Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 9 Ionawr 2019.
Wrth gwrs, Lywydd, mater i sefydliadau unigol yw recriwtio. Y fantais sydd gan fyfyrwyr Cymru yw'r system fwyaf blaengar a hael o gymorth i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.
O ran cymell myfyrwyr i astudio yng Nghymru, bydd yr Aelod yn ymwybodol, oherwydd, unwaith eto, trafodasom hyn y bore yma yn y pwyllgor, o ran cymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig, nid yw hwnnw ond ar gael i ymgeiswyr cymwys sy'n ymgymryd â'u hastudiaethau ôl-raddedig mewn sefydliad yng Nghymru.