Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Ionawr 2019.
Weinidog, mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio'r hawl i ddysgu gydol oes y dywedoch eich bod wedi ymrwymo iddi gyda'r Prif Weinidog newydd. Cyfarfûm â'r colegau addysg bellach y diwrnod o'r blaen a gwnaethant y pwynt fod oedran cyfartalog eu dysgwyr oddeutu 25, yn hytrach na rhywun sy'n 16 neu 17, a thrwy'r gweithle modern, mae'n ymwneud â gwerthuso cyson a her gyson. Sut y credwch y caiff eich cynigion eu gwireddu—oherwydd, yn amlwg, er mwyn llofnodi'r cytundeb, mae'n rhaid ichi ddeall i ble rydych am i'r daith hon fynd—a phryd y gallem weld rhai o'r cynigion hyn yn cael eu gwireddu, gan ei fod yn fater enfawr i bobl hyfforddi yn y gweithle heddiw yma yng Nghymru?