Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rhaid i'r dyfodol barhau i ymwneud ag arfogi ein pobl, ein lleoedd a'n busnesau i addasu i newid er mwyn wynebu'r dyfodol gyda hyder. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddais ychydig cyn y Nadolig, a nodai ystod o argymhellion ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud gwell defnydd o ddarpariaeth ddigidol. Ac un o gasgliadau allweddol yr adroddiad hwnnw, a ddatblygwyd gyda phanel o arbenigwyr, yw'r angen i sicrhau bod gan y sector cyhoeddus y sgiliau priodol i fanteisio ar gyfleoedd technoleg ddigidol.
Y llynedd, comisiynodd pwyllgor yr economi, dan gadeiryddiaeth Russell George, ymchwiliad i effaith deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth a derbyniodd Llywodraeth Cymru lawer o argymhellion yr adroddiad hwnnw, o ran sut y gall Cymru addasu i newidiadau a chyfleoedd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac rydym bellach yn gweithio i'w rhoi ar waith.
Consensws cyffredinol yr holl adroddiadau hyn, yn ogystal â gwaith ymchwil gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Banc Lloegr a llawer o rai eraill, yw fod technoleg yn trawsnewid, a bydd yn parhau i drawsnewid, y ffordd rydym yn gweithio, yn byw ac yn gwneud busnes. Caiff cyflymder y newid ei bennu gan rymoedd y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae gan y Llywodraeth rôl bwysig yn arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen a darparu'r seilwaith galluogi i baratoi'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyfer y newidiadau a wynebwn. Nid yw'r newid yn y sgiliau'n ymwneud yn unig â datblygu sgiliau digidol neu sgiliau TGCh. Bydd angen set fwy cymhleth o sgiliau ar yr economi a chyflogwyr i gynnal y sgiliau digidol hyn—sgiliau datrys problemau uwch, sgiliau rhyngbersonol, meddwl yn greadigol, gweithio mewn tîm. Caiff y rhain oll eu defnyddio'n helaeth mewn gwaith yn y dyfodol, a dyma'r mathau o bethau na all peiriannau mo'u gwneud—pobl yn unig sy'n gallu eu gwneud.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddiogelu'r gweithlu ar gyfer y dyfodol cyn belled ag y gallwn. Nid yw awtomeiddio tasgau ailadroddus a rhagweladwy yn newydd; mae wedi bod yn digwydd ers y chwyldro diwydiannol. Yr hyn sy'n newydd yw'r ystod o dasgau a sectorau yr effeithir arnynt a'r cyflymder yr effeithir arnynt. Yn draddodiadol, gwelwyd yr effaith fwyaf mewn gweithgynhyrchu. Yn y dyfodol, ac wrth inni siarad, mae hynny'n lledaenu ar draws yr economi. Mae Bill Gates wedi dweud ein bod yn tueddu i oramcangyfrif cyflymder y newid yr ydym yn debyg o'i weld yn y ddwy flynedd nesaf, ond yn tanamcangyfrif cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld yn y 10 mlynedd nesaf. Rwyf wedi mynegi pryderon ac wedi trefnu cyfarfodydd bwrdd crwn ar yr effaith a gaiff y newidiadau hyn mewn proffesiynau fel y gyfraith a chyfrifyddiaeth—meysydd na chawsant eu cyffwrdd o'r blaen gan awtomatiaeth, ond sydd bellach yn wynebu'r newid hwn yn eglur iawn.
Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn gallu deall y bydd cyfleoedd newydd i'w cael mewn meysydd megis amaethyddiaeth fanwl a'r defnydd o dechnoleg newydd wrth gynhyrchu bwyd. Ond yn ogystal â chanolbwyntio ar rolau swyddi risg uchel, dylem dderbyn hefyd efallai na fydd awtomatiaeth yn effeithio mor sylweddol ar rai galwedigaethau, yn enwedig swyddi mewn sectorau cymdeithasol megis iechyd a gofal, ond fe fydd yna effaith arnynt hwy hefyd. Bydd mwy a mwy o swyddi yn y maes hwnnw'n cael eu cynorthwyo gan beiriannau. A bydd hyd yn oed y bobl mewn swyddi yr ydym yn ystyried eu bod y tu allan i'r sector technoleg angen sgiliau i allu gweithio ochr yn ochr â'r dechnoleg.
Nawr, mae'n deg dweud bod buddsoddiad cyflogwyr ac ymwneud cyflogwyr â hyfforddiant yn dal yn her i Gymru fel y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Ni all y Llywodraeth ysgwyddo'r baich o gyllido addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ar ei phen ei hun, a bydd angen i chi greu system sy'n cymell cyflogwyr i fuddsoddi ochr yn ochr â'r cymorth a fydd ar gael drwy'r Llywodraeth. Mae angen inni ymrwymo i ddysgu gydol oes go iawn; dylai'r llwybr o'r gwaith i addysg ac yn ôl eto fod yn hawdd i unrhyw berson yng Nghymru. Rydym yn newid swyddi a gyrfaoedd—yn enwedig yn y gêm hon—yn amlach nag y gwnaethom erioed o'r blaen, ac mae gallu ailhyfforddi i ateb anghenion swyddi newydd yn hanfodol, ac mae pwysau awtomatiaeth sydd ar y ffordd yn atgyfnerthu ac yn cyflymu'r angen hwn.
Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy grynhoi rhai o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i'r heriau hyn. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo unigolion i wella'u sgiliau ac i addasu eu sgiliau i anghenion newidiol y farchnad lafur, ac rydym wedi gofyn i'r Athro Phil Brown, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd i arwain yr adolygiad o oblygiadau arloesedd digidol i ddyfodol y gweithlu. Mae'n bwriadu cyhoeddi ei ganfyddiadau interim yn yr wythnosau nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwn yn eu trafod yn y Siambr. Bydd rhaglen newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i bobl o bob oed oresgyn rhwystrau a meithrin sgiliau i gael a chadw swyddi da. Ac rydym yn uwchraddio ein darpariaeth brentisiaethau yn barhaus drwy ehangu'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac rydym wedi ategu'r ymrwymiad hwn drwy gynyddu refeniw yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun prentisiaeth yng Nghymru. Bydd cynlluniau peilot yn dechrau cyn bo hir hefyd i brofi dull diwygiedig o weithredu cyfrifon dysgu unigol. Bydd hyn yn caniatáu i unigolion cyflogedig ariannu ailhyfforddiant galwedigaethol personol mewn sectorau lle y ceir prinder sgiliau. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau trefniadau ar gyfer gweithredu'r cynlluniau peilot hyn. Caiff hyn oll ei gynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd newydd, a'i seilio ar raglenni arloesol megis Creu Sbarc, y gwn y bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol ohoni, ac os nad ydych, buaswn yn eich annog i gysylltu â hwy; rhaglen ysbrydoledig yw hi i helpu busnesau technoleg newydd drwy ysgogi ac ennyn diddordeb pawb yn ecosystem Cymru er mwyn cefnogi arloesedd a hybu entrepreneuriaeth.
Nid oes unrhyw ddiben ceisio cysuro ein hunain â'r syniad nad oes angen i awtomatiaeth ddigwydd yma, meddai Harold Wilson yn yr araith honno, ac roedd yn llygad ei le. Ni allwn atal awtomatiaeth, felly rhaid inni ei harneisio. Diolch.