Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch, Darren. Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i'n pobl ifanc ledled y wlad. Rydym yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd, a fydd yn cefnogi gwelliant ysgolion ymhellach, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â’r trefniadau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.