nesaf, mae'n ystyried sut mae modd sicrhau tegwch i'r rhai sydd mewn gwahanol garfannau incwm ac oedran. Gyda model yr Athro Holtham, byddai cyfraddau'r ardoll yn amrywio rhwng 1 a 3 y cant. Byddent yn uwch ar gyfer pobl hŷn ar y dechrau, oherwydd y byddent yn cyfrannu am gyfnodau byrrach, a byddai hynny'n caniatáu elfen o degwch rhwng y cenedlaethau, ond byddai system o'r fath yn dod ar gost weinyddol.
Yn olaf, mae'n gofyn: a ddylai'r cynllun fod ar sail talu wrth ddefnyddio, neu a ddylai refeniw gael ei dalu i gronfa a'i fuddsoddi i ddiwallu galw'r dyfodol? Mae'r Athro Holtham yn dadlau o blaid dull ariannu. Mae'n bosib y gallai treth gychwynnol sy'n gysylltiedig ag oedran gyda chyfraddau o 1 i 3 y cant, yn gostwng dros amser i 1 y cant, gefnogi cynnydd o 20 cant y pen mewn gwariant ar ofal ar gyfer pobl hŷn a gallai ymdopi â'r effeithiau heneiddio a ragwelir hyd at o leiaf 2040, ond byddai hyn ond yn bosib gydag enillion digonol o'r buddsoddiad ac os cedwir costau gweinyddu a chasglu'n rhesymol.
Mae'r rhain, wrth gwrs, i gyd yn gwestiynau pwysig. Fel yr eglurodd yr Athro Holtham ei hun i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, mae ei asesiad yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau y bydd angen inni eu hystyried o ddifrif wrth inni lunio polisïau.
Rwy'n wirioneddol groesawu barn yr Aelodau ar yr holl fodelau posib o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol, yn ogystal â'r cwestiynau sylfaenol hynny y mae'r Athro Holtham yn eu holi o ran ardoll gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd heddiw'n nodi dechrau dadl fwy cytbwys rhwng y pleidiau, nid yn unig yn y Siambr, ond y tu allan, ac, yn wir, o bosib ym mhwyllgorau eraill y Cynulliad. Bydd galw am aeddfedrwydd ac ymrwymiad gan bob plaid wleidyddol i gyflawni'r agenda heriol ond anochel hon. Rydym ni'n gobeithio gwneud cynnydd gyda chynllun clir a phenodol i ddatblygu'r gwaith yma. Nid oes unrhyw atebion hawdd i'r her o dalu am ofal, fel y mae Papur Gwyrdd gohiriedig Llywodraeth y DU yn ei ddangos, ond, at ei gilydd, rwy'n ffyddiog ein bod ni yma yng Nghymru yn gallu datblygu dull sydd wedi'i deilwra i'n hanghenion ac sydd yn addas i'w ddiben yn awr ac yn y dyfodol.