Gwella Safonau Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:40, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi y dylem gydnabod a dathlu safonau addysg rhagorol yng Nghymru, megis rhai Ysgol Gynradd Sant Julian yn fy etholaeth, a gafodd arolygiad gan Estyn ym mis Hydref y llynedd a asesodd eu bod yn rhagorol ym mhob categori? Mae'n ysgol gynradd ag ychydig o dan 700 o ddisgyblion. Mae'n ysgol arloesi o ran cymhwysedd digidol a dysgu proffesiynol. Hoffwn dalu teyrnged i'r staff, llywodraethwyr yr ysgol, y rhieni a'r plant, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi wneud yr un peth.