Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwy'n falch iawn ynglŷn â'r arian ychwanegol ar gyfer bwyd a hwyl yn ogystal â'r gobaith y bydd pob awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cynllun gwyliau pwysig hwn. Tybed a allwch edrych ar y canllawiau 'Blas am Oes' i sicrhau mai'r hyn a gynigir i blant yn yr ysgol yw—wyddoch chi, ei fod yn effeithiol o ran sicrhau bod plant yn bwyta'n iach yn yr ysgol. Mae hyn mor bwysig yng nghyd-destun y ffaith bod plant yn bwyta dwywaith cymaint o siwgr ag y dylent—gwelsom dystiolaeth o hynny yn gynharach. Felly, mae angen cadw at ganllawiau 'Blas am Oes' mewn ysbryd ac yn llythrennol ac rwy'n bryderus braidd nad yw hynny'n digwydd.