Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 9 Ionawr 2019.
Gallaf gofio, beth amser yn ôl, Weinidog, fy mod yn teimlo'n eithaf cadarnhaol ynghylch y cynllun brecwast am ddim, pan nad oedd rhai Aelodau, gan eich cynnwys chi, yn amlwg, mor frwd, ond mae hynny'n hen hanes bellach. Mae cynllun brecwast ysgol am ddim Llywodraeth Cymru wedi bod yn bolisi blaenllaw, fel y dywedoch, i lawer o'ch rhagflaenwyr am gyfnod hir o amser, ond mae wedi dod o dan bwysau cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o gynghorau yn lleihau oriau agor clybiau brecwast ac eraill yn codi tâl, er mai tâl bach iawn ydyw. Pa gefnogaeth rydych yn ei rhoi i awdurdodau lleol i'w helpu i gynnal mynediad at glybiau brecwast er mwyn sicrhau bod y plant sydd wir angen y maeth y mae'r brecwast yn ei roi iddynt yn gallu cael mynediad ato yn y dyfodol?