Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwyf wedi nodi ystadegau UCAS ar dderbyniadau i gyrsiau israddedig amser llawn ar gyfer 2018-19. Mae'r gostyngiad bychan yn adlewyrchu'r gostyngiad parhaus yn nifer y bobl 18 oed yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, ceir adroddiadau calonogol gan rai prifysgolion am fwy o geisiadau am gyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau israddedig rhan-amser.