Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 8 Ionawr 2019.
Nawr, pan ysgrifennir hanes y pumed Cynulliad, rwy'n credu mai ein parodrwydd ni i ddefnyddio ein pwerau dros drethiant fydd yn nodi rhaniad clir, rhaniad clir sy'n dangos aeddfedrwydd gwleidyddol y Senedd hon, arwydd o'n hymrwymiad i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni ac addewid i bobl Cymru y byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i greu Cymru fwy llewyrchus. Nid yw hyn yn fwy clir nag yn y gyfres uchelgeisiol o drethi newydd posib y cyflwynodd y Prif Weinidog yn ôl ym mis Hydref 2017, ac yn allweddol ymhlith y rhain mae awgrym o ardoll i ariannu gofal cymdeithasol. Ond ni ddylem ni fod o dan unrhyw amheuaeth: mae'r her i ddarparu gofal cymdeithasol priodol i ddiwallu anghenion ein cymdeithas yn un sylweddol, rhywbeth, rwy'n credu y mae pob siaradwr yn y ddadl hon hyd yma wedi ei grybwyll mewn gwirionedd.
Nawr, dyrennir tua un rhan o dair o wariant llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer gofal cymdeithasol i'r rhai dros 65 oed, a phetaech chi'n siarad ag unrhyw arweinydd Cyngor, byddai'n pwysleisio mai hyn sy'n ei bryderu fwyaf ynghylch cyllidebau wrth gamu i'r dyfodol. Ac awgryma tueddiadau poblogaeth mai dim ond cynyddu a wnaiff y baich hwn. Bydd y niferoedd dros 65 oed yn cynyddu'n absoliwt ac fel cyfran dros y degawd nesaf a gallai'r niferoedd sydd angen gofal gynyddu chwarter gwaith yn fwy. Bydd poblogaeth sy'n heneiddio, ynghyd â chostau cynyddol a chyflyrau cronig a chymhleth cynyddol, yn gosod heriau economaidd. Nododd y Sefydliad Iechyd yn 2015 bod Cymru yn gwario bron i £400 y pen ar ofal cymdeithasol, a hynny heb gynnwys gwasanaethau plant a theuluoedd. Roedden nhw hefyd yn amcangyfrif y byddai costau'n cynyddu dros 4 y cant y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf, a byddai hynny'n golygu erbyn 2030-1 y byddwn ni'n gwario £1 biliwn ychwanegol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae penderfynu ar ateb sy'n ymarferol bosib o fewn hualau cyni hefyd yn achosi problemau. Ni fyddaf i'n cefnogi'r gwelliant cyntaf. Mae'n methu'r pwynt amlwg iawn bod ein cyllidebau yn cael eu cyfyngu gan y penderfyniadau ynghylch gwariant a wneir yn San Steffan. Yn ei dro, mae hyn yn cyfyngu ar y cyllidebau y gellir eu trosglwyddo i lywodraeth leol. Petai ein cyllideb wedi tyfu ar yr un raddfa â thwf cynnyrch domestig gros, byddai gan Gymru £4 biliwn ychwanegol i fuddsoddi mewn llywodraeth leol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill, ond er gwaethaf y pwysau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i flaenoriaethu gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae cyllideb 2019-20 yn cynnwys £50 miliwn yn ychwanegol i leihau'r pwysau rheng flaen ar lywodraeth leol.
Mae'n amlwg bod agwedd ddigyfaddawd a ffaeledig San Steffan tuag at gyni yn amharu ar ein gallu i ddarparu ar gyfer anghenion y presennol a'r dyfodol. Fodd bynnag, mae'r broblem yn ddyfnach na hyn. Hyd yn oed pe byddai ein heconomi a'n cyllideb yn tyfu ar raddfa gyflymach na chost gofal, byddem yn dal i wynebu bwlch gwariant y byddai angen inni ei bontio. Felly, mae angen i ni chwilio am atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ymateb i'r heriau ac mae adroddiad yr Athro Holtham yn gyfraniad hollbwysig at y ddadl hon ac yn cynnig un ffordd o ateb y broblem. Mae Holtham yn edrych ar y dadleuon a'r gwahanol fodelau i benderfynu ar ganlyniad cynaliadwy wedi'i ariannu'n deg, ond mae ei gasgliad yn glir: byddai codi ardoll i dalu am ganlyniad penodol yn mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd, yn enwedig pe byddai ardoll o'r fath yn dibynnu ar oedran ac incwm ac yn gyfrannol, gyda'r system nawdd cymdeithasol yn helpu'r rhai sydd ei angen. Mae Holtham hefyd yn egluro'n rymus pam y byddai system wedi'i ariannu yn fwy effeithlon na system o dalu wrth ddefnyddio. Gallai'r cyfraddau fod yn wastad a chyfartal rhwng y cenedlaethau. Byddai'r swm neilltuedig a delir allan yn rhoi sicrwydd pendant o ran y swm neilltuedig a gyfrannwyd a gallai o bosib gynnig manteision economaidd ehangach drwy weithredu fel cronfa gymunedol i hybu twf cenedlaethol. Fel y noda Holtham i gloi, gallai cynllun cyfrannol wedi'i ariannu gynnig ateb ymarferol i'r broblem o ariannu gofal cymdeithasol mewn cyfnod o newid demograffig. Byddai cynllun o'r fath yn bodloni newidiadau ym mhroffil oedran dinasyddion Cymru. Unwaith eto, fe fyddai hefyd yn hunan-gynhaliol.
Fe geir cwestiynau a fydd angen eu hystyried ymhellach wrth gwrs, ond mae hyn yn cynnig un ateb ymarferol i angen mwyaf tyngedfennol y dyfodol: sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymgorffori urddas a'r safonau gorau oll. At hyn, mae Holtham yn rhoi ateb y mae'n ymddangos bod consensws o'i blaid—yn fy mhlaid i, o leiaf. Yn sicr, cynhyrchodd ein hetholiad arweinyddiaeth diweddar amrywiaeth o syniadau gwych gan yr holl ymgeiswyr, ond un maes lle cafwyd cryn dipyn o gytundeb oedd yr un yn ymwneud â Holtham ac ardoll gofal cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at weld y syniadau hyn yn cael eu datblygu.