Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ynglŷn â sut y maent yn trefnu clybiau brecwast. Fe fyddwch yn gwybod, yn 2013-14, y flwyddyn ariannol honno, fod y mecanwaith ariannu ar gyfer brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd wedi newid o grant uniongyrchol, a bod yr arian hwnnw bellach yn cael ei ddarparu drwy'r grant cynnal refeniw. Mae'r brecwast am ddim, ond gall ysgolion ac awdurdodau lleol unigol godi tâl bach, er enghraifft, os defnyddir y clwb am gyfnod hwy o amser, ar gyfer gofal plant a gofal cofleidiol i bob pwrpas, y bydd rhai rhieni ei angen ac yn ei ddefnyddio. Ond ni ddylid codi tâl am y slot 30 munud ar gyfer brecwast am ddim.