Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch am eich ateb. Rwy'n derbyn bod elfennau o hyn yn newydd, ond yn amlwg, nid yw addysg uwch yn newydd. Rydym wedi gweld pwysau sylweddol yn y sector colegau, gyda streiciau'n cael eu hosgoi ar y funud olaf, ond nid yw hynny'n tynnu dim oddi wrth y ffaith bod pwysau llwyth gwaith yn dal i fodoli. Mae angen inni weld cynnydd ar Hazelkorn ac ar ddeddfwriaeth addysg bellach. Lle mae hynny yn y darlun mawr? Ceir problemau llywodraethu sylweddol ym maes addysg uwch. Rydym wedi gweld is-ganghellor Bangor yn gadael ei swydd yn ddiweddar, a'r anawsterau ariannol difrifol yno ac yng Nghaerdydd gyda £21 miliwn o doriadau. Os nad ydych wedi bod yn esgeulus, beth rydych yn ei wneud i geisio lliniaru rhai o'r materion hyn rwyf newydd eu hamlinellu yma heddiw?