Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch, Weinidog, ac un o rolau allweddol y rhaglen wella hon, yn amlwg, yw mynd i'r afael â newyn gwyliau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Prif Weinidog newydd ynglŷn â sut y mae'n bwriadu defnyddio cynlluniau addysgol fel hyn i gyflawni addewid ei ymgyrch i ddileu newyn gwyliau yng Nghymru?