1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dderbyniadau i gyrsiau prifysgol yng Nghymru? OAQ53127
Rwyf wedi nodi ystadegau UCAS ar dderbyniadau i gyrsiau israddedig amser llawn ar gyfer 2018-19. Mae'r gostyngiad bychan yn adlewyrchu'r gostyngiad parhaus yn nifer y bobl 18 oed yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, ceir adroddiadau calonogol gan rai prifysgolion am fwy o geisiadau am gyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau israddedig rhan-amser.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ôl y gwasanaeth derbyniadau, UCAS, Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle y gostyngodd cyfanswm y myfyrwyr a gafodd le ar gyrsiau y llynedd, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dengys ffigurau fod nifer y myfyrwyr a dderbyniwyd ar gyrsiau amser llawn ym mhrifysgolion Cymru wedi gostwng 5.7 y cant. Dengys ffigurau hefyd mai ymgeiswyr o Gymru yw'r rhai mwyaf tebygol o astudio y tu allan i'w mamwlad, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle y ceir cymhellion ariannol i ymgeiswyr astudio ym mhrifysgolion eu gwlad. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wrthdroi'r gostyngiad a pha gymhelliad y bydd yn ei gynnig i annog mwy o ymgeiswyr o Gymru i astudio ym mhrifysgolion eu gwlad, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs, Lywydd, mater i sefydliadau unigol yw recriwtio. Y fantais sydd gan fyfyrwyr Cymru yw'r system fwyaf blaengar a hael o gymorth i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.
O ran cymell myfyrwyr i astudio yng Nghymru, bydd yr Aelod yn ymwybodol, oherwydd, unwaith eto, trafodasom hyn y bore yma yn y pwyllgor, o ran cymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig, nid yw hwnnw ond ar gael i ymgeiswyr cymwys sy'n ymgymryd â'u hastudiaethau ôl-raddedig mewn sefydliad yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog.