Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 9 Ionawr 2019.
Bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi darparu buddsoddiad o £1.4 biliwn dros y cyfnod pum mlynedd, sy'n dod i ben yn awr, eleni, yn 2019. Mae £2.3 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad wedi'i gynllunio o fis Ebrill eleni ymlaen, a darperir y rhaglen mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac eraill sy'n rhoi blaenoriaeth i'r prosiectau y mae angen eu darparu.