Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Ionawr 2019.
Nid cyfrifoldeb ysgolion unigol yw gwneud cais i gronfa ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen i'r ceisiadau ddod gan yr awdurdod addysg lleol unigol, a ddylai gynnal asesiad o anghenion ac asesiad arolwg adeiladau o'i ystâd ysgolion, a gwneud cais priodol felly am flaenoriaethau o fewn eu hardal awdurdod lleol eu hunain. Mae'r ceisiadau a wneir gan awdurdodau addysg lleol yn cael eu goruchwylio gan fwrdd rhaglen gyfalaf annibynnol sy'n gwneud argymhellion i mi fel Gweinidog, ac mae gweithdrefn gadarn ar waith i graffu ar y ceisiadau a gyflwynir gan awdurdodau addysg lleol. Ond mewn gwirionedd, mae angen i'r Aelod godi'r pryder hwn gydag aelodau o awdurdod lleol Abertawe.