– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 9 Ionawr 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? A gaf fi ofyn i'r Aelodau beidio â chael sgyrsiau yn y Siambr? Os ydych chi'n aros, eisteddwch. Os nad ydych, ewch allan yn gyflym os gwelwch yn dda.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Mohammad Asghar i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Pan ddeuthum i'r Deyrnas Unedig yn 1970, roeddwn wedi gwneud fy BA mewn gwyddor gwleidyddiaeth a chymdeithaseg a rhoddwyd cyfle i mi astudio cyfrifiaduron, neu TG fel y'i gelwir heddiw, yn Llundain. IBM 360 model 30—roedd yn fwy o lawer na bwrdd cyfan y Llywydd. Yn y dyddiau hynny, roedd cyfrifiaduron bron â bod mor fawr ag ystafell wely ddwbl, ac mae'n fy rhyfeddu'n barhaol cymaint y mae technoleg wedi datblygu ers hynny.
Yn ddiweddar, darllenais erthygl lle y dywedodd sylfaenydd SpaceX a chrëwr Paypal, Elon Musk, rywbeth rwy'n cytuno'n gryf iawn ag ef. Dywedodd nad yw o bwys, os ydych yn gyd-sylfaenydd neu'n brif swyddog gweithredol, rhaid i chi wneud pob math o dasgau nad ydych efallai am eu gwneud... Os nad ydych yn gwneud y mân orchwylion, ni fydd y cwmni'n llwyddo... Nid oes yr un dasg sy'n rhy isel.
Felly, bydd pob sgìl y byddwch yn ei dysgu mewn bywyd yn handi rywbryd. Ac efallai na fyddwn yn ei weld ar y pryd, ond fe wnawn ymhen amser.
Yn ôl Sundar Pichai, prif weithredwr Google—mae technoleg yn datblygu y tu hwnt i ffonau, ac mae pobl yn ei defnyddio mewn cyd-destun ar draws nifer o senarios, boed yn eu set deledu, boed yn eu car, boed yn rhywbeth y maent yn ei wisgo ar eu harddwrn neu hyd yn oed rhywbeth llawer mwy tri dimensiwn.
Yn sicr, rydym yn byw mewn byd lle na all y rhan fwyaf ohonom weithredu hyd yn oed heb ein ffonau, ein cyfrifiaduron llechen, ein gliniaduron neu ein cyfrifiaduron. Rwy'n cyfaddef nad wyf y person mwyaf gwybodus ar y blaned ym maes TG, ond gwn fod y byd yn datblygu ar gymaint o gyflymder fel bod yn rhaid i bawb ohonom yng Nghymru ddal i fyny ag ef. A ydym yn gwneud hynny mewn gwirionedd? Efallai y cofiwch mai un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ar ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Honnai cefnogwyr datganoli fod hyn wedi'i adlewyrchu ym methiant cymharol economi Cymru. Honnent fod Cymru'n rhy ddibynnol ar y sector cyhoeddus am swyddi, fod diweithdra'n uwch a'r gweithlu'n llai medrus nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthym mai atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru yn unig a allai ddatrys y problemau economaidd hyn. Heddiw, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, mae'n dristwch imi orfod dweud mai Cymru sydd â'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Cyflogau wythnosol gweithwyr yng Nghymru yw'r rhai isaf, ac mae lefelau diweithdra yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU. A cheir bwlch sgiliau difrifol yng Nghymru.
Hanner cant a phump o flynyddoedd yn ôl, myfyriodd y Prif Weinidog, Harold Wilson, ar gyflymder newid technolegol a goblygiadau hynny i ddiwydiant. Os oedd y wlad i ffynnu, rhybuddiodd, byddai angen creu Prydain newydd yng ngwres gwyn chwyldro gwyddonol. Mae hynny'n wir am Gymru heddiw. Mae angen inni roi hwb i'r economi drwy fynd i'r afael â rhwystrau i dwf. Mae'r bwlch sgiliau cynyddol, yn enwedig ym maes sgiliau digidol, yn llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i ddatblygu.
Fel y dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain:
Mae'n bosibl mai prinder sgiliau a llafur fydd y maen melin mwyaf i fusnesau yn 2018, gan mai pobl yn y pen draw sy'n gwneud i fusnesau weithio.
Mae mynegai datblygu digidol Barclays 2017, a ddadansoddodd 88,000 o hysbysebion swyddi a 6,000 o oedolion yn y DU, yn honni bod gweithwyr Cymru yn sgorio ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU am eu sgiliau digidol. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae cyflogwyr Cymru yn barod i dalu premiwm i weithwyr sydd â galluoedd prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol. Mae lefel medr ddigidol pobl yn prysur ddod yn ffactor allweddol sy'n penderfynu eu grym ennill. Yn ôl banc Barclays, gall meddu ar sgiliau digidol ychwanegu mwy na £11,500 flwyddyn at eich enillion posibl yng Nghymru. Mae'r rhyngrwyd wedi gwneud y cae chwarae'n llawer mwy gwastad i fusnesau, yn enwedig o ran gallu cwmni i gyrraedd eu cynulleidfa neu eu marchnad. Mae hefyd wedi gostwng y bar ar gyfer mynediad at fusnes yn ddramatig fel bod eu gwefan, i lawer o fusnesau newydd, yn bwynt ymgysylltu ac yn fan gwerthu iddynt.
Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU ynghylch menter ddigidol gyda'r nod o ddatrys y prinder sgiliau digidol. Mae'r Sefydliad Codio gwerth £40 miliwn yn gytundeb partneriaeth gyda chwmnïau technoleg blaenllaw, prifysgolion a chyrff y diwydiant mewn ymgais i gryfhau sgiliau digidol yn y wlad hon yn y dyfodol. Lluniwyd y consortiwm o fwy na 60 o brifysgolion, busnesau ac arbenigwyr y diwydiant. Bydd mewnbwn pendant gan gyflogwyr i'r cwricwlwm, gan weithio law yn llaw â'r prifysgolion i ddatblygu sgiliau arbenigol yn yr ardaloedd lle y mae fwyaf o'u hangen. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithio mewn cydweithrediad â San Steffan drwy gadarnhau bod prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn mynd i gael cyllid i ehangu codio mewn ysgolion, colegau a chymunedau.
Mae addysg yn ganolog i sicrhau bod gennym sgiliau i ymdopi yn ein bywydau digidol, ond y ffaith amdani yw eu bod yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr yn cael trafferth dal i fyny. Mae sgiliau'n newid yn gyflymach nag y gall darparwyr addysg ffurfiol ddal i fyny â hwy. Mae'r diwydiant yn newid mor gyflym, ac erbyn yr amser y caiff y cwricwlwm ei lunio a'i gymeradwyo gan gyrff amrywiol ac y bydd myfyrwyr yn graddio yn y pen draw, rydych yn sôn am ddegawd bron o'r dechrau i'r diwedd.
Mae angen ymrwymiad hirdymor a chydlynol gan Lywodraeth Cymru tuag at 'Gymru ddigidol', o sgiliau i seilwaith. Fodd bynnag, mae Estyn yn dweud nad yw cynnydd disgyblion mewn sgiliau digidol wedi dal i fyny â'r dechnoleg. Maent yn honni bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau TGCh ar draws y pynciau yn gyfyngedig mewn llawer o ysgolion uwchradd ac mewn traean o ysgolion cynradd. Mewn ychydig o dan ddwy ran o dair o ysgolion cynradd, ceir diffygion pwysig o ran safonau TGCh. Rhaid i mi gyfaddef, er bod y rhan fwyaf o bobl yn hyderus wrth ddefnyddio rhaglenni megis y rhai ar gyfer prosesu geiriau a chreu cyflwyniadau, mae eu sgiliau'n aml yn gyfyngedig i ystod gul o gymwysiadau. Un o'r nifer o bryderon yw fod Llywodraeth Cymru yn methu hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gam cynnar.
Mae gwybodaeth gyrfaoedd mewn ysgolion am brentisiaethau yn hanfodol os ydym i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr hyfforddedig sydd eu hangen yn daer ar ein heconomi. Ar hyn o bryd, ceir problemau gydag ansawdd ac argaeledd cyngor gyrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgolion. Mae ysgolion hefyd yn dangos tueddiad i annog disgyblion i astudio at Safon Uwch yn hytrach na phrentisiaethau.
Mae angen i sefydliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith gael mwy o fynediad at ysgolion i ehangu'r ystod o gyngor a gaiff pobl ifanc am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n peri pryder a diffyg cynrychiolaeth o blith pobl anabl a welwn ar hyn o bryd mewn prentisiaethau yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, mae angen i Gymru wynebu'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr economi fyd-eang fodern. Yn Google, pa bryd bynnag y byddant yn cynllunio i wneud naid uchelgeisiol tuag at gynnyrch neu wasanaeth newydd, maent yn ei alw'n 'moonshot'. Mae'n siŵr fod pawb ohonoch wedi clywed yr ymadrodd hwnnw—'Os anelwch am y lleuad, fe fyddwch chi o leiaf yn glanio ymysg y sêr.' Rwy'n credu bod angen inni annog pobl o bob oedran a chefndir, o bob cwr o Gymru, i fod yn ddigon dewr i anelu am y lleuad a rhoi cynnig ar eu 'moonshots' eu hunain.
Ddirprwy Lywydd, sgiliau digidol yw ein dyfodol, pa un a ydych yn gweithio ym maes iechyd, addysg, trafnidiaeth—unrhyw faes. O fewn yr 20 mlynedd diwethaf yn unig—dim ond 20 mlynedd—mae datblygiad digidol ym mhob agwedd ar fywyd wedi newid gwareiddiad yr economi fyd-eang, diwydiant byd-eang—. Digidol, digidol, digidol yw pob agwedd ar fywyd. Felly, rhaid inni gael meysydd penodol, pa un a ydynt yn sgiliau strategol, sgiliau sy'n darparu gwybodaeth, sgiliau offerynnol neu sgiliau digidol—rydym angen sgiliau eraill, ac mae angen inni hyfforddi ein plant i wneud yn siŵr nad ydynt ar ei hôl hi oherwydd bod y wlad—. Nid oes prinder arian ar gyfer addysg yma, felly os oes raid inni ddatblygu ein heconomi a'r dyfodol gorau i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni roi hwb cadarn a chefnogaeth lawn iddynt drwy sicrhau bod eu sgiliau digidol yn cael sylw llawn yn ein cwricwlwm. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Lee Waters?
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos mai ychydig fisoedd yn ôl y safwn yn y Siambr hon yn gwneud araith debyg yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar sgiliau digidol, a hynny oherwydd mai ychydig fisoedd yn ôl yn unig y gwneuthum yr araith honno.
Hoffwn ddiolch i Mohammad Asghar am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n bwysig inni weithio ar draws y pleidiau ar yr agenda hon, ac fe'm trawyd gan ei ddyfyniad o araith enwog Harold Wilson yn 1963. Aeth Harold Wilson yn ei flaen i ddweud nerth, diddyledrwydd, dylanwad Prydain, pethau y mae rhai'n dal i feddwl eu bod yn dibynnu ar rithiau hiraethus... mae'r pethau hyn yn mynd i ddibynnu dros weddill y ganrif hon i raddau nas gwelwyd o'r blaen ar ba mor gyflym y down i delerau â byd o newid.
Mae hyn mor wir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Rwy'n credu'n gryf mewn gwneud yn siŵr y gall Cymru ddod i delerau â, ac addasu i'r byd o newid y soniai Harold Wilson amdano yn yr araith y dyfynnodd Oscar ohoni. Mae awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn mynd i ddod â newidiadau mawr i'r gweithle ac maent wedi bod yn gwneud hynny o dan ein trwynau. Mae perygl y caiff unrhyw swydd sy'n cynnwys tasgau ailadroddus ar draws pob diwydiant ei hawtomeiddio. Ein rôl yw gweld technolegau newydd fel modd o ryddhau pobl i wneud pethau na all peiriannau mo'u gwneud. Fel yr eglurodd y Prif Weinidog newydd, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn darparu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol ac yn annog cwmnïau i adleoli pobl y mae eu tasgau'n cael eu trosglwyddo i ddeallusrwydd artiffisial eu gwneud fel y gellir harneisio eu medr a'u creadigrwydd er mwyn datblygu eu busnesau a chynorthwyo gwasanaethau rheng flaen.
Rhaid i'r dyfodol barhau i ymwneud ag arfogi ein pobl, ein lleoedd a'n busnesau i addasu i newid er mwyn wynebu'r dyfodol gyda hyder. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddais ychydig cyn y Nadolig, a nodai ystod o argymhellion ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud gwell defnydd o ddarpariaeth ddigidol. Ac un o gasgliadau allweddol yr adroddiad hwnnw, a ddatblygwyd gyda phanel o arbenigwyr, yw'r angen i sicrhau bod gan y sector cyhoeddus y sgiliau priodol i fanteisio ar gyfleoedd technoleg ddigidol.
Y llynedd, comisiynodd pwyllgor yr economi, dan gadeiryddiaeth Russell George, ymchwiliad i effaith deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth a derbyniodd Llywodraeth Cymru lawer o argymhellion yr adroddiad hwnnw, o ran sut y gall Cymru addasu i newidiadau a chyfleoedd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac rydym bellach yn gweithio i'w rhoi ar waith.
Consensws cyffredinol yr holl adroddiadau hyn, yn ogystal â gwaith ymchwil gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Banc Lloegr a llawer o rai eraill, yw fod technoleg yn trawsnewid, a bydd yn parhau i drawsnewid, y ffordd rydym yn gweithio, yn byw ac yn gwneud busnes. Caiff cyflymder y newid ei bennu gan rymoedd y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae gan y Llywodraeth rôl bwysig yn arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen a darparu'r seilwaith galluogi i baratoi'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyfer y newidiadau a wynebwn. Nid yw'r newid yn y sgiliau'n ymwneud yn unig â datblygu sgiliau digidol neu sgiliau TGCh. Bydd angen set fwy cymhleth o sgiliau ar yr economi a chyflogwyr i gynnal y sgiliau digidol hyn—sgiliau datrys problemau uwch, sgiliau rhyngbersonol, meddwl yn greadigol, gweithio mewn tîm. Caiff y rhain oll eu defnyddio'n helaeth mewn gwaith yn y dyfodol, a dyma'r mathau o bethau na all peiriannau mo'u gwneud—pobl yn unig sy'n gallu eu gwneud.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddiogelu'r gweithlu ar gyfer y dyfodol cyn belled ag y gallwn. Nid yw awtomeiddio tasgau ailadroddus a rhagweladwy yn newydd; mae wedi bod yn digwydd ers y chwyldro diwydiannol. Yr hyn sy'n newydd yw'r ystod o dasgau a sectorau yr effeithir arnynt a'r cyflymder yr effeithir arnynt. Yn draddodiadol, gwelwyd yr effaith fwyaf mewn gweithgynhyrchu. Yn y dyfodol, ac wrth inni siarad, mae hynny'n lledaenu ar draws yr economi. Mae Bill Gates wedi dweud ein bod yn tueddu i oramcangyfrif cyflymder y newid yr ydym yn debyg o'i weld yn y ddwy flynedd nesaf, ond yn tanamcangyfrif cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld yn y 10 mlynedd nesaf. Rwyf wedi mynegi pryderon ac wedi trefnu cyfarfodydd bwrdd crwn ar yr effaith a gaiff y newidiadau hyn mewn proffesiynau fel y gyfraith a chyfrifyddiaeth—meysydd na chawsant eu cyffwrdd o'r blaen gan awtomatiaeth, ond sydd bellach yn wynebu'r newid hwn yn eglur iawn.
Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn gallu deall y bydd cyfleoedd newydd i'w cael mewn meysydd megis amaethyddiaeth fanwl a'r defnydd o dechnoleg newydd wrth gynhyrchu bwyd. Ond yn ogystal â chanolbwyntio ar rolau swyddi risg uchel, dylem dderbyn hefyd efallai na fydd awtomatiaeth yn effeithio mor sylweddol ar rai galwedigaethau, yn enwedig swyddi mewn sectorau cymdeithasol megis iechyd a gofal, ond fe fydd yna effaith arnynt hwy hefyd. Bydd mwy a mwy o swyddi yn y maes hwnnw'n cael eu cynorthwyo gan beiriannau. A bydd hyd yn oed y bobl mewn swyddi yr ydym yn ystyried eu bod y tu allan i'r sector technoleg angen sgiliau i allu gweithio ochr yn ochr â'r dechnoleg.
Nawr, mae'n deg dweud bod buddsoddiad cyflogwyr ac ymwneud cyflogwyr â hyfforddiant yn dal yn her i Gymru fel y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Ni all y Llywodraeth ysgwyddo'r baich o gyllido addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ar ei phen ei hun, a bydd angen i chi greu system sy'n cymell cyflogwyr i fuddsoddi ochr yn ochr â'r cymorth a fydd ar gael drwy'r Llywodraeth. Mae angen inni ymrwymo i ddysgu gydol oes go iawn; dylai'r llwybr o'r gwaith i addysg ac yn ôl eto fod yn hawdd i unrhyw berson yng Nghymru. Rydym yn newid swyddi a gyrfaoedd—yn enwedig yn y gêm hon—yn amlach nag y gwnaethom erioed o'r blaen, ac mae gallu ailhyfforddi i ateb anghenion swyddi newydd yn hanfodol, ac mae pwysau awtomatiaeth sydd ar y ffordd yn atgyfnerthu ac yn cyflymu'r angen hwn.
Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy grynhoi rhai o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i'r heriau hyn. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo unigolion i wella'u sgiliau ac i addasu eu sgiliau i anghenion newidiol y farchnad lafur, ac rydym wedi gofyn i'r Athro Phil Brown, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd i arwain yr adolygiad o oblygiadau arloesedd digidol i ddyfodol y gweithlu. Mae'n bwriadu cyhoeddi ei ganfyddiadau interim yn yr wythnosau nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwn yn eu trafod yn y Siambr. Bydd rhaglen newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i bobl o bob oed oresgyn rhwystrau a meithrin sgiliau i gael a chadw swyddi da. Ac rydym yn uwchraddio ein darpariaeth brentisiaethau yn barhaus drwy ehangu'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac rydym wedi ategu'r ymrwymiad hwn drwy gynyddu refeniw yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun prentisiaeth yng Nghymru. Bydd cynlluniau peilot yn dechrau cyn bo hir hefyd i brofi dull diwygiedig o weithredu cyfrifon dysgu unigol. Bydd hyn yn caniatáu i unigolion cyflogedig ariannu ailhyfforddiant galwedigaethol personol mewn sectorau lle y ceir prinder sgiliau. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau trefniadau ar gyfer gweithredu'r cynlluniau peilot hyn. Caiff hyn oll ei gynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd newydd, a'i seilio ar raglenni arloesol megis Creu Sbarc, y gwn y bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol ohoni, ac os nad ydych, buaswn yn eich annog i gysylltu â hwy; rhaglen ysbrydoledig yw hi i helpu busnesau technoleg newydd drwy ysgogi ac ennyn diddordeb pawb yn ecosystem Cymru er mwyn cefnogi arloesedd a hybu entrepreneuriaeth.
Nid oes unrhyw ddiben ceisio cysuro ein hunain â'r syniad nad oes angen i awtomatiaeth ddigwydd yma, meddai Harold Wilson yn yr araith honno, ac roedd yn llygad ei le. Ni allwn atal awtomatiaeth, felly rhaid inni ei harneisio. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.