Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Ionawr 2019.
Wel, rwy'n falch iawn fy mod bellach yn gyfrifol am addysg bellach wedi'r newid diweddar i gyfrifoldebau'r Cabinet ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos iawn gyda ColegauCymru i sicrhau bod addysg bellach, un o drysorau addysg Cymru o ran y ddarpariaeth y mae'n ei chynnig, o ran cyrsiau Safon Uwch traddodiadol neu gyrsiau galwedigaethol neu gyrsiau i oedolion sy'n dychwelyd i addysg—mae'n gryfder gwirioneddol yn ein system ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weithio ochr yn ochr â hwy. Rwy'n falch iawn ein bod, cyn y Nadolig, wedi gallu eu cynorthwyo gydag adnoddau ychwanegol mewn perthynas â materion yn ymwneud â chyflogau i bobl sy'n gweithio mor llwyddiannus yn y sector hwnnw.