Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 9 Ionawr 2019.
Weinidog, rwyf innau hefyd yn bryderus ynglŷn â cholli dysgu, sydd wedi'i nodi fel problem ers peth amser, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, lle y mae plant sydd wedi gwneud cynnydd gwych yn dal i fyny ar sgiliau allweddol—er enghraifft, llythrennedd a rhifedd—ar eu colled wedyn yn ystod yr haf. Pan adolygodd Prifysgol Caerdydd y rhaglen hon yn 2016, gwn eu bod wedi dweud ei bod yn bwysig iawn cynnal gwerthusiadau parhaus o'r cynllun a'i effaith, a tybed pa mor greiddiol yw'r elfen ddysgu i'r cynlluniau hyn bellach, a beth yw eich uchelgais i'r elfen honno fod yn gyffredin ac yn dreiddiol ym mhob un ohonynt.